Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf yn cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer cyllid Llywodraeth Leol yn 2016-17, gan gynnwys dyraniadau cyllid craidd i Awdurdodau Lleol unigol.

Yn sgil yr oedi cyn cyhoeddi Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, wynebwyd heriau sylweddol o ran paratoi a chyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru a Setliad Llywodraeth Leol 2016-17.

Rwy’n cyhoeddi’r Setliadau Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2016-17 ddiwrnod wedi i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi. Dyma’r cyfle cyntaf posib o dan yr amgylchiadau.

Mae cyhoeddi’r Setliad hwn yn hwyrach na’r arfer yn golygu ei fod yn defnyddio’r data diweddaraf yn y cyfrifiadau. Rwy’n bwriadu newid cyn lleied â phosibl rhwng y Setliad Dros Dro a’r Setliad Terfynol, gan gynnig sylfaen fwy cadarn i Lywodraeth Leol ddechrau cynllunio eu cyllidebau.  

Rwy’n bwriadu pennu cyllid refeniw Llywodraeth Leol ar lefel o £4.099 biliwn, sef gostyngiad o 1.4% (£57 miliwn) o’i gymharu â 2015-16. Mae hyn dipyn yn well na’r Setliad yr oedd Llywodraeth Leol yn ei ddisgwyl, ac yn newyddion da i wasanaethau lleol yng Nghymru.

Gan fod cyhoeddi’r Setliad yn agos at gyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, ni allaf ryddhau manylion y grantiau cyfalaf ar gyfer 2016-17 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau fod y Grant Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2016-17 yn parhau yn £54 miliwn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae’r Llywodraeth hon yn cydnabod y rôl hollbwysig mae gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol yn eu chwarae i wella canlyniadau i’r rhai sydd fwyaf bregus, ac rydym wedi cynnwys £21 miliwn yn ychwanegol trwy’r Setliad Refeniw eleni i gydnabod hyn.

Gan adeiladu ar ein buddsoddiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad i flaenoriaethu cyllid i ysgolion gyda £35 miliwn ychwanegol yn Setliad y flwyddyn hon.  

Rydym wedi amddiffyn cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru dros dymor y Cynulliad hwn. Mae hyn yn golygu nad yw Llywodraeth Leol yng Nghymru wedi bod yn destun yr un lefel o doriadau â Chynghorau yn Lloegr. O ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU, ers 2010-11, mae gwariant ar wasanaethau lleol yn Lloegr wedi gostwng tua 10% yn nhermau arian parod, tra bo hyn wedi cynyddu 2.5% yng Nghymru.

Ar gyfer 2016-17, rwy’n disgwyl i bob Awdurdod gymryd i ystyriaeth yr holl ffrydiau cyllido sydd ar gael wrth ystyried darparu gwasanaethau ac wrth osod eu cyllidebau a’r Dreth Gyngor. Er mai’r Grant Cynnal Refeniw yw’r ffynhonnell unigol fwyaf o gyllid i’r Awdurdodau Lleol, nid dyma’r unig ffynhonnell.

Wrth bennu lefelau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2016-17, hoffwn annog Awdurdodau Lleol i feddwl o ddifrif am yr heriau cyllid sy’n eu hwynebu, ac i roi’r un ystyriaeth i’r baich ariannol sydd ar aelwydydd. Rydym yn cynnig cryn hyblygrwydd i Awdurdodau yng Nghymru nad yw ar gael i’w hawdurdodau cyfatebol yn Lloegr.  

Rwy’n falch o’n hymrwymiad, unwaith eto, i gadw hawliau llawn i ymgeiswyr cymwys o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac rwy’n cefnogi Llywodraeth Leol i ddarparu’r cynllun yn 2016-17 trwy ddosbarthu £244 miliwn fel rhan o’r Setliad. Rhaid i’r Awdurdodau Lleol ystyried effaith y Cynllun pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau am lefelau’r Dreth Gyngor.  

Trosglwyddiadau a grantiau refeniw

Mae’r Grant Cynnal Refeniw Dros Dro ar gyfer 2016-17 yn cynnwys cyllid o £31.1 miliwn a oedd yn cael ei ddarparu cyn hyn trwy’r Grant Cytundeb Canlyniadau. Mae hyn yn dangos fy ymrwymiad i gynnig yr hyblygrwydd mwyaf posib i Awdurdodau Lleol o ran sut i osod eu cyllidebau.

Mae hyn yn golygu bod cyllid blynyddol o dros £190 miliwn wedi cael ei drosglwyddo i mewn i’r Setliad ers dechrau'r Adolygiad o Wariant yn 2010.

Ochr yn ochr â’r Setliad, rwy’n cyhoeddi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am gynlluniau grant eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2016-17 er mwyn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyllid o £63 miliwn ar gyfer y Grant Amgylcheddol Sengl. Mae cyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft yn ddiweddar yn golygu bod manylion rhai cynlluniau grant, a rhai o’r cynlluniau grantiau mawr yn benodol, yn dal i gael eu cytuno. Byddaf yn cynnwys mwy o wybodaeth gyda'r Setliad Terfynol. Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau yn ystyried a ellir cynnig hyblygrwydd pellach ynghylch rhai grantiau ar gyfer 2016-17 a thu hwnt. Bydd ein casgliadau yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r wybodaeth fydd yn gysylltiedig â’r Setliad Terfynol.