Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae cyflwyno'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ynghyd â'r profion darllen a'r profion rhifedd, yn newid sylweddol i'r trefniadau asesu mewn ysgolion yng Nghymru.

Ar 1 Hydref, cyhoeddais fod adolygiad i'w gynnal o drefniadau asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Nod yr adolygiad yw symleiddio'r trefniadau asesu ac ystyried pob un o bynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn ogystal â'r pynciau sylfaen eraill, a hynny ym mhob cyfnod allweddol, er mwyn sicrhau bod ein disgwyliadau o ran y cynnwys ac o ran datblygu sgiliau yn rhai digon uchel.

Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, ac yng ngoleuni’r ffaith bod y broses o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen wedi’i chwbhau, rwyf am weld a oes yna gytundeb cyffredinol am yr angen i newid y cwricwlwm a'r trefniadau asesu sydd ohoni ar hyn o bryd yng Nghyfnod Allweddol 2 yng Nghymru, ac, os oes, pa fath o newidiadau sydd eu hangen.

Rwyf yn awyddus i geisio barn ynghylch sut orau i gyflwyno'r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2, a byddaf yn dechrau'r broses honno drwy gadeirio seminar ar 27 Chwefror. Rwyf wedi gwahodd ymarferwyr, academyddion, rhiant-lywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon ac rwyf yn edrych ymlaen at drafodaeth a fydd, gobeithio, yn un hynod ddiddorol ac addysgiadol.

Un o gamau cychwynnol y broses adolygu yw hwn, a bydd cyfleoedd pellach i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb yn hyn o beth gyfrannu at y drafodaeth wrth i'r adolygiad fynd rhagddo.

Bydd y  canfyddiadau allweddol a fydd yn deillio o'r seminar ac o ymgyngoriadau eraill yn llywio'r adolygiad ehangach o drefniadau asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a bydd unrhyw newidiadau y bydd angen eu gwneud i Gyfnod Allweddol 2 yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad hwnnw.