Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Rwyf wedi cymeradwyo gwaith i sefydlu Uned Troseddu yn erbyn Busnesau Cymru fel yr amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu.

Bwriad Llywodraeth Cymru fydd cynnig arweiniad cyffredinol ar godi ymwybyddiaeth o droseddau busnes a’u heffaith economaidd, gydag amcan i roi i fusnesau Cymru yr wybodaeth a’r teclynnau i fod yn ymwybodol, yn wyliadwrus ac yn y pen draw amddiffyn eu hunain rhag trosedd. Caiff hyn ei gyflawni drwy declynnau ar-lein a chanllawiau a gwersi adeiladu a addysgir drwy seminarau a gweithgareddau cefnogi busnes BETS. Byddaf hefyd yn gweithio i sicrhau bod lluoedd yr heddlu yng Nghymru yn ymwybodol o faterion arwyddocaol troseddu yn erbyn busnesau, ar sail Cymru gyfan ac ar lefel leol, ac felly’n gallu cymryd camau pellach i helpu i amddiffyn busnes.

Mae cyfran arwyddocaol o droseddau busnes yn e-droseddau ac wrth i fusnesau barhau i fwynhau buddion TGCh, ac wrth i ni symud i economi fwyfwy digidol, mae effaith potensial e-droseddu ar fusnesau yn cynyddu. O’r herwydd, byddaf yn sefydlu uned rheoli o fewn Sector TGCh BETS gan gysylltu'r Uned Troseddu yn erbyn Busnesau gyda strategaeth Sector TGCh Cymru. Bydd yr Uned yn darparu rhaglen weithredu er mwyn amddiffyn ac addysgu busnesau ar draws pob sector mewn atal troseddau busnes a seiberddiogelwch, a rhoi cyfle i fusnesau yn y Sector TGCh ychwanegu at eu portffolio o wasanaethau.

Byddaf yn sefydlu sefydlu panel o arbenigwyr gyda chynrychiolwyr o fyd busnes, yr heddlu a’r Llywodraeth i fod yn grŵp aml-asiantaeth sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i lywio datblygiad yr Uned Troseddu yn erbyn Busnesau.

Yn amlwg mae atal Troseddu yn erbyn Busnes ac erlyn y rheini sy’n cyflawni troseddau yn erbyn busnes yn fater i’r heddlu ac felly bydd yr uned yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i ymgymryd â’r gweithgareddau hynny. Fel rhan o’r gwaith cwmpasu i gyflawni’r ymrwymiad hwn, fe ymchwiliodd fy swyddogion gyda’r heddlu i’r potensial o ddarparu cyllid ychwanegol i dalu am y gost o swyddogion â gwarant a fydd yn targedu troseddu yn erbyn busnesau yn benodol. Er bod yr heddlu yn gefnogol o’r cynigion i sefydlu Uned Troseddu yn erbyn Busnesau, ni allant ymrwymo i dargedu adnoddau yn benodol fel hyn yn sgil pwysau ar eu cyllidebau eu hunain a’u hangen i reoli a threfnu adnoddau’r heddlu ar draws amrywiaeth o flaenoriaethau.