Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi manylion Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2016-17, gan gynnwys dyraniadau cyllid craidd ar gyfer Awdurdodau Lleol unigol.
Wrth baratoi'r Setliad Terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ynghylch y Setliad Dros Dro. Rwyf yn hyderus ei fod yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio ariannol Awdurdodau Lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Rwyf yn cyhoeddi Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2016-17 ddiwrnod ar ôl i Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi. Dyma'r cyfle cynharaf posibl o dan yr amgylchiadau.
Ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf yn gosod cyllid refeniw Llywodraeth Leol yn £4.102 biliwn. Nid yw hyn wedi newid o'r sefyllfa a gyhoeddais ar 10 Chwefror yn y Setliad Dros Dro wedi'i ddiweddaru yn dilyn y cyhoeddiad o £2.5 miliwn o gyllid ategol gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.
Mae'r cyfanswm yn cynrychioli gostyngiad o 1.3 y cant (£54 miliwn) o gymharu â 2015-16, ar ôl gwaith addasu ar gyfer trosglwyddiadau.
Er mai'r Setliad heb ei neilltuo yw'r ffynhonnell cyllid unigol fwyaf sydd ar gael i Awdurdodau, nid dyma'r unig un. Mae'n rhaid i awdurdodau ystyried yr holl ffrydiau incwm sydd ar gael iddynt wrth bennu eu cyllidebau ac wrth wneud penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau ar gyfer 2016-17.
Ochr yn ochr â'r Setliad, rwyf yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2016-17. Mae hyn yn rhoi darlun manwl i Awdurdodau Lleol o'r cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, gan eu galluogi i gyllidebu'n effeithiol.
Mae Tabl 1 yn nodi dosbarthiad terfynol Cyllid Allanol Cyfun rhwng y 22 o Awdurdodau ar gyfer 2016-17.
Yn unol â Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, ni allaf ddarparu arwyddion y tu hwnt i 2016-17.
Mae'r cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer 2016-17 wedi'i gynllunio i'w drafod ar 9 Mawrth 2016.