Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Simon Pirotte OBE fel yr ymgeisydd a ffefrir gennyf ar gyfer rôl Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Ar hyn o bryd mae Simon yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont ac mae wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hyn yn cynnwys gwaith yn sectorau Addysg Uwch, Addysg Bellach ac Ysgolion 11-18 yng Nghymru, Lloegr a'r UDA.
Cafodd proses recriwtio agored drylwyr ei chynnal ar gyfer rôl y Prif Weithredwr rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023. Fodd bynnag, nid oedd y panel yn gallu argymell ymgeisydd i'w benodi. Ar ôl ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i mi yn ofalus, rwyf felly wedi penderfynu gwneud penodiad uniongyrchol i'r rôl.
Wrth benderfynu ar fy hoff ymgeisydd, roeddwn yn ymwybodol o'r farn a fynegwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwrandawiadau cyn-benodi ar gyfer Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn, yn enwedig yr angen i sicrhau bod gan y Comisiwn brofiad sy'n cydnabod ehangder y sector yng Nghymru. Rwy'n hyderus, ar ôl penodi'r Athro Fonesig Julie Lydon (Cadeirydd), a’r Athro David Sweeney (Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesedd) ynghyd â phenodiad arfaethedig Simon nawr, fod gennym dîm â phrofiad arweinyddiaeth a gwybodaeth eang o ran y sector a fydd yn gallu arwain y Comisiwn newydd i wireddu ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru.
Bydd Simon yn mynd i wrandawiad cyn-benodi gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 25 Mai yn unol â'r ymrwymiad a wnes i yn ystod hynt Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 drwy’r Senedd. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad gwrandawiad cyn-benodi'r Pwyllgor, a bryd hynny byddaf yn cadarnhau'r camau nesaf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.