Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf yn cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer Cyllid Llywodraeth Leol yn 2015-16, gan gynnwys dyraniadau arian craidd i Awdurdodau Lleol unigol. Fel sy’n arferol, mae’n bosibl y caiff dyraniadau eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol. Er hynny, rwyf yn hyderus eu bod yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio ariannol gan yr Awdurdodau Lleol.

Rwyf yn bwriadu pennu cyllid refeniw Llywodraeth Leol ar lefel o £4.124 biliwn, sef gostyngiad o 3.4% (£146 miliwn) o’i gymharu â 2014-15.  

I gyfyngu’r newid ar gyfer unrhyw awdurdod unigol, byddaf yn defnyddio mecanwaith lleddfu fel na fydd unrhyw awdurdod yn destun gostyngiad o fwy na 4.5% o’i gymharu â 2014-15 (ar ôl ychwanegu cyllid ar gyfer Mentrau Benthyca Llywodraeth Leol a’r Fenter Cyllid Preifat). Daw arian cyfalaf ar gyfer 2015-16 i £400 miliwn.  

Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol cryf i lwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rwyf yn darparu £10 miliwn yn ychwanegol i gydnabod hyn.  

Rydym hefyd yn parhau â’n hymrwymiad i amddiffyn cyllid ysgolion.  Mae’r Setliad yn cynnwys adnoddau i amddiffyn cyllid i ysgolion ar lefel o 1% yn uwch na’r newid cyffredinol yng Nghyllideb Refeniw Cymru.  

O ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU, erbyn 2015-16, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ryw 10% yn is mewn termau real nag oedd yn 2010-11.  Er hynny, rydym wedi amddiffyn Llywodraeth Leol rhag y rhan fwyaf o’r toriadau hyn.  Dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwariant y pen ar wasanaethau lleol yn Lloegr wedi gostwng tua 7% mewn termau arian parod, ond mae wedi cynyddu 3% yng Nghymru .  

Wrth lunio cynlluniau’r gyllideb ar gyfer 2015-16, rwyf yn disgwyl i’r Awdurdodau Lleol gymryd eu holl ffrydiau incwm megis y dreth gyngor ac incwm o ffioedd a thaliadau i ystyriaeth.  Er mai’r Grant Cynnal Refeniw yw’r ffynhonnell unigol fwyaf o arian i’r Awdurdodau Lleol, nid dyna’r unig ffynhonnell.  

Wrth bennu lefelau’r dreth gyngor ar gyfer 2015-16, Hoffwn annog yr Awdurdodau Lleol i feddwl o ddifrif am yr heriau ariannu sy’n eu hwynebu, ac i roi’r un ystyriaeth i’r baich ariannol ar aelwydydd.  Rydym yn cynnig cryn hyblygrwydd i Awdurdodau yng Nghymru nad yw ar gael i’w Hawdurdodau cyfatebol yn Lloegr, lle mae mesurau rhewi cyllid ar waith.  

Rwyf yn falch o’n hymrwymiad i gadw hawliadau llawn i geiswyr cymwys o dan gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac rwyf yn cefnogi Llywodraeth Leol i ddarparu’r cynllun yn 2015-16 trwy ddosbarthu £244 miliwn unwaith eto o fewn y Setliad. Rhaid i’r Awdurdodau Lleol gymryd effaith y cynllun i ystyriaeth wrth wneud eu penderfyniadau am lefelau’r dreth gyngor.

Trosglwyddiadau a grantiau refeniw 

Yn y Grant Cynnal Refeniw dros dro ar gyfer 2015-16, cynhwysir £13.5 miliwn o arian a oedd yn cael ei ddarparu gynt trwy grantiau wedi’u neilltuo.  Mae hyn yn cynnwys £8 miliwn i gefnogi costau ariannu Ysgolion yr 21ain Ganrif, sef cynnydd o £4.5 miliwn ers y llynedd.  Mae trosglwyddiadau i mewn i Setliad eleni’n cynnwys £4.6 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac £880,000 i ddatblygu strategaethau Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig.  

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o dros £160 miliwn wedi cael ei drosglwyddo i mewn i’r Setliad yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Mae trosglwyddiadau allan o’r Setliad yn cynnwys £2.5 miliwn ar gyfer  canoli gwasanaethau gweinyddol cyllid myfyrwyr a throsglwyddo cyfrifoldebau’r Awdurdodau Lleol i Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr (Cymru), £490,000 ar gyfer Rheoli Bwyd Anifeiliaid a £540,000 i hyfforddi seicolegwyr addysgol.

Ochr yn ochr â’r Setliad, rwyf yn cyhoeddi gwybodaeth am gynlluniau grant eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer  2015-16.  Gobeithio ychwanegu’r wybodaeth hon ar gyfer y Setliad Terfynol.  

Mae nifer o Weinidogion wedi cytuno i adolygu eu cynlluniau grant i geisio darparu mwy o hyblygrwydd ariannu i Lywodraeth Leol.  Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi adolygu grantiau addysg heb eu neilltuo ac wedi cyfuno deg o grantiau mewn un Grant Gwella Ysgolion gwerth dros £140 miliwn i ysgolion am 2015-16.  

Dyraniadau Awdurdodau Unigol

Mae Tabl 1 yn nodi dosbarthiad arfaethedig Cyllid Allanol Agregedig  (sy’n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig wedi’u Hailddosbarthu) rhwng y 22 o Awdurdodau ar gyfer 2015-16.  

Mae’r dosbarthiad hwn yn adlewyrchu ein hasesiad diweddaraf o angen cymharol,  ar sail gwybodaeth fanwl am nodweddion demograffig, corfforol, economaidd a chymdeithasol ledled Cymru.  

Yn unol â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, nid wyf yn gallu darparu dangosyddion y tu hwnt i 2015-16 oherwydd diffyg gwybodaeth am gynlluniau gwario Llywodraeth y DU.

Diweddglo

Mae cyhoeddiad heddiw’n fan cychwyn cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 19 Tachwedd 2014.  Wedi hynny, byddaf yn ystyried a oes angen diwygiadau pellach cyn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar ddechrau Rhagfyr.