Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy Setliadau Refeniw a Chyfalaf Dros Dro Llywodraeth Leol ar gyfer 2020-21.
Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2020-21 yn cynyddu o 4.3% ar sail tebyg at ei debyg o’i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Yn 2020-21, bydd awdurdodau lleol yn derbyn bron i £4.5 biliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i’w wario ar gyflenwi gwasanaethau allweddol.
Yn ogystal â hyn, rwy’n cyhoeddi’r wybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2020-21. Mae’r grantiau hyn yn werth bron i £1 biliwn o ran refeniw a mwy na £640 miliwn o ran cyfalaf. Caiff y gwerthoedd a’r dosbarthiadau grant dangosol hyn eu darparu gan y Llywodraeth yn awr er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau yn effeithiol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru eto ar gyfer y setliad terfynol.
Ar wahân i gyllid grantiau penodol, nid yw’r hyn a ddarperir wedi’i neilltuo a mater i’r awdurdodau lleol felly ydy penderfynu sut i’w wario. Yn y setliad hwn, fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi cydnabod y costau ychwanegol penodol, nad oes modd eu hosgoi, sy'n codi yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth y DU am y newidiadau i gyfraniadau pensiwn cyflogwyr. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer y rhain, ar gyfer talu costau ychwanegol sy’n codi o’r pecyn cyflogau i athrawon yn 2019/20 am yr hyn sy’n weddill o’r flwyddyn academaidd ac, ymhellach i hyn, er mwyn cydnabod yr effaith a gaiff pecynnau cyflogau athrawon yn y dyfodol a fydd yn dod i effaith o fis Medi 2020.
Yn unol â ffocws y Llywodraeth ar wrthsefyll effeithiau tlodi, rydym yn ymroddedig o hyd i ddiogelu aelwydydd incwm isel, sy’n agored i niwed, rhag unrhyw ostyngiad yn y cymorth a gânt o dan Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, er gwaetha’r diffyg o ran cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU yn sgil diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal hawliau llawn o dan ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020-21 ac, eto, rydym yn darparu £244 miliwn ar gyfer y Cynllun hwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn.
Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion am feini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, gan ystyried bod Credyd Cynhwysol yn dal i gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i ddiwallu’r costau sy’n gysylltiedig â’r trothwy a gynnigwyd gennym a’r mesurau diogelu trosiannol.
Ynghyd â’r setliad rydym, unwaith eto, yn darparu cyllid i gefnogi llywodraeth leol er i roi’r gorau i godi tâl am gladdu plant. Mae hyn yn parhau i adeiladu ar y camau cadarnhaol sydd wedi cael eu cymryd eisoes gan bob cyngor yng Nghymru ac mae’n helpu i sicrhau bod dull teg a chyson yn cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o Gymru.
Mae’r setliad yn cynnwys £2.4 miliwn arall, yn ychwanegol i’r hyn a ddarparwyd drwy setliad 2019-20, ar gyfer awdurdodau i ddarparu rhagor o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn ar gyfer busnesau lleol a thalwyr ardrethi eraill i ymateb i faterion lleol penodol.
Mae’r setliad hwn yn darparu’r platfform mwyaf sefydlog y gallaf ei gynnig i lywodraeth leol ar gyfer cynllunio cyllidebau at y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rwy’n llwyr werthfawrogi’r pwysau y mae llywodraeth leol yn parhau i’w hwynebu yn dilyn degawd o gyni cyllidebol. Mae’r setliad hwn yn ymateb i’r pwysau yr oedd llywodraeth leol wedi bod yn ei rhagweld ac mae’n cynnig cyfle i gynllunio at y dyfodol.
Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn yn nodi dyraniadau’r setliad yn ôl awdurdod. Defnyddiwyd y fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol ar gyfer pennu’r dyraniadau. O ganlyniad i’r fformiwla a’r data cysylltiedig, mae’r tabl yn dangos yr ystod o ddyraniadau cyllid, o gynnydd o 3% ar gyfer setliad 2019-20 i gynnydd o 5.4%.
Bydd rhagor o fanylion y setliad yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol a’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:
Setliad refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol 2020 i 2021
Rwyf wedi ystyried yn ofalus a fyddai’n bosibl darparu cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad hwn. Gan gadw mewn cof y bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 3% o leiaf yn ystod 2019-20 ar sail tebyg at ei debyg, rwyf wedi dod i’r casgliad nad yw’n ofynnol darparu cyllid gwaelodol yn yr achos hwn. Bydd hyn hefyd yn caniatáu inni ailosod sylfaen y setliad ac ariannu awdurdodau ar sail angen cymharol, ac i beidio â dyrannu cyllid i unioni’r ffaith y darparwyd cyllid gwaelodol yn y gorffennol.
Mae cyfanswm y grantiau cyfalaf yn cynnwys y tri rhandaliad terfynol o £20 miliwn ar gyfer cynlluniau ailwampio priffyrdd. Maent hefyd yn darparu £178 miliwn o gyllid cyfalaf cyffredinol – cynnydd o £15 miliwn yn uwch na’r ffigur a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol y llynedd. Mae’r cynnydd hwn yn llyfnhau’r proffil cyllid a bydd yn helpu i gynllunio rhaglenni cyfalaf sefydlog. Gobeithiaf y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn galluogi llywodraeth leol i ddechrau ymateb i’r angen dybryd am ddatgarboneiddio, yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a llawer o gynghorau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod fy nhrafodaethau â llywodraeth leol, mae llawer o awdurdodau wedi mynegi ymrwymiad ar y cyd i’r angen i fuddsoddi yn y cyflenwad tai. Drwy fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, dylai’r pwysau ar gyllidebau a gwasanaethau i bobl ddigartref yr awdurdodau lleol leihau’n sylweddol. Gellir cefnogi economi Cymru ac economïau lleol hefyd drwy fuddsoddi mewn tai. Gobeithiaf y gall y setliad hwn, o ran cyfalaf a refeniw, cefnogi nhw i sicrhau bod mwy o dai yn cael eu hadeiladu, a hynny yn gyflymach, ym mhob cwr o Gymru.
Rwy’n gwybod y bydd angen i awdurdodau wneud dewisiadau wrth bennu eu cyllidebau. Bydd angen iddynt ymgysylltu â’u cymunedau lleol mewn modd ystyrlon wrth iddynt bwyso a mesur eu blaenoriaethau cyllidebol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac yn ei dro y dreth gyngor. Bydd rhaid i’r holl awdurdodau ystyried yr amrywiaeth gyfan o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â’r pwysau y maent yn eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori saith wythnos ffurfiol ar y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol. Bydd y cyfnod hwn yn dirwyn i ben ar 3 Chwefror 2020.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.