Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw ynglŷn â Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, rwy’n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2020-21.
Wrth baratoi’r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a dderbyniais i’r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 3 Chwefror. Ni nodwyd unrhyw faterion yn yr ymatebion hynny a oedd yn gofyn am newid y dull gweithredu ar gyfer y setliad terfynol. Gallaf gadarnhau felly fy mod yn bwriadu pennu bod cyllid refeniw craidd llywodraeth leol ar gyfer 2020-21 yn £4.474 biliwn. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2020-21 yn cynyddu o 4.3% ar sail tebyg at ei debyg o’i gymharu â'r flwyddyn bresennol.
Rwyf wedi ystyried yn ofalus y posibilrwydd o gynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad hwn. Gan ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â chyllideb eleni, penderfynwyd neilltuo’r holl gyllid oedd ar gael adeg pennu’r setliad dros dro. Gan gadw mewn cof hefyd y bydd y setliad hwn yn golygu bod pob awdurdod yn gweld cynnydd o 3% o leiaf yn ystod 2019-20 ar sail tebyg at ei debyg, rwyf wedi penderfynu peidio â chynnwys cyllid gwaelodol yn yr achos hwn.
Yn ogystal â’r cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarperir drwy’r setliad, rwy’n cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am grantiau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2020-21. Mae’r rhain yn fwy nag £1 biliwn ar gyfer refeniw ac dros £580 miliwn ar gyfer cyfalaf.
Mae’r setliad hwn yn darparu’r platfform mwyaf sefydlog y gallaf ei gynnig i lywodraeth leol ar gyfer cynllunio’r gyllideb at y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rwy’n llwyr werthfawrogi’r pwysau y mae llywodraeth leol yn parhau i’w hwynebu yn dilyn degawd o gyni cyllidebol. Mae’r setliad hwn yn un da sy’n ymateb i’r pwysau yr oedd llywodraeth leol wedi bod yn ei rhagweld ac mae’n cynnig cyfle i gynllunio at y dyfodol.
Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn yn nodi dyraniadau’r setliad yn ôl awdurdod. O ganlyniad i’r fformiwla a’r data cysylltiedig, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, mae’r tabl yn dangos yr ystod o ddyraniadau cyllid, o gynnydd o 3% ar gyfer setliad 2019-20 i gynnydd o 5.4%.
Bydd rhagor o fanylion y setliad yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol a’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:
Setliad refeniw a chyfalaf llywodraeth leol: terfynol 2020 i 2021
Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo ar gyfer 2020-21 yn parhau yn £198 miliwn (gan gynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus). Gobeithiaf y bydd y cyllid hwn yn eich galluogi i ymateb i’r ffaith bod angen mynd i’r afael â’r agenda ddatgarboneiddio ar fyrder, yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru a llawer o gynghorau wedi cyhoeddi amdano dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rwy’n gwybod y bydd awdurdodau eisoes wedi gwneud dewisiadau anodd wrth bennu eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac yn ei dro y dreth gyngor. Bydd rhaid i’r holl awdurdodau ystyried yr amrywiaeth gyfan o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â’r pwysau y maent yn eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Bydd y ddadl ar y cynnig i’r Senedd gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2020-21 yn cael ei chynnal ar 3 Mawrth 2020.