Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Heddiw rwyf yn cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru ar gyfer 2012-13. Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro'r arian craidd heb ei neilltuo a ddarperir trwy gyfrwng y Grant Cynnal Refeniw (RSG) y gall pob awdurdod lleol ddisgwyl ei gael ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod (tabl 1 sydd ynghlwm). Rwyf hefyd yn cyhoeddi dyraniadau dangosol ar gyfer 2013-14 a 2014-15. Gallai’r dyraniadau mewn perthynas â 2013-14 a 2014-15 gael eu diwygio yng ngoleuni'r sylfaen drethi fwy cyfoes a data perthnasol arall. Rwyf yn ffyddiog, fodd bynnag, fod y dyraniadau’n rhoi sail gadarn iawn i’r awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio at y dyfodol.
Mae'r setliad yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sef amddiffyn ysgolion a gofal cymdeithasol. Mae’r gwasanaethau hyn, at ei gilydd, yn cael eu darparu gan yr awdurdodau lleol.
Rwyf yn bwriadu pennu’r Grant Cynnal Refeniw (RSG) ar gyfer 2012-13 yn £4.019 biliwn, sef cynnydd o 0.24% ar y flwyddyn flaenorol.
Fy nyraniadau RSG arfaethedig ar gyfer 2013-14 a 2014-15 yw £4.072 biliwn a £ 4.094 biliwn, sef cynnydd o 1.3% a 0.6% yn y drefn honno. Effaith gyfunol hyn yw fy mod wedi llwyddo i gynyddu ychydig ar gyllid arian parod yr awdurdodau lleol dros yr adolygiad pedair blynedd o wariant.
Diogelwch ar gyfer Ysgolion
Yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog i ddiogelu ysgolion er mwyn sicrhau y cyflawnir y canlyniadau gorau i blant Cymru, mae’r Grant Cynnal Refeniw yn cynnwys yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau diogelwch o 1% uwchlaw’r newid yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i ymrwymiad i gynyddu £80 miliwn ar y cyllid ar gyfer addysg o fewn y setliad dros gyfnod o bedair blynedd. Gan gydnabod yr angen i gadw biwrocratiaeth i’r lleiaf posibl, mae trefniadau monitro wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol. Maent yn syml ac yn dryloyw gan ganolbwyntio ar gyllidebau ysgolion, a byddant yn sicrhau bod modd dangos y gellir cyflawni'r ymrwymiad hwn.
Amddiffyn Pobl Agored i Niwed a Delio â Phwysau
Mae'r Setliad hefyd yn cynnal ymrwymiad y Llywodraeth Cymru i amddiffyn pobl agored i niwed yn ein cymdeithas yn ystod cyfnod arbennig o anodd.
Mae ein gwaith ar y cyd â llywodraeth leol ar ddarganfod a dadansoddi'r pwysau ar wasanaethau allweddol a'r risgiau wedi tynnu sylw at wasanaethau cymdeithasol fel maes allweddol. Nodwyd y costau cynyddol, ac yn arbennig y pwysau demograffig a arweinir gan y galw sy’n cael mwy a mwy o effaith ar ddarparu gwasanaethau, fel maes sy’n destun pryder allweddol. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y pryder hwn a bydd y diogelwch a gynigir drwy gyfrwng y setliad yn darparu £35 miliwn yn ychwanegol erbyn 2013-14 i alluogi llywodraeth leol i ddelio â'r pwysau y mae’n eu hwynebu ar y gwasanaethau hanfodol hyn i blant a phobl hŷn.
Grant heb ei neilltuo yw’r Grant Cynnal Refeniw ac mae gwariant ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol, gyda’i gilydd, yn cyfrif am oddeutu dwy ran o dair o wariant a gysylltir â grant. Yn y cyfnod eithriadol hwn, rwyf yn cydnabod yn llwyr y gallai amddiffyn y gwasanaethau hyn roi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau eraill y mae Llywodraeth Leol yn eu darparu ond nid oedd hon erioed yn mynd i fod yn broses hawdd. Mae'r defnydd doeth o ffynonellau ariannu eraill, gan gynnwys defnyddio ffrydiau incwm o ffioedd a thaliadau, yn opsiynau sydd ar gael i awdurdodau i leddfu'r pwysau hyn.
Dyraniadau Awdurdodau Unigol
Mae Tabl 1 sydd ynghlwm wrth y datganiad hwn yn nodi'r dadansoddiad o ddosbarthiad y Grant Cynnal Refeniw ar draws y 22 awdurdod.
Y Dreth Gyngor
Rwy’n dosbarthu’r gronfa RSG gyfan er budd pob un o’r awdurdodau lleol a’u dinasyddion yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i gynghorau rewi eu treth gyngor os ydynt am wneud hynny. Wrth wneud hynny rwyf yn disgwyl iddynt gysoni hyn â’r angen i gynnal gwasanaethau a heb amharu ar y diogelwch yr ydym yn ei roi i arian i ysgolion a gofal cymdeithasol. Hwy biau’r dewis. Mater i bob awdurdod lleol fydd cyfiawnhau ei benderfyniad ar y dreth gyngor i’w dinasyddion.
Rwy’n disgwyl i’r awdurdodau lleol fod yn fanwl wrth ystyried y cydbwysedd rhwng yr angen i gynnal gwasanaethau allweddol er budd eu dinasyddion a'r angen i gyfyngu ar unrhyw bwysau ychwanegol ar aelwydydd sy’n dioddef caledi arbennig.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, rwyf yn barod i ddefnyddio'r pwerau capio sydd wedi’u breinio yng Ngweinidogion Cymru i gyfyngu ar unrhyw godiadau sydd yn fy marn i’n afresymol.
Cyllid Cyfalaf
Yn gyffredinol, mae’r setliad cyfalaf gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, yn dod i gyfanswm o £424 miliwn, sef gostyngiad o 7.2% ar y swm ar gyfer 2011-12. Er bod hyn yn peri her arbennig, rwyf wedi llwyddo i ddiogelu grant y Gronfa Cyfalaf Cyffredinol o fewn y portffolio Llywodraeth Leol. Bydd y ddarpariaeth ar gyfer 2012-13 yn £54 miliwn, yr un lefel ag ar gyfer 2011-12.
Grantiau Penodol
Rwyf yn deall awydd llywodraeth leol i rowlio grantiau penodol i mewn i arian heb ei neilltuo. Er hynny, yn sgil cais gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ein bod yn edrych o’r newydd ar gytundeb yr Is-grŵp Dosbarthu i drosglwyddo’r Grant Adsefydlu Anableddau Dysgu i mewn i’r setliad hwn, er mwyn osgoi gohirio’r cyhoeddiad hwn, rwyf wedi penderfynu y bydd dyfodol y grant yn destun ystyriaeth bellach. Nid yw’r grant hwn yn cael ei drosglwyddo i mewn i’r setliad ar gyfer y cyhoeddiad dros dro.
Bydd manylion pellach grantiau refeniw penodol yn cael eu darparu i’r awdurdodau lleol maes o law i roi darlun mor gyflawn o’r sefyllfa gyllido gyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2012-13 a’r blynyddoedd dilynol.
Wrth ddarparu manylion y setliad, heddiw yw cychwyn cyfnod ymgynghori a fydd yn dod i ben ar 18 Tachwedd 2011.