Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i gymryd camau i sefydlu Comisiwn Gwaith Teg; panel bach annibynnol o arbenigwyr i ddatblygu'r gwaith cychwynnol ar gyfer y Bwrdd Gwaith Teg oedd i gwmpasu'r dystiolaeth a'r arferion allweddol oedd ar gael oedd yn cael effaith ar Waith Teg.

Fel cadeirydd y Bwrdd Gwaith Teg rwy'n ddiolchgar iawn i'r Bwrdd, sy'n cynnwys aelodau y Social Partner Strategy Group, sy'n cynnwys tri sefydliad: TUC Cymru, y CBI a'r FSB gan gynnwys Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, am eu cyfraniadau cychwynnol.

Rhoddodd y Bwrdd Gwaith Teg fforwm imi ar gyfer trafodaethau cynnar ar ddatblygu Gwaith Teg. Gwnaeth gynnydd da ar y dechrau wrth nodi'r bylchau yn y dystiolaeth a'r dulliau sydd ar gael ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a sbarduno gwaith teg ledled Cymru, ac roedd yn ffynhonnell cyngor da wrth helpu i brofi ein syniadau cychwynnol.

Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am Waith Teg, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y Comisiwn Gwaith Teg, corff Gweinidogol Llywodraeth Cymru, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Linda Dickens MBE, Athro Emeritws Cysylltiadau Diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick.

Yn academydd uwch gydag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes cysylltiadau cyflogaeth, mae gan Linda hanes amlwg o ddefnyddio ei gwybodaeth a'i harbenigedd yn ymarferol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys drwy nifer o benodiadau cyhoeddus.

Yn gymrodeddwr profiadol ym maes anghydfodau llafur, yn gyfryngwr a chadeirydd ymchwiliadau, roedd Linda tan yn ddiweddar yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Cymrodeddu Canolog, ac wedi gwasanaethu ar Gyngor ACAS. Mae ei phenodiadau presennol yn cynnwys Aelod Anweithredol yr Awdurdod Meistri Gangiau a Chamddefnyddio Llafur.

Gyda Linda bydd:

Sharanne Basham-Pyke, Cyfarwyddwr Shad Consultancy Ltd sy'n rhoi cyngor busnes proffesiynol ac yn rheoli newid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Talkflow, busnes meddalwedd newydd ac mae ganddi yrfa portffolio fel Angel Fusnes i nifer o fusnesau bychain gyda thema gyffredin - yr awydd i ddatblygu. Mae cefndir Sharanne yn y maes corfforaethol, gan ymuno â BT yn 1999 o gefndir ym maes rheoli ymgynghoriadau.

Edmund Heery, yn wreiddiol o Lerpwl, cafodd ei addysgu ym Mhrifysgolion Caergrawnt ac Essex a'r London School of Economics. Ers 1996 bu yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae yr Athro Heery yn arbenigwr ar waith a chyflogaeth yn y DU ac mae wedi cyhoeddi gwaith ymchwil ar undebau llafur, sefydliadau cyflogwyr a swyddogaeth cymdeithas sifil wrth hyrwyddo tegwch yn y gwaith. Mae ei waith ymchwil diweddaraf wedi edrych ar y Cyflog Byw gwirfoddol yn y DU, gan gynnwys ei fabwysiadu yng Nghymru.

Sarah Veale CBE wedi ymddeol fel Pennaeth Hawliau Cydraddoldeb a Chyflogaeth yn y TUC yn 2015. Yn y TUC roedd Sarah yn gyfrifol am waith y sefydliad ar gydraddoldeb ac undebau llafur a hawliau  cyflogaeth. Tan Ionawr 2017 roedd yn aelod Bwrdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'n aelod o'r Pwyllgor Polisi Rheoleiddio, sy'n cynnig asesiadau annibynnol o gynigion rheoleiddiol a di-reoleiddiol y Llywodraeth.  Mae Sarah yn Gyfarwyddwr anweithredol Gwasanaeth Achredu y Deyrnas Unedig. Mae'n gymrodor ar ymweliad ag Ysgol Fusnes Prifysgol Greenwich ac yn Is-gadeirydd y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae Sarah yn Is-lywydd y Sefydliad Siartedig Iechyd Amgylcheddol. Yn y gorffennol roedd Sarah yn aelod o Gyngor ACAS a Bwrdd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Derbyniodd Sarah CBE yn 2006 am ei gwasanaethau i amrywiaeth. Yn 2012 derbyniodd Sarah Ddoethuriaeth Anrhydeddus mewn Cyfreithiau ym Mhrifysgol Oxford Brookes.

Caiff y Comisiwn gefnogaeth yr Athro Alan Felstead fel Cynghorydd Arbenigol y Comisiwn. Mae yr Athro Felstead yn Athro Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar sgiliau, hyfforddiant ac amrywiol agweddau ar ansawdd swyddi. Mae wedi cynhyrchu incwm ymchwil o £7.3 miliwn ac wedi cynhyrchu dros 200 o gyhoeddiadau. Yn seiliedig ar y dystiolaeth ymchwil, mae wedi rhoi cyngor arbenigol annibynnol i adrannau'r llywodraeth fel yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaethau Diwydiannol ac asiantaethau megis Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgilau, Swyddfa'r Llywodraeth dros Wyddoniaeth a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cylch Gorchwyl y Comisiwn yw:

"Ar sail tystiolaeth a dadansoddiad mae'r Comisiwn i wneud argymhellion i hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru.

Bydd y Comisiwn yn datblygu dangosyddion a mesurau gwaith teg a nodi ffynonellau data i helpu i fonitro cynnydd. Bydd yn ystyried a ellid datblygu ymhellach y mesurau i hyrwyddo gwaith teg sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, a nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys deddfwriaeth newydd, a gwneud argymhellion.

Mae'r Comisiwn i ddechrau gwaith fis Gorffennaf 2018 ac i adrodd yn ôl erbyn Mawrth 2019."

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.