Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn 2024-25, bydd yr awdurdodau lleol yn cael £5.7bn gan Lywodraeth Cymru o’r Grant Cynnal Refeniw ac ar ffurf ardrethi annomestig wedi’u hailddosbarthu. Byddant yn cael y cyllid hwn i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Golyga hyn y bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2024-25 yn cynyddu o 3.1%, ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol.
Mae cyllid ychwanegol o £1.3m yn cael ei ddarparu i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 2.0%.
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Nid yw ein setliad, sy'n cael ei ddarparu’n bennaf gan Lywodraeth y DU ar ffurf grant bloc, yn ddigonol i fodloni'r holl bwysau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu o ganlyniad i chwyddiant uchel parhaus ynghyd â’r cynnydd yn y galw am y gwasanaethau hyn. Wrth inni ddatblygu’r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, a gafodd ei chyhoeddi ddoe, rydym wedi rhoi blaenoriaeth, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd y rheng flaen. Rydym wedi cefnogi'r aelwydydd hynny sydd wedi cael eu taro fwyaf a blaenoriaethu swyddi, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
O ganlyniad, felly, rydym wedi diogelu'r cynnydd dangosol o 3.1% yn y setliad llywodraeth leol, ac yn unol â'n pwyslais ar gefnogi aelwydydd, mae hyn hefyd yn parhau i ddiogelu’r aelwydydd hynny sy'n agored i niwed a rhai incwm isel rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal hawliadau llawn yn 2024-25 drwy ddarparu £244m yn y setliad.
Yn ogystal â'r setliad craidd, rwy'n cyhoeddi gwybodaeth ddangosol ar grantiau refeniw a chyfalaf penodol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2024-25, sy'n dod i dros 1.3bn ar gyfer refeniw a thros £960m ar gyfer cyfalaf ar y cam dros dro hwn.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn deall y pwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu. Rwy'n falch o'r berthynas weithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos drwy CLlLC.
Mae'r galw am wasanaethau, ochr yn ochr â phwysau costau, a achosir gan chwyddiant sydd yn gyson uchel, yn golygu y bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd am wasanaethau, arbedion effeithlonrwydd a’r dreth gyngor wrth iddynt osod eu cyllidebau. Mae'n bwysig eu bod yn ymgysylltu mewn modd ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth iddynt ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Nid yw'n briodol i Lywodraeth Cymru fynd ati i osod lefel fympwyol o gynnydd yn y dreth gyngor. Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried yr amrediad llawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu. Rwy'n eu hannog i barhau i gydbwyso’n ofalus yr effaith a gaiff unrhyw gynnydd yn y dreth ar gyllid aelwydydd â’r effaith y bydd colli cymorth a gwasanaethau yn ei chael. Rwy’n gwybod y bydd arweinwyr, aelodau etholedig a swyddogion, fel ei gilydd, ym mhob ardal o Gymru yn ymdrechu i ddod o hyd i ddulliau o ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’w cymunedau.
Rwy'n darparu pecyn o gymorth ardrethi annomestig a fydd o fudd i bob talwr ardrethi yng Nghymru. Cyflwynais y pecyn hwn fel rhan o'r Gyllideb ddrafft ddoe. Byddwn yn rhoi cap o 5% ar y cynnydd yn y lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2024-25, ar gost flynyddol gylchol o £18m. Mae hyn yn is na'r cynnydd o 6.7% a fyddai’n berthnasol fel arall. Byddwn hefyd yn buddsoddi £78m arall i ddarparu cymorth am y bumed flwyddyn yn olynol i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ar gyfer talu eu biliau ardrethi annomestig. At hynny, rydym yn parhau i gefnogi talwyr ardrethi y mae eu hatebolrwydd wedi cynyddu yn dilyn yr ymarfer i ailbrisio ardrethi annomestig yn 2023. Mae ein cynllun rhyddhad trosiannol yn parhau i gyflwyno newidiadau yn raddol ar gyfer talwyr ardrethi cymwys ar gost o £38m yn 2024‑25.
Nodais y sefyllfa o safbwynt cyllid cyfalaf fel rhan o'r Gyllideb ddrafft. Rwyf wedi cynnal y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol ar £180m, y lefel ddangosol a osodwyd y llynedd. Gan gadw mewn cof bod costau yn cynyddu fwyfwy yn unol â chwyddiant yn y sector adeiladu, rwy’n gwybod y bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol edrych yn ofalus ar eu rhaglenni cyfalaf a phennu blaenoriaethu er mwyn parhau i fuddsoddi yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf hefyd wedi parhau i ddarparu £20m ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio, er mwyn parhau â'r pwyslais ar gyfrannu at gynllun Cymru Sero Net.
Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn sy'n dangos dyraniadau'r setliad (Cyllid Allanol Cyfun (AEF)) yn ôl awdurdod. Mae’r dyraniadau yn deillio o gyfrifiadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol.
Fel rhan o'n Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw awdurdodau yn cael eu llesteirio gan fiwrocratiaeth ddiangen. Yn ein trafodaethau, tynnodd mwyafrif helaeth yr awdurdodau lleol sylw at reoli a gweinyddu grantiau fel y gorbenion gweinyddol mwyaf beichus, a'r maes lle y mae’r cyfle gorau i newid er budd pawb.
Mae rhaglen waith ar y gweill i leihau nifer y grantiau unigol a delir i awdurdodau lleol o 2024-25 ac i ystyried symud grantiau i'r setliad sydd wedi’i ddadneilltuo pan fydd y cyd-destun ehangach yn golygu bod hynny yn briodol. Mae rhai meysydd eisoes wedi'u nodi ar gyfer newid ac mae'r Gyllideb ddrafft yn dangos sut rydym yn rhesymoli ac yn rhoi pwyslais newydd i grantiau penodol i addysg. O ran y meysydd hynny lle y mae’r gwaith ar y newidiadau wedi’i gwblhau eisoes, mae’r rhain wedi'u nodi yn y tablau grant a gyhoeddir fel rhan o'r setliad. Mae'r gwaith hwn yn parhau ac rwy'n disgwyl i ragor o newidiadau gael eu cyflwyno fel rhan o'r setliad terfynol. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder llwyr ynghylch y symudiadau fel y gall awdurdodau lleol ac eraill weld yn glir lle y gwnaed unrhyw newidiadau i’r cyllid.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.