Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar sut y bwriedir defnyddio’r £2 filiwn a sicrhawyd ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan drwy’r cytundeb dwy flynedd ar y Gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu i greu rhwydwaith cenedlaethol o fannau gwefru cyflym a fydd ar gael i’r cyhoedd. Byddwn yn canolbwyntio ar leoliadau ar/gerllaw ein rhwydwaith ffyrdd strategol, gan roi pwyslais arbennig ar siwrneiau rhwng y Gogledd a’r De a rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin.

Ar ôl imi gael gwybodaeth a chyngor manwl, yn arbennig ar fy nod o ysgogi cymaint o fuddsoddiad preifat cynaliadwy ag y bo modd i helpu i greu rhwydwaith cenedlaethol, rwyf yn ystyried model cyflawni drwy gonsesiwn cenedlaethol.

Bydd y fframwaith a’r manylebau mor arloesol a chynhwysol â phosibl o ran ychwanegu gwerth er budd cymunedau a busnesau lleol.

Rwyf wedi gofyn hefyd i swyddogion ystyried ymarferoldeb defnyddio’r cyllid i dalu am fannau gwefru mewn cyfleusterau parcio a theithio a safleoedd tacsis er mwyn annog rhagor i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hystyr ehangach.  

Bydd rhagor o waith cwmpasu, dadansoddi a phrofi yn cael ei wneud ar y  cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i greu'r fframwaith strategol a'r manylebau.  

Rwyf yn gweld gwerth mewn rhoi rhwydwaith cenedlaethol mewn cyd-destun strategol statudol a chyd-destun cynllunio gofodol a byddaf yn awyddus i hynny gael ei adlewyrchu yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.  

Fy mwriad yw gweld Trafnidiaeth Cymru yn caffael ac yn goruchwylio’r consesiwn ar ôl iddo gael ei roi, gan wneud hynny ar sail fframwaith strategol a manylebau a fydd yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru.  

Fy nod yw gweld Trafnidiaeth Cymru yn trefnu proses caffael y gwanwyn nesaf, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau bryd hynny.