Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein seilwaith profi yn parhau i ddatblygu i gefnogi profion torfol ar gyfer pobl symptomatig ar draws poblogaeth Cymru.  

Yn ein strategaeth brofi a gyhoeddwyd yn yr haf gwnaethom nodi’r angen i sicrhau bod digon o allu profi i alluogi i bawb sydd â symptomau gael prawf ar y diwrnod hwnnw, yn ddelfrydol.

Mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, rydym wedi cynllunio i ehangu ystod a chyrhaeddiad ein seilwaith profi cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu 27 o Safleoedd Profi Lleol yn ogystal â’r:

  • Safleoedd Profi Rhanbarthol – 8 ar draws Cymru yng Nghasnewydd, Glynebwy, Caerdydd, Abercynon, Abertawe, Caerfyrddin, Llandudno a Glannau Dyfrdwy.
  • Unedau Profi Cymunedol – 19 ar draws Cymru mewn amryw o leoliadau.
  • Unedau Profi Symudol – 18 uned ar draws Cymru gyda rhai’n cael eu defnyddio ar draws y Byrddau Iechyd Lleol ac eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer ymateb cyflym.
  • Pecynnau Profi Gartref – gan gynnwys mynediad at borth penodol ar gyfer cartrefi gofal.

Mae’r Safleoedd Profi Lleol yn safleoedd profi cerdded i mewn ar gyfer ein cymunedau ac yn cynyddu’r mynediad at brofion ar gyfer ein cymunedau mwyaf agored i niwed ac wedi’u tangynrychioli. Bydd y gwaith o ehangu’r Safleoedd Profi Lleol yn cynnwys agor 15 o safleoedd profi lleol cerdded i mewn cyn y Nadolig mewn ardaloedd allweddol ar draws Cymru, a lansio 12 arall dros y misoedd nesaf wedi inni gwblhau’r cynlluniau gyda byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cyflwyno 9 Uned Brofi Symudol, ar ben yr 19 uned sydd eisoes yn weithredol, i sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd lleol un uned symudol y gellir ei defnyddio ym mhob ardal awdurdod lleol.

Mae’r Safleoedd Profi Lleol a fydd ar agor cyn diwedd 2020 yn cynnwys:  

Ardal Bwrdd Iechyd

Safle Profi Lleol

Amserlen

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Rhodfa’r Amgueddfa

Ar agor

Maes Parcio Neuadd y Sir (Bae Caerdydd)

Yn agor ym mis Rhagfyr 2020

Canolfan Chwaraeon Colcot, y Barri

Ar agor

Trelái  

Ar agor

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Theatr y Grand, Abertawe

Ar agor

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Adeilad Meithrinfa Padarn, (y tu ôl i, ond heb fod yn gysylltiedig â, Meddydfa Padarn), Ffordd Penglais, Aberystwyth

 

Ar agor

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Pontypridd - Trefforest

Ar agor

Maes Parcio Pentref Hamdden Merthyr

Ar agor

Maes Parcio Canolfan Fowlio Pen-y-bont ar Ogwr

Ar agor

Powys

Y Drenewydd – Maes Parcio Shortbridge Street

Ar agor

Aberhonddu – Maes Parcio Watton

Ar agor

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Canol Dinas Bangor

Ar agor

Neuadd Goffa Wrecsam

Ar agor

Y Rhyl – Maes Parcio Stryd y Cei

Ar agor

Cei Connah, Shotton – Y Neuadd Ddinesig

Ar agor

Rydym hefyd yn trafod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ganfod a fydd yn bosibl i osod Safle Profi Rhanbarthol ychwanegol yn yr ardal yn ogystal â’r 8 yr ydym eisoes wedi’u lleoli ar draws Cymru.

Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi’r gallu a’r cadernid angenrheidiol inni yn ystod misoedd y gaeaf ac ar gyfer ein hanghenion i’r dyfodol. Rydym eisiau sicrhau bod profion ar gael yn rheolaidd ac yn aml ac rydym yn parhau i weithio gyda’r Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol a’n partneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu’r gallu i estyn allan yn effeithiol at gymunedau ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ardaloedd mwy difreintiedig, cymunedau mwy gwledig neu anghysbell a grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

Yn ogystal â gwella ein gallu i brofi pobl gyda symptomau rydym hefyd yn datblygu ein dull gweithredu a’n cymorth i bobl heb symptomau gael mynediad at brofion llif unffordd sy’n canfod presenoldeb antigen feirysol COVID-19 o sampl swab ac sy’n rhoi canlyniad o fewn 20 i 30 munud. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Safleoedd Profi Asymptomatig mewn sefydliadau addysg uwch ac ysgolion, a chynnig profion cymunedol ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf.

Fe fyddwn yn parhau i gryfhau a datblygu ein dull gweithredu o ran profion i sicrhau bod gennym safleoedd profi cynaliadwy sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion yn lleol, ac yn gallu addasu i dystiolaeth a ddaw i’r amlwg a datblygiad technolegau newydd.