Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2025-26, bydd yr awdurdodau lleol yn cael £6.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru o’r Grant Cynnal Refeniw ac ar ffurf ardrethi annomestig. Byddant yn cael y cyllid hwn i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Golyga hyn y bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2025-26 yn cynyddu 4.3%, ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. 

Croesewir yr arian ychwanegol a ddarperir drwy Gyllideb yr Hydref wrth i ni ddod allan o'r cyfnod hir o gyni a orfodwyd gan Lywodraethau blaenorol y DU, yn ogystal ag amryw o argyfyngau economaidd fel chwyddiant cynyddol. Mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 yn fwy nag £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU. Fodd bynnag, ni all pedair blynedd ar ddeg o gyllid cyhoeddus cyfyngedig gael ei gwrthdroi mewn un gyllideb yn unig. Bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer.

Hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith caled a'r gwydnwch a ddangoswyd ar draws y sector gan swyddogion ac aelodau etholedig dros sawl blwyddyn. Rydym wedi bod trwy gyfnod hir o gyni yn y sector cyhoeddus gyda chynnydd yn y galw am brif wasanaethau, pandemig a chyfnod o chwyddiant anghyffredin. 

Wrth inni ddatblygu’r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26, a gafodd ei chyhoeddi ddoe, rydym wedi rhoi blaenoriaeth unwaith eto, i'r graddau y bo hynny’n bosibl, i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd y rheng flaen, cefnogi'r aelwydydd hynny sydd wedi cael eu taro fwyaf a blaenoriaethu swyddi. 

O ganlyniad, felly, rydym wedi darparu cynnydd o 4.3% yn y setliad llywodraeth leol. Yn unol â'n pwyslais ar gefnogi aelwydydd, mae hyn hefyd yn parhau i ddiogelu’r aelwydydd hynny sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal hawliadau llawn yn 2025-26 drwy ddarparu £244 miliwn yn y setliad. 

Yn ogystal â'r setliad craidd, rwy'n cyhoeddi gwybodaeth ddangosol ar grantiau refeniw a chyfalaf penodol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2025-26, sy'n dod i bron £1.1 biliwn ar gyfer refeniw a thros £1.0 biliwn ar gyfer cyfalaf ar y cam dros dro hwn. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn deall y pwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu. Rwy’n croesawu’r lefel uwch o gyllid gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â’r ffordd bragmatig y mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu o fewn y cyllid sydd ar gael.

Nid yw'n briodol i Lywodraeth Cymru fynd ati i osod lefel fympwyol o gynnydd yn y dreth gyngor. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod cyllidebau, a'r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau ystyried pob ffynhonnell o gyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu. Rwy'n annog cynghorau i barhau i bwyso a mesur yn ofalus y pwysau hynny gydag effaith y cynnydd ar gyllid aelwydydd. Rwy’n gwybod y bydd arweinwyr, aelodau etholedig a swyddogion ym mhob ardal o Gymru yn ymdrechu i ddod o hyd i ddulliau o ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’w cymunedau. 

Fel y cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig a fydd o fudd i bob trethdalwr yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi cap o 1% ar y cynnydd i’r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2025-26, ar gost flynyddol reolaidd o £7 miliwn i gyllideb Cymru. O ganlyniad i'r cap hwn mae elfen Grant Cynnal Refeniw y setliad wedi cynyddu cyfwerth â £7 miliwn. 

Ochr yn ochr â'r setliad, bydd y Llywodraeth hefyd yn buddsoddi £78 miliwn yn ychwanegol i ddarparu chweched flwyddyn yn olynol o gefnogaeth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'u biliau ardrethi annomestig. Mae'r cymorth parhaus hwn yn cydnabod y pwysau economaidd y mae'r busnesau hyn wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan adeiladu ar £1 biliwn o gymorth a ddyrannwyd drwy ein cynlluniau rhyddhad penodol ers 2020-21. 

Roedd y Gyllideb ddrafft yn nodi'r sefyllfa ar gyllid cyfalaf. Rwyf wedi cynyddu'r cyllid cyfalaf cyffredinol i awdurdodau lleol i £200 miliwn i gydnabod effaith chwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf hefyd wedi cynyddu cyllid ar gyfer y Grant Gwres Carbon Isel i £30 miliwn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio, er mwyn parhau â'n ffocws ar gyfrannu at gynllun Sero Net Cymru. 

Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn sy'n dangos dyraniadau'r setliad (Cyllid Allanol Cyfun (AEF)) yn ôl awdurdod. Mae’r dyraniadau yn deillio o gyfrifiadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol. 

Mae ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i leihau'r baich gweinyddol ar lywodraeth leol yn parhau i gydgrynhoi neu ddadneilltuo grantiau ar draws ystod eang o feysydd. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda chydweithwyr awdurdodau lleol i ddeall effeithiau'r newidiadau hyn wrth iddynt gael eu gwreiddio. Mae hon yn gonglfaen i ddatblygu perthynas strategol gyda llywodraeth leol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chanolbwyntio ar y canlyniadau y gellir eu cyflawni mewn partneriaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae'r Prif Weinidog yn glir bod yn rhaid i waith Llywodraeth Cymru gyda llywodraeth leol ganolbwyntio ar gyflawni a sicrhau canlyniadau i bobl Cymru. 

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru: wefan Llywodraeth Cymru

Tabl Cryno
Setliad Dros Dro 2025-26 o'i gymharu â AEF terfynol wedi'i addasu 2024-25
 AEF 2024-25 (£000)1 AEF 2025-26 (£000)Newid (£000)% y newidSafle
Ynys Môn 130,889135,6054,7163.6%16
Gwynedd239,101246,8187,7173.2%20
Conwy210,750218,5867,8353.7%14
Sir Ddinbych205,561215,2229,6614.7%7
Sir y Fflint266,074274,7798,7053.3%19
Wrecsam 239,036249,51110,4754.4%11
Powys242,414250,1847,7703.2%21
Ceredigion138,958143,9384,9803.6%17
Sir Benfro224,858232,9668,1073.6%15
Sir Gaerfyrddin361,072375,74714,6744.1%12
Abertawe 447,243468,46921,2264.7%5
Castell-nedd Port Talbot 293,239306,21712,9774.4%10
Pen-y-bont ar Ogwr 266,124276,64010,5164.0%13
Bro Morgannwg216,058223,4207,3623.4%18
Rhondda Cynon Taf497,940521,27923,3394.7%8
Merthyr Tudful126,720133,1486,4275.1%3
Caerffili357,880373,98016,1014.5%9
Blaenau Gwent147,440154,5327,0924.8%4
Torfaen183,576192,2158,6404.7%6
Sir Fynwy130,062133,7043,6422.8%22
Casnewydd311,772329,31117,5385.6%1
Caerdydd130,889135,6054,7163.6%2
Cyfanswm yr awdurdodau unedol 5,877,3846,130,839253,4564.3% 

Sylwer: Efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio'n gywir o ganlyniad i dalgrynnu

1. AEF 2024-25 wedi’i addasu ar gyfer sylfaen drethu ddiweddaraf 2025-25 a throsglwyddiadau ar brisiau 2024-25.