Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer yr elfen o’r cyllid i’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs) sy’n cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plismona yng Nghymru am 2014-15.  Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro’r cyllid craidd wedi’i neilltuo a ddarperir trwy’r Grant Cynnal Refeniw (RSG) y gall pob PCC yng Nghymru ddisgwyl ei gael am y flwyddyn ariannol i ddod (tablau 1, 2 a 3 yn amgaeedig).

Nid yw cyllid yr heddlu’n fater sydd wedi’i ddatganoli’n llwyr ac mae’r pecyn cyffredinol o arian canolog yn cael ei bennu gan benderfyniadau’r Swyddfa Gartref ar Grant yr Heddlu. Caiff arian ei ddosbarthu ar draws pob  PCC yng Nghymru a Lloegr yn unol â fformiwla ddosbarthu a ddefnyddir gan y Swyddfa Gartref.  Mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol hefyd am ddarparu arian i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw Heddlu gymryd toriad mewn adnoddau o fwy na minws 4.8% am 2014-15, o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2013-14.  Effaith gyffredinol y setliad a’r mecanwaith lleddfu a ddefnyddir gan y Swyddfa Gartref ar gyfer y “llawr”  (floor damping) yw bod gan yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr yr un gostyngiad canrannol am 2014-15.

Mae hwn yn Setliad heriol i wasanaeth yr heddlu a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud dewisiadau anodd er mwyn amddiffyn plismona rheng flaen. Hoffwn annog heddluoedd yng Nghymru i adeiladu ar yr ymdrechion cydweithredol clodwiw yn ystod y blynyddoedd diweddar sy’n sbarduno effeithlonrwydd ac arloesi yn ystod y cyfnod anodd sydd ohoni. Hoffwn annog y Comisiynwyr i barhau i fynd ar drywydd cyfleoedd tebyg i gydweithio â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus lle nodir canlyniadau cyffredin.

Mae rôl y Comisiynwyr wrth bennu eu cyllideb flynyddol a’u praesept treth gyngor yn rôl y maent yn atebol yn uniongyrchol amdani i’w hetholaethau.  Gan ymgynghori â’u Prif Gwnstabliaid a’r cyhoedd, rhaid i bob Comisiynydd amlinellu Cynllun Heddlu a Throseddu pum mlynedd sy’n cymryd amgylchiadau lleol i ystyriaeth.  Mae gan y Comisiynwyr bwerau i ddosbarthu grantiau a darperir gan y llywodraeth ganolog er mwyn darparu gwasanaethau’r heddlu ac i gefnogi blaenoriaethau lleol.

Heddiw mae cyfnod ymgynghori’n dechrau a ddaw i ben ar 23 Ionawr 2014.

Mae amseriad y datganiad hwn wedi cael ei bennu gan gyhoeddiad y Swyddfa Gartref ynghylch Grant yr Heddlu yng Nghymru a Loegr. Mae hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau i mi ateb cwestiynau pellach ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd byddwn yn falch o wneud hynny.