Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i integreiddio cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI) y dyfodol fel un o’r egwyddorion sylfaenol allweddol i helpu i weddnewid ein rhagolygon economaidd ar gyfer twf a swyddi yng Nghymru a hefyd i’w gwneud yn haws i ymgysylltu â chronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, gallu manteisio arnynt a chael budd ohonynt.

Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i adlewyrchu gan y ffaith bod gwaith i integreiddio’r pedair cronfa ESI – ERDF, ESF, EAFRD ac EMFF  – yn mynd rhagddo ar nifer o lefelau, gan gynnwys:

  • gwaith Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd wrth ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu’r rhaglenni ESI yn y dyfodol a’r cydymgynghoriad cyhoeddus diweddar;
  • datblygu Pennod Cymru fel rhan o Gytundeb Partneriaeth y Deyrnas Unedig;
  • cytundeb y dylai’r Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd a argymhellwyd fel rhan o Adolygiad Guilford dynnu sylw at gyfleoedd economaidd ar gyfer yr holl gronfeydd ESI; a 
  • datblygu un porth i fanteisio ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd a, lle bo’n bosibl, prosesau a chanllawiau ymgeisio cyffredin a threfniadau cyffredin ar gyfer diwydrwydd dyladwy ac arfarnu, dangosyddion perfformiad a monitro.

Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a thimau Gwledig a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â’r gwaith hwn mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol ac mae trefniadau gweithredu’n cael eu datblygu’n unol â’r amserlen i gyflwyno’r rhaglenni Cronfeydd Strwythurol i’r Comisiwn Ewropeaidd ym mis Hydref eleni a’r rhaglen Datblygu Gwledig yn 2014.

Fel rhan o’r gwaith integreiddio hwn, mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, a minnau wedi cytuno’n ddiweddar i sefydlu un Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru ar gyfer cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Datblygu Gwledig y dyfodol a reolir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r trefniadau yn y dyfodol ar gyfer y gronfa Pysgodfeydd (EMFF) yn dal i gael eu hystyried. Disgwylir y bydd un rhaglen i’r Deyrnas Unedig yn ofynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac y bydd gan hon ei Phwyllgor Monitro ei hun a fydd yn gweithredu ar lefel y Deyrnas Unedig, ond gyda chynrychiolaeth o Gymru.

Mae gan Bwyllgor Monitro Rhaglen swyddogaethau penodol a bennir gan reoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd i gyflawni’r rheiny, gan gynnwys cymeradwyo meini prawf dethol prosiectau, edrych ar y cynnydd a wneir wrth gyflawni amcanion cytunedig y rhaglen, a chytuno ag unrhyw newidiadau i’r rhaglenni.  

Mae sefydlu un Pwyllgor Monitro Rhaglen yn cael ei gefnogi’n helaeth gan ein partneriaid, ar sail yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y rhaglenni newydd. Cefais gyfle hefyd yn ddiweddar i drafod ein cynigion gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac aelodau o Bwyllgor Monitro Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Cymru Gyfan, o dan gadeiryddiaeth Ken Skates AC, ar 21 Mehefin.

Bydd un Pwyllgor Monitro Rhaglen ar draws y cronfeydd Strwythurol a Gwledig yn hwyluso asesiad mwy cyfannol o effaith ac effeithiolrwydd y cronfeydd o’u cymharu â’r Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd newydd a gwell gwybodaeth rheoli a monitro sy’n mynd y tu hwnt i swyddogaethau creiddiol rheoleiddiol y Pwyllgor fel yr argymhellir gan Adroddiad cyhoeddedig Dr Guilford ar drefniadau gweithredu yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn disgwyl i’r trefniadau hyn sicrhau y canolbwyntir yn fanylach ar y ffordd mae’r cronfeydd yn rhyngweithio gyda’i gilydd ac iddynt bwysleisio cyfleoedd i gael gwerth ychwanegol trwy roi mwy o sylw i gyfatebolrwydd ac integreiddio’r ffrydiau ariannu.

Mae trefniadau ar y gweill ar hyn o bryd i benderfynu ar Aelodaeth yr un Pwyllgor Monitro Rhaglen fel y gellir sefydlu’r Pwyllgor yn hwyr yn 2013 er mwyn cymeradwyo’r meini prawf dethol prosiectau ar y cyfle cyntaf posibl. Bydd hyn yn golygu y gellir gwneud y penderfyniadau ynglŷn â chymeradwyo’r prosiectau cyntaf a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd o ddechrau 2014 ymlaen.

Bydd y Pwyllgor Monitro Rhaglen newydd yn adlewyrchu egwyddorion partneriaeth, gan dynnu Aelodau o’r sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector (gan gynnwys partneriaid economaidd a chymdeithasol, awdurdodau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol; a chynrychiolwyr y gymdeithas sifil gan gynnwys cyrff amgylcheddol a chydraddoldeb). Byddwn yn sicrhau bod yna gynrychiolaeth gref o’r sector busnes a menter. Bydd rhagor o fanylion am ein cynigion a sut y gall partïon sydd â buddiant wneud cais am Aelodaeth yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau i ddod.