Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Cyhoeddodd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr, y bydd holl adrannau'r llywodraeth yn derbyn cynnydd mewn cyllid refeniw a chyfalaf, sy'n sefyllfa dra gwahanol i'r cyfyngiadau cyllidebol blaenorol ac yn paratoi'r ffordd inni fuddsoddi unwaith eto yn hanfodion Cymru.
Mae fy mhenderfyniadau ynghylch blaenoriaethu'r gyllideb ar gyfer Tai ac Adfywio wedi canolbwyntio'n bennaf ar flaenoriaeth y Prif Weinidog sef cyfle i bob teulu - rhoi diwedd ar ddigartrefedd, darparu mwy o gartrefi a chefnogi ein trefi a'n dinasoedd i ffynnu. Mae fy nyraniadau cyllideb yn ceisio cydbwyso'r angen am fesurau ataliol gyda buddsoddiad mewn mwy o gartrefi a'r nod yw sicrhau bod y cyllid ychwanegol yn cael yr effaith fwyaf posibl.
Rwy'n falch iawn o fod yn cynyddu'r Grant Cymorth Tai o £21m, gan fynd ag ef i dros £204m. Bydd y cyllid ychwanegol hwn, yn ogystal â'r £13m ychwanegol a fuddsoddwyd eleni yn cefnogi gwaith pwysig y sector i atal digartrefedd a chefnogi pobl i gadw eu tai a ffynnu ynddynt.
Bydd cyllidebau hefyd o gymorth i ddarparu mwy o gartrefi ar draws deiliadaethau. Rwyf wedi dyrannu £81m yn ychwanegol ar gyfer mwy o gartrefi drwy'r Grant Tai Cymdeithasol a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, gan fynd â'n cyfanswm cyllideb ar gyfer 2025-26 i £411m. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen, gyda £26.25m arall wedi'i sicrhau i ddarparu benthyciadau datblygu cost isel i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Bydd y cyhoeddiad cynnar am barhad y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn cefnogi ein partneriaid i barhau â nifer o brosiectau o safon yn y maes hwn.
Rwyf wedi penderfynu darparu cynnydd o £1.255m o refeniw a £5.5m o gyfalaf yn ein buddsoddiad mewn Byw'n Annibynnol. Bydd cyllid yn cefnogi'r gwaith o ddarparu miloedd o addasiadau ychwanegol i gartrefi ledled Cymru y mae'r galw amdanynt wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill.
Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwella a datgarboneiddio ein stoc bresennol o dai cymdeithasol. Er bod prif ffocws y buddsoddiad hwn yn parhau i fod ar gartrefi cymdeithasol, rydym yn buddsoddi mewn cartrefi rhent preifat drwy Gynllun Lesio Cymru ac rwy'n buddsoddi £3m o gyfalaf trafodiadau ariannol (FTC) i ymestyn ein cynllun Cartrefi Gwyrdd drwy Fanc Datblygu Cymru y flwyddyn nesaf.
Byddwn hefyd yn buddsoddi i gefnogi pobl i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain drwy gynllun Cymorth i Brynu - Cymru a chynllun Cymorth Prynu. Rwyf wedi dyrannu £57m ychwanegol o gyfalaf trafodiadau ariannol i ymestyn cynllun Cymorth i Brynu - Cymru am 18 mis arall.
Rwyf hefyd wedi diogelu cyllidebau i sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi yn y tymor hir yn adfywio ein trefi a'n dinasoedd, i ddefnyddio cartrefi ac adeiladau gwag mewn modd cynhyrchiol ac adeiladu ein cyflenwad o dir er mwyn sicrhau darpariaeth tai hir dymor .
Yn olaf, mae mynd i'r afael â Diogelwch Adeiladau sy'n gysylltiedig â thân yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Gyda 433 o adeiladau yn ein rhaglen cyweirio diogelwch adeiladau, mae gennym ddealltwriaeth gynyddol fanwl o'r gwaith sydd i'w wneud a bydd proffil y gwariant sydd ei angen dros y blynyddoedd nesaf a’r cyllidebau yn cael eu teilwra yn unol â hynny.
Mae’r gyllideb hon yn gam cadarnhaol ymlaen, ac yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ochr yn ochr â darparu’r gwasanaethau cymorth ac atal cywir, tra hefyd yn rhoi’r cyfle gorau i’n trefi a’n dinasoedd ffynnu.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.