Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 19 Ebrill, rwy'n falch o gadarnhau penodiad Simon Pirotte fel Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad a gymeradwyodd Simon yn dilyn ei wrandawiad cyn penodi ar 25 Mai 2023 ac, er y fy mod yn anghytuno’n barchus â chasgliad y Pwyllgor ar y broses recriwtio a arweiniodd at y penodiad, nodaf nad yw hyn yn adlewyrchu ar ymgeisyddiaeth Simon ar gyfer y rôl.
Bydd Simon yn dechrau yn ei swydd ym mis Medi ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni sefydlu'r Comisiwn fel y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector trydyddol ac ymchwil cyfan, gan ddwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch a phellach Cymru, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau ac ymchwil ac arloesi mewn un lle. Mae penodiad Simon wedi'i groesawu'n eang ar draws y gwahanol sectorau ôl-16, ac rwy'n hyderus y bydd y cyfuniad o sgiliau, gwybodaeth ac arweinyddiaeth a gynigir gan Simon, ochr yn ochr â rhai’r Athro Fonesig Julie Lydon fel Cadeirydd a'r Athro David Sweeney fel Dirprwy Gadeirydd, yn creu tîm sy'n gallu cyflawni ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru.