Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf yn cyhoeddi ffigurau sy'n dangos effaith cynhwyso lleddfu i Setliadau Refeniw Llywodraeth Leol rhwng 2011-12 a 2015-16.

Mae Tabl 1 yn dangos sut y mae arian wedi cael ei ailddosbarthu rhwng Awdurdodau Lleol o ganlyniad i leddfu.

Cafodd lleddfu - neu gyllid gwaelodol - ei gymhwyso yn 2011-12, 2014-15 a 2015 16. Mae unrhyw benderfyniad i ddefnyddio lleddfu’n cael ei wneud bob blwyddyn. Rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu setliad llawer gwell na'r disgwyl eleni, a hynny trwy flaenoriaethu gofalus. Mesur dros dro yw lleddfu i gymedroli effaith newidiadau mewn blynyddoedd unigol. Ni fwriedir iddo gael ei ddefnyddio bob blwyddyn. Yr egwyddor graidd sefydledig ar gyfer dosbarthu cyllid i’r Awdurdodau Lleol drwy'r Setliadau blynyddol yw bod y dyraniadau’n seiliedig ar angen cymharol.

Mae'r angen cymharol yn cael ei gyfrifo drwy fformiwla fanwl sy'n cymryd i ystyriaeth nodweddion demograffig, cymdeithasol, economaidd a ffisegol pob Awdurdod. Adolygir a chytunir ar y fformiwla bob blwyddyn gyda Llywodraeth Leol. Byddai defnyddio lleddfu o flwyddyn i flwyddyn yn erydu'r cyswllt rhwng cyllid a'r angen cymharol i wario, gan symud cyllid oddi wrth yr Awdurdodau hynny a aseswyd fel rhai sydd â'r angen mwyaf o’u cymharu ag Awdurdodau eraill.

Mae'r tabl yn dangos pa Awdurdodau sydd wedi bod yn gyfranwyr net i leddfu ac sydd wedi elwa arno. Caerdydd sydd wedi cyfrannu fwyaf, Powys sydd wedi elwa fwyaf ac mae'r ffigurau yn dangos y cymysgedd o Awdurdodau yn y canol. Mae hyn yn darparu tystiolaeth bellach nad oedd y fformiwla cyllid gwaelodol yn ffafrio unrhyw Awdurdod unigol neu fathau penodol o Awdurdodau.