Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, yn dilyn cyhoeddi Setliad Dros Dro yr Heddlu ym mis Rhagfyr, rwy'n cyhoeddi'r cynigion diweddaraf ar gyfer elfen cyllid Llywodraeth Cymru i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddau Cymru yn 2016-17. Mae hyn yn dilyn cwblhau'r broses ymgynghori ar Setliad Dros Dro yr Heddlu.

Er mwyn sicrhau bod yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael yr un wybodaeth, mae fy natganiad yn dilyn y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Cartref heddiw ar ddyraniadau Grant yr Heddlu Terfynol y Swyddfa Gartref ar gyfer cyrff plismona Cymru a Lloegr.

Mae fformiwla gyffredin sy'n seiliedig ar anghenion, a weithredir gan y Swyddfa Gartref, yn cael ei defnyddio i ddosbarthu cyllid ar draws yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Fel a gyhoeddwyd yn Setliad Dros Dro yr Heddlu, mae'r Swyddfa Gartref wedi newid y fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion i un sy'n defnyddio cyllid gwaelodol. Drwy ddefnyddio’r fformiwla hon mae holl heddluoedd Cymru a Lloegr yn cael yr un gostyngiad canrannol o 0.6% yn 2016-17 o'i gymharu ar sail gyfatebol â 2015-16.

Bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer heddluoedd Cymru yn £354.9 miliwn. Fel rhan o’r cyllid hwn, rwy'n cynnig pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr Heddlu ar gyfer 2016-17 yn £136.8 miliwn. Mae'r dyraniadau i heddluoedd unigol yn aros yr un ers y Setliad Dros Dro.

Mae'r wybodaeth hon yn rhoi'r manylion angenrheidiol i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddau er mwyn iddynt bennu eu cyllidebau ar gyfer 2016-17.

Byddaf yn cyhoeddi Setliad Terfynol yr Heddlu ddechrau mis Mawrth ar ôl i'r Cynulliad gwblhau'r broses graffu ar Gyllideb Cymru.