Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi manylion dyraniadau cyllid craidd yr awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy Setliadau Refeniw a Chyfalaf Dros Dro Llywodraeth Leol ar gyfer 2023-24 (y Setliad), ynghyd â'r dyraniad cyllid craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2024-25.
Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 yn cynyddu o 7.9%, ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd yr un awdurdod yn derbyn llai na 6.5% o gynnydd. Yn 2023-24, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £5.5bn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig i’w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.
Yn ogystal â hyn, rwy'n cyhoeddi gwybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Ar gyfer 2023-24, mae’r grantiau hyn yn dod i gyfanswm o dros £1.3bn ar gyfer refeniw a thros £925m ar gyfer cyfalaf. Rydym yn darparu'r gwerthoedd grant dangosol hyn yn awr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau yn effeithlon. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru ymhellach yn y Setliad terfynol.
Mae'r dyraniad cyllid refeniw craidd ar lefel Cymru ar gyfer 2024-25 yn £5.69bn – sy’n cyfateb i gynnydd o £169m (3.1%). Ffigur dangosol yw hwn ac mae’n ddibynnol ar ein hamcangyfrifon presennol o incwm ardrethi annomestig yn ogystal â chyllidebau'r DU ar gyfer 2024-25.
Fel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol sy’n cael blaenoriaeth gan y Llywodraeth hon o hyd. Wrth wneud penderfyniadau am lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol, rwyf wedi ymateb i'r angen i gefnogi gwasanaethau rheng flaen allweddol. Yn benodol, rwyf wedi cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau i barhau i dalu'r costau ychwanegol o gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal ac i gefnogi pwysau ym maes addysg. Unwaith eto, rwyf wedi penderfynu darparu'r holl gyllid sydd ar gael o flaen llaw a pheidio â chadw cyllid yn ôl ar gyfer cydnabyddiaeth yn ystod y flwyddyn o’r dyfarniad cyflog i athrawon ar gyfer 2023/24. Felly, rhaid i awdurdodau ystyried y costau hyn wrth gynllunio eu cyllidebau.
Rwy'n gwybod bod llywodraeth leol wedi bod yn wynebu pwysau sylweddol ac wedi ceisio cydnabod effaith chwyddiant ar safonau byw y rhai hynny sy'n gweithio ym maes llywodraeth leol yn ogystal â'r gymuned ehangach. Rwy'n gobeithio bod y Setliad uwch hwn yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar gymunedau yn ogystal â chefnogi uchelgeisiau cenedlaethol a lleol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Setliad hwn yn rhoi llwyfan sefydlog i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a thu hwnt. Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, ac rydym yn gwerthfawrogi'r pwysau y mae awdurdodau yn eu hwynebu. Byddaf yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos â llywodraeth leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ochr yn ochr â'r Setliad, rydym yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi llywodraeth leol i hepgor ffioedd claddu plant. Mae'r ymrwymiad cyffredin hwn yn sicrhau dull teg a chyson ledled Cymru.
Yn unol â'n pwyslais ar weithredu yn erbyn effeithiau tlodi, rydym wedi ymrwymo o hyd i ddiogelu aelwydydd sy’n agored i niwed, incwm isel, rhag unrhyw ostyngiadau yn y cymorth a ddarperir o dan Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Rydym yn gweithredu fel hyn er gwaetha’r diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU wedi iddi ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal yn llawn unrhyw hawl i gymorth o dan ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ein hunain ar gyfer 2023-24 ac, unwaith eto, yn gydnabyddiaeth o hyn, rydym yn darparu £244m ar gyfer y Cynllun hwnnw yn y Setliad.
Fel y cyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr, rwy'n darparu pecyn cymorth ardrethi annomestig gwerth dros £460m ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n cynnal y dull a ddilynwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol ac yn rhewi'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2023-24. Mae hyn eto yn sicrhau na fydd swm yr ardrethi y mae busnesau a threthdalwyr eraill yn eu talu yn cynyddu yn unol â chwyddiant.
Rwyf hefyd yn cyflwyno rhyddhad trosiannol gwerth £113m, a ariennir yn llawn, ar gyfer pob trethdalwr y bydd cynnydd o dros £300 yn ei filiau yn dilyn yr ymarfer ailbrisio a gynhelir ledled y DU gyfan, a fydd yn cael effaith ar 1 Ebrill 2023.
Yn olaf, mae'r pecyn cymorth ardrethi annomestig hefyd yn darparu dros £140m o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Bydd trethdalwyr cymwys yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 75% drwy gydol 2023-24. Bydd cap o £110,000 ar y rhyddhad hwnnw fesul busnes ar gyfer yr holl weithgarwch a gynhelir ganddynt ledled Cymru. Mae ein dull gweithredu yn sicrhau y bydd busnesau yng Nghymru yn cael cymorth tebyg i'r hyn a ddarperir mewn rhannau eraill o'r DU.
Eglurais y sefyllfa o safbwynt y cyllid cyfalaf ar gyfer Llywodraeth Cymru fel rhan o’m datganiad ar y Gyllideb ddydd Mawrth. Roedd y setliad a gawsom gan Lywodraeth y DU yn siomedig ac nid yw'n ddigonol i fodloni ein huchelgeisiau i fuddsoddi yn nyfodol Cymru, gyda'n cyllideb gyfalaf gyffredinol 8.1% yn is mewn termau real na'r flwyddyn bresennol.
Ar ôl inni adolygu ein cyllidebau cyfalaf, cadarnhawyd bod y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 yn £180m a bydd yn parhau yn £180m ar gyfer 2024-25. Hyd yn oed wrth inni ymateb i'r heriau a achosir gan chwyddiant, rhaid inni beidio ag anghofio bod angen parhau i ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur a chyfrannu at y cynllun Cymru Sero Net yr ydym wedi’i ddatblygu gyda'n gilydd. Yn annibynnol ar hynny, rwy'n darparu £20 miliwn o gyllid cyfalaf ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio.
Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn, sy'n dangos dyraniadau'r Setliad (Cyllid Allanol Cyfunol (AEF)) fesul awdurdod. Mae’r dyraniadau yn deillio o'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol. O ganlyniad i'r fformiwla a’r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos ystod y dyraniadau cyllid, o gynnydd o 6.5% dros Setliad 2022-23 i gynnydd o 9.3%. O ystyried y cynnydd sylweddol, nid wyf yn bwriadu cynnwys cyllid gwaelodol y flwyddyn hon ac rwyf wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael yn y Setliad hwn.
Er bod hwn yn Setliad cymharol dda, sy’n adeiladu ar ddyraniadau gwell dros y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod bod y cyfraddau chwyddiant yr ydym wedi'u profi dros y misoedd diwethaf, a'r rhagolygon gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynghylch lefelau chwyddiant sylweddol parhaus, yn golygu y bydd dal angen i lywodraeth leol wneud penderfyniadau anodd wrth bennu eu cyllidebau. Mae'n bwysig iddynt ymgysylltu mewn modd ystyrlon â'u cymunedau lleol pan fyddant yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac, yn ei thro, y Dreth Gyngor. Bydd angen i'r awdurdodau ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau y maent yn eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn dechrau'r cyfnod ymgynghori ffurfiol saith wythnos ar y Setliad. Bydd yn dod i ben ar 2 Chwefror 2023.