Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn dilyn fy nghyhoeddiad ynghylch Setliad Dros Dro yr Heddlu ym mis Rhagfyr, rwyf heddiw yn gosod gerbron y Cynulliad Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2018-19 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2018-19. Mae’n dilyn cwblhau’r broses ymgynghori ar y Setliad Dros Dro, a chyhoeddiad y Swyddfa Gartref heddiw ar ddyraniadau terfynol Grant yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona Cymru a Lloegr.
Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.
Fel y cyhoeddwyd yn Setliad Dros Dro yr Heddlu, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael setliad arian gwastad ar gyfer 2018-19 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2017-18.
Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn, ac nid ydynt wedi newid ers y Setliad Dros Dro. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2018-19 yw £349.9 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £140.9 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw heb ei neilltuo ac Ardrethi Annomestig.
Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol fod yn destun trafodaeth yn y Cynulliad ar 13 Chwefror.
Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma:
Cyllid Refeniw yr Heddlu
Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (RSG+NNDR, £m) |
|
|
|
| ||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| 2015-16 |
| 2016-17 |
| 2017-18 |
| 2018-19 |
Dyfed-Powys |
| 12.788 |
| 12.895 |
| 12.870 |
| 13.101 |
Gwent |
| 29.696 |
| 30.107 |
| 30.583 |
| 31.083 |
Gogledd Cymru |
| 21.308 |
| 21.578 |
| 21.907 |
| 22.122 |
De Cymru |
| 71.218 |
| 72.177 |
| 73.341 |
| 74.594 |
Cyfanswm |
| 135.010 |
| 136.757 |
| 138.700 |
| 140.900 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£m)1 |
|
| ||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| 2015-16 |
| 2016-17 |
| 2017-18 |
| 2018-19 |
Dyfed-Powys |
| 37.511 |
| 37.117 |
| 36.443 |
| 36.212 |
Gwent |
| 43.220 |
| 42.393 |
| 40.904 |
| 40.404 |
Gogledd Cymru |
| 51.854 |
| 51.167 |
| 49.821 |
| 49.606 |
De Cymru |
| 89.338 |
| 87.463 |
| 84.066 |
| 82.812 |
Cyfanswm |
| 221.923 |
| 218.140 |
| 211.234 |
| 209.034 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£m) |
|
|
|
| ||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| 2015-16 |
| 2016-17 |
| 2017-18 |
| 2018-19 |
Dyfed-Powys |
| 50.299 |
| 50.012 |
| 49.313 |
| 49.313 |
Gwent |
| 72.917 |
| 72.501 |
| 71.487 |
| 71.487 |
Gogledd Cymru |
| 73.162 |
| 72.745 |
| 71.728 |
| 71.728 |
De Cymru |
| 160.555 |
| 159.639 |
| 157.407 |
| 157.407 |
Cyfanswm |
| 356.933 |
| 354.897 |
| 349.934 |
| 349.934 |
Nodiadau:
1 Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 o Adroddiad Grant yr Heddlu sy'n cynnwys y dyraniad o dan 'Prif Fformiwla' ac 'Ychwanegu Rheol 1' (colofnau a a b) plws swm y 'cyllid gwaelodol' y mae'r Swyddfa Gartref wedi'i sicrhau sydd ar gael.