Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod ddoe wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023.
Bydd dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad o'u blaenoriaethau ar gyfer ac mewn cysylltiad ag addysg drydyddol ac ymchwil yn dod i rym ar 4 Medi 2023, ac fy mwriad yw cyhoeddi'r datganiad cyntaf ym mis Rhagfyr.
Yn ogystal â chychwyn y ddyletswydd hon, mae'r Gorchymyn hefyd yn cychwyn adran 14 o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn baratoi cynllun strategol yn nodi sut mae'n bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau strategol a mynd i'r afael â'r datganiad o flaenoriaethau. Bydd gofyn i'r Comisiwn gyflwyno ei gynllun drafft i Weinidogion Cymru erbyn 15 Rhagfyr 2024.
Bydd y Gorchymyn Cychwyn, ar 4 Medi 2023, yn dod â darpariaethau mewn perthynas â'r materion canlynol i rym:
- Rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch (adran 17);
- Awtonomi sefydliadol darparwyr addysg drydyddol (adran 18);
- Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol (adran 19);
- Dyletswydd ar y Comisiwn i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. (adran 20);
- Darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau cyffredinol i'r Comisiwn ynghylch defnyddio unrhyw un o'i swyddogaethau (adran 21);
- Darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi swyddogaethau atodol i'r Comisiwn drwy reoliadau (adran 22);
- Darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o CCAUC a Gweinidogion Cymru i'r Comisiwn (adran 24 ac atodlen 2).
- Pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn (adran 85(1), (2)(a) a (b)). Mae'r Gorchymyn yn dod â gweddill adran 85 i rym ar 1 Ebrill 2024.
- Gwybodaeth a chyngor oddi wrth y Comisiwn a gwybodaeth oddi wrth Weinidogion Cymru (adran 130)
- Gallu'r Comisiwn i rannu gwybodaeth (adran 132 ac eithrio is-adran (1)(f))
- Statws, gweithdrefnau, trefniadau gweithredol a phwyllgorau'r Comisiwn (atodlen 1)
Mae'r Gorchymyn Cychwyn hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n dod â swyddogaethau penodol o fewn y Ddeddf i rym yn rhannol, er mwyn galluogi'r Comisiwn i ymgymryd â gweithgareddau paratoadol dros yr hydref a'r gaeaf i gefnogi gweithredu swyddogaethau allweddol.
Bydd y swyddogaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn rhannol yn galluogi'r Comisiwn i ymgymryd â'r gweithgareddau paratoi canlynol mewn perthynas â'r system gofrestru:
- Paratoi’r ddogfen sy'n pennu'r gofynion sydd i'w bodloni mewn perthynas â'r amodau cofrestru cychwynnol (adran 27(1) a (2));
- Penderfynu ar yr amodau cofrestru parhaus cyffredinol (adran 28(1) i (3), adran 31(1)(a) i (f), (i), (j) a (2) ac adrannau 32 a 33);
- Dechrau paratoi canllawiau yn ymwneud ag amodau cofrestru parhaus (adrannau 35 a 36);
- Ymgymryd â gwaith paratoi i benderfynu sut y bydd yn monitro cydymffurfiaeth darparwyr cofrestredig ag amodau cofrestru parhaus (adrannau 35 a 36);
- Dechrau paratoi datganiad ar ei bolisi cyllido (adran 87).
Mae'r Gorchymyn hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n dwyn i rym y pwerau gofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud yr is-ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol i gefnogi sefydlu'r Comisiwn a gweithredu'r Ddeddf yn barhaus.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.