Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Heddiw rwy’n cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn ystod 2013-14. Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro’r cyllid craidd heb ei neilltuo y gall pob awdurdod lleol ddisgwyl ei dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod (tabl 1). Bydd y dyraniadau ar gyfer 2013-14 yn cael eu diwygio yn sgil gwybodaeth fwy diweddar am drethi a data perthnasol arall, ond rwy’n hyderus fod y dyraniad yn darparu sylfaen gadarn i’r awdurdodau lleol allu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’r setliad yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sef amddiffyn ysgolion a gofal cymdeithasol. Yr awdurdodau lleol sy’n darparu’r gwasanaethau hyn, yn bennaf.
Rwy’n bwriadu neilltuo cyfanswm o £4,378 miliwn ar gyfer llywodraeth leol yn 2013-14. Mae hyn yn cynnwys y cynnydd o 1.3% a nodwyd yn setliad dangosol y llynedd, ynghyd â throsglwyddo grantiau penodol, sy’n arwain at gynnydd arian parod o 3.6%. Gan ystyried gwerth y grantiau hyn y llynedd, mae hyn yn golygu bod y cyllid newydd a fydd ar gael i lywodraeth leol yn cyfateb i gynnydd o 1.5%.
Mae hyn yn gwireddu fy ymrwymiad i ddarparu mwy o gyllid arian parod i awdurdodau lleol yn ystod cyfnod pedair blynedd yr adolygiad o wariant, o gymharu â gostyngiad mewn cyllid yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod.
Mae canfyddiadau Adroddiad diweddar yr IFS ar wariant llywodraeth leol yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ariannol mwy hael. Yn 2012-13, roedd cyllideb llywodraeth leol yng Nghymru yn cynnwys gwariant o ryw £294 y pen yn fwy ar wasanaethau o gymharu â Lloegr, yn ôl yr Adroddiad.
Cyllid rhanbarthol
Rwyf wedi darparu setliad gwell nag yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl yn ystod y cyfnod gwariant hwn. Cydnabod a chefnogi dull newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus oedd bwriad hyn. Byddai’r dull newydd hwn yn dibynnu ar fwy o gydweithio er mwyn darparu gwell gwasanaethau am lai o arian. Mae’n wir fod yna rai enghreifftiau nodedig o gydweithio, sydd i’w canmol yn fawr. Un enghraifft o’r fath yw’r cam tuag at uno’r gwasanaethau cymdeithasol ar draws Caerffili a Blaenau Gwent. Mae gwaith Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus – wrth ddatblygu’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol arfaethedig, er enghraifft – hefyd wedi fy nghalonogi. Yn wir, rwy’n ddiolchgar i’w aelodau am helpu i sbarduno newid, sicrhau arbedion a gwella gwasanaethau, drwy gynnig eu harweiniad a’u hymrwymiad o’u gwirfodd.
Ond mae hefyd yn wir nad yw’r newid mawr o ran uchelgais a chyflymder yr oedd ei angen er mwyn paratoi cynghorau ar gyfer yr amgylchiadau anodd sydd o’u blaenau, wedi digwydd ledled Cymru. Mae’n anodd gweld gwir ewyllys ymysg cynghorau i gysylltu’n effeithiol â’i gilydd ynghylch y materion pwysig.
Heb os nac oni bai, bydd cyfnod yr adolygiad o wariant nesaf yn anoddach na’r un presennol. Mae’r adroddiad diweddar gan yr Institute of Fiscal Studies1, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cydnabod bod rhaid i awdurdodau lleol fanteisio ar y cyfle yn awr, tra bo amser ar gael, i gydweithio â’i gilydd ar sail ranbarthol, er mwyn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i wynebu heriau’r dyfodol.
Er mwyn annog hyn, rwy’n bwriadu creu cronfa ar wahân, gwerth ychydig dros £10 miliwn o’r setliad, sy’n cyfateb i 0.25% o gyfanswm y Grant Cynnal Refeniw, ac eithrio trosglwyddiadau a chyfrifoldebau newydd. Bydd y gronfa hon ar gael i awdurdodau os ydynt yn cyflwyno cynigion ymarferol ar gyfer darparu prosiectau cydweithredol ar sail ranbarthol. Gall y prosiectau hyn fod rhwng rhai o’r awdurdodau lleol yn y rhanbarth, neu rhwng pob un ohonynt, a gallant hefyd gynnwys y byrddau iechyd lleol, yr heddlu neu’r gwasanaeth tân a mudiadau’r trydydd sector yn y rhanbarth hwnnw. Rhaid iddynt fod yn brosiectau sylweddol y gellir eu cyflwyno’n gyflym, sy’n trawsnewid y ffordd maent yn gweithredu, gan roi’r awdurdodau mewn gwell sefyllfa i wrthsefyll y storm ariannol sydd ar y gorwel.
Rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r gronfa hon i gefnogi prosiectau cydweithredol newydd neu i hwyluso prosiectau sydd wedi’u gohirio, efallai, oherwydd y costau ariannol cychwynnol.
Rwy’n disgwyl i lywodraeth leol ddatblygu cynigion sy’n bodloni fy nisgwyliadau. Os na fyddant yn gwneud hynny, byddaf yn ei ystyried yn arwydd clir o fethiant i fynd ati o ddifrif i ymateb i’r angen i wella gwasanaethau drwy gydweithio.
Amddiffyn ysgolion
Yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog i amddiffyn cyllid ar gyfer ysgolion fel bod plant Cymru yn sicrhau’r canlyniadau gorau, mae’r Grant Cynnal Refeniw yn cynnwys yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu amddiffyniad o 1% uwchlaw’r newid i grant bloc Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i ymrwymiad i ddarparu £80 miliwn yn fwy o gyllid ar gyfer addysg o fewn y setliad yn ystod y cyfnod pedair blynedd.
Amddiffyn pobl agored i niwed a rheoli’r pwysau
Mae’r setliad hefyd yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn pobl agored i niwed yn ein cymdeithas yn ystod y dyddiau hynod anodd hyn.
Dangosodd ein gwaith ar y cyd â llywodraeth leol i nodi’r pwysau ar wasanaethau a’r bygythiad iddynt, fod y gwasanaethau cymdeithasol yn faes allweddol bwysig. Nodwyd bod y cynnydd mewn costau, a’r pwysau demograffig sy’n llywio’r galw ac yn effeithio fwyfwy ar wasanaethau, yn feysydd sy’n peri pryder arbennig. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pryder hwn, a bydd yr amddiffyniad y mae’r setliad yn ei roi yn darparu £35 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol erbyn 2013-14, fel y gall llywodraeth leol ymateb i’r pwysau ar y gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer yr hen a’r ifanc.
Grant heb ei neilltuo yw’r Grant Cynnal Refeniw, ac mae gwariant ar addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol, gyda’i gilydd, yn cyfrif am ryw ddwy ran o dair o wariant yn gysylltiedig â’r grant. Yn y dyddiau eithriadol o heriol hyn, rwy’n cydnabod y gall amddiffyn y gwasanaethau hyn roi pwysau ar y gwasanaethau eraill y mae llywodraeth leol yn eu darparu, ond nid oedd hon erioed am fod yn sefyllfa hawdd. Gall awdurdodau lleol ddewis gwneud defnydd doeth o ffynonellau ariannu eraill, gan gynnwys defnyddio ffrydiau ariannu o ffioedd a thaliadau, i leddfu’r pwysau hyn.
Trosglwyddiadau
Mae’r cyhoeddiad eleni yn cyflawni ein hymrwymiad i lywodraeth leol i ddarparu llai o grantiau penodol a lleihau eu gwerth. Mae’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2013-14 yn cynnwys cyllid a arferai gael ei ddarparu ar ffurf grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ddarparu addysg ar gyfer myfyrwyr ôl-16 ag anghenion addysgol arbennig, brecwast am ddim mewn ysgolion a’r grant adsefydlu anabledd dysgu. Drwy ddarparu’r cyllid hwn drwy’r Grant Cynnal Refeniw, rydym yn sicrhau bod yr holl arian ar gael i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau rheng flaen hyn, ac nad oes angen dargyfeirio dim ohono i waith gweinyddu diangen.
Cyfrifoldebau newydd : cymorth i’r Dreth Gyngor
Mae’r setliad hefyd yn cynnwys swm tybiannol o £214 miliwn i ariannu cynllun cymorth y dreth gyngor. Dyma gyfrifoldeb newydd sy’n cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu Budd-dal y Dreth Gyngor o fis Ebrill 2013. Penderfynodd Llywodraeth y DU dorri’r cyllid 10% hefyd, a symud o gyllidebau seiliedig ar alw i gyllidebau terfyn penodol.
Rwy’n wirioneddol bryderus ynglŷn ag effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau’r cyllid hwn. Gan nad wyf wedi derbyn hysbysiad o’r dyraniad terfynol eto, rwy’n bryderus y gallai’r toriad fod yn fwy na 10%, ac na fydd costau sefydlu a gweinyddu cynllun newydd yn cael eu hystyried. Rwy’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ynghylch y materion hyn.
Rwyf wedi cytuno â’m cyd-aelodau o’r Cabinet y bydd gwerth terfynol y trosglwyddiad yn cael ei neilltuo yn ei gyfanrwydd i’r swyddogaeth hon. Nid oes gan Lywodraeth Cymru’r adnoddau i wneud iawn am y diffyg yn yr arian a drosglwyddir gan Lywodraeth y DU, ond mae’n gweithio’n agos â llywodraeth leol i greu cynllun y gellir ei reoli o fewn cyllidebau sefydlog.
Dyraniadau’r awdurdodau unigol
Mae Tabl 2 yn dangos sut y dosberthir y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2013-14 i’r 22 awdurdod.
Y Dreth Gyngor
Rwy’n dosbarthu’r Grant Cynnal Refeniw yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys cynnydd o £50 miliwn o gymharu â 2012-13, er budd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a’u dinasyddion. Golyga hyn y gall cynghorau rewi’r dreth gyngor os ydynt yn dymuno. Wrth bennu lefelau’r dreth gyngor, rwy’n disgwyl iddynt barhau i gynnig gwasanaethau a pharchu’r amddiffyniad rydym yn ei ddarparu i gyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol. Hwy biau’r dewis. Mater i bob awdurdod lleol fydd cyfiawnhau ei benderfyniad ynglŷn â’r dreth gyngor i’w ddinasyddion.
Dylai awdurdodau lleol ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng yr angen i gynnal gwasanaethau allweddol er budd eu dinasyddion, a’r angen i osgoi rhoi unrhyw bwysau ychwanegol ar aelwydydd sydd mewn caledi.
Cyllid Cyfalaf
O ganlyniad i’r gostyngiadau i’r gyllideb gyfalaf gan Lywodraeth y DU, mae’r dyraniadau cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol yn parhau i fod yn heriol. Mae’r cyllid cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn golygu setliad sydd gryn dipyn yn well, fodd bynnag, na’r gostyngiad o 13.2% a gyhoeddwyd yn setliad dangosol y llynedd.
£412 miliwn yw cyfanswm y setliad cyfalaf, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, sef gostyngiad sylweddol is o 1.9% o gymharu â 2012-13.
Wrth ddarparu manylion y setliad, mae heddiw yn nodi cychwyn cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 13 Tachwedd 2012.
Casgliad
Rwy’n cyflwyno’r setliad dros dro hwn ar gyfer ymgynghori. Wrth wneud hynny, rwy’n cydnabod bod risg yn dal i fod yn gysylltiedig â’r trosglwyddiad gwirioneddol ar gyfer trefniadau cymorth y dreth gyngor yn y dyfodol. Rwy’n cydnabod hefyd fod hwn yn setliad cymharol dda i lywodraeth leol, yn yr amgylchiadau ariannol sydd ohoni, o ran bron pob un o’r mesurau. Rwy’n bryderus, fodd bynnag, y bydd setliadau tymor byr y dyfodol yn anoddach o lawer ac nad yw awdurdodau eto’n ddigon parod i ddelio â’r pwysau hynny. Bydd y gronfa rwyf wedi’i neilltuo, ynghyd â’r adnoddau sydd eisoes ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru, yn dileu unrhyw rwystrau pellach rhag newid gwasanaethau. Rhyngddynt, rwy’n gobeithio bod ganddynt yr ewyllys i ymateb.