Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer elfen Llywodraeth Cynulliad Cymru o gyllid Awdurdodau Heddlu yng Nghymru ar gyfer 2012-13. Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro y cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarperir trwy gyfrwng Grant Cynnal Refeniw y caiff pob awdurdod heddlu yng Nghymru ddisgwyl ei gael ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. 
Nid yw cyllid yr Heddlu wedi’i ddatganoli’n gyfangwbl ac mae’r setliad cyffredinol ar gyfer yr Heddlu yn cael ei lywio gan benderfyniadau’r Swyddfa Gartref ar Grant yr Heddlu. Caiff cyllid ei ddosbarthu ar draws holl Awdurdodau’r Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn unol â fformiwla ddosbarthu’r Swyddfa Gartref. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyllid sy’n dod o fewn Grant yr Heddlu er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw Awdurdod Heddlu dderbyn gostyngiad mewn adnoddau o  6.7% yn 2012-13. Effaith gyffredinol y setliad a chyfyngu ar yr arian gwaelodol gan y Swyddfa Gartref yw y bydd lefel y gostyngiad yn 2012-13 ar yr un lefel i bob Awdurdod Heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Yn ddiamau, mae hwn yn setliad heriol iawn i Wasanaeth yr Heddlu. Bydd gofyn gwneud dewisiadau anodd a chymryd golwg sylfaenol ar sut caiff busnes ei drefnu er mwyn amddiffyn plismona rheng flaen. Mae gan Awdurdodau’r Heddlu yng Nghymru hanes da iawn o gydweithio wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau. Bydd gweithio ar y cyd yn tyfu mewn pwysigrwydd yn y dyfodol, ac mae’r Heddlu’n cymryd rhan mewn agenda ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i hyrwyddo effeithlonrwydd ac arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae heddiw’n nodi dechrau cyfnod ymgynghori o chwe wythnos a ddaw i ben ar 16 Ionawr 2012.
Byddwn yn hapus i wneud datganiad llafar os yw Aelodau’r Cynulliad yn dymuno i mi wneud hynny, a hynny ar y cyfle cyntaf yn y sesiwn newydd.
Cyllid refeniw’r Heddlu - ffigurau arfaethedig ar gyfer 2011/12 a'r ffigurau dangosol ar gyfer 2012/13.