Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hysbysodd Coleg Harlech WEA y Gogledd fy swyddogion cyn y Nadolig o anawsterau ariannol sydd wedi arwain at sefyllfa ariannol gyffredinol sydd £900,000 yn waeth nag a ragwelwyd. Cynhaliwyd trafodaethau i benderfynu ar gamau i’w cymryd i unioni’r sefyllfa ac ar gynllun adfer busnes. Ysgrifennais at Gadeirydd Llywodraethwyr Coleg Harlech ar 11 Ionawr yn ei rybuddio y byddem yn ystyried atal unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i’r Sefydliad, o’r 1 Ebrill 2013, pe byddem yn parhau yn anfodlon â’r camau oedd yn cael eu cymeryd i fynd i’r afael â’r problemau ariannol yn y Sefydliad, neu’r trefniadau ariannol a’r trefniadau llywodraethu i ddiogelu cyllid cyhoeddus.
Bu fy swyddogion yn cydweithio’n agos â’r Coleg ar broses adfer, a chytunodd ei Gorff Llywodraethu yn derfynol ar gynllun adfer ar 18 Ionawr. Mae’r cynllun hwnnw bellach yn y broses o gael ei ddadansoddi gan fy swyddogion, i weld a yw’n ymarferol. Bydd y cynllun yn cael ei werthuso hefyd gan gwmni o gyfrifwyr proffesiynol.
Tra bo’r mater yn cael ei archwilio, bydd yr uno arfaethedig gyda WEA y De yn parhau i fynd ymlaen, ond bydd ei lwyddiant wrth gwrs yn cael ei ddylanwadu gan ganlyniadau’r ymchwiliadau ariannol. Rwyf wedi gofyn i wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru edrych ar systemau Coleg Harlech.
Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, dysgwyr yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal. Bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio â’r coleg i sicrhau nad effeithir ar y dysgwyr.
Drwy hyn, rydym wedi canolbwyntio ar ddiogelu y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Coleg Harlech WEA y Gogledd. Byddaf yn hysbysu’r Aelodau o’r sefyllfa wrth i ddigwyddiadau ddatblygu.