Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Mae’r Datganiad hwn yn disgrifio’r datblygiadau diweddaraf gyda sefydlu sefydliad gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru.
Rwyf heddiw’n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi sefydlu sefydliad ymchwil i weithgynhyrchu uwch yn y Gogledd.
Mae’r sefydliad, a oedd yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, wedi cael ei datblygu gan Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, AMRC Sheffield, Prifysgol Abertawe a Choleg Cambria ar y cyd â busnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr.
Bydd yr £20m y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor yn cefnogi buddsoddiad cychwynnol o £10m gan bartneriaid y prosiect i ddatblygu’r sefydliad ac i wneud yn fawr o bob cyfle, gan gynnwys ei leoliad allweddol yng Nghymru a’r ffaith ei bod mor agos i’r ‘Northern Powerhouse’. Bydd hynny’n golygu y bydd busnesau Cymru o fewn cyrraedd rhwydd i’r ymchwil, yr arloesedd, y prosesau cynhyrchu a’r cyllid diweddaraf yn y DU ym maes gweithgynhyrchu.
Bydd yr sefydliad yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu ar y cyd, y technegau a’r prosesau gweithgynhyrchu mwyaf blaengar ac anghenion y diwydiant o ran hyfforddiant a sgiliau. Bydd yn targedu sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys awyrofod, ceir, niwclear a bwyd.
Bydd y ganolfan yn gyrchfan agored ac yn edrych yn rhagweithiol am bartneriaethau cydweithredol gyda diwydiant a phartneriaid academaidd lleol, er enghraifft Prifysgol Glyndŵr, ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau’r budd mwyaf a chyfatebolrwydd.
At hynny, gallaf ddatgelu mai Airbus fydd tenant angori cynta’r sefydliad a bydd yn cynnal eu rhaglen datblygu ‘Adenydd y Dyfodol’ yno. Bydd denu’r prosiect ymchwil a datblygu i Gymru’n helpu’r ymdrechion i sicrhau mai ym Mrychdyn y caiff yr adenydd newydd hyn eu cynhyrchu yn y dyfodol.
Yn ei gyfanrwydd gall y sefydliad ddiogelu 6000 o swyddi hyd at 2030 a thu hwnt ac o bosib creu 1000 a mwy o swyddi newydd yng ngweddill yr economi.
Caiff Bwrdd Datblygu o dan arweiniad Cyfarwyddwr Datblygu ei benodi cyn hir a bydd yn cynnal rhagor o brofion ‘diwydrwydd dyladwy’ fydd yn penderfynu’n derfynol ar y gofyn diwydiannol a’r penderfyniad buddsoddi. Bydd hynny’n cadarnhau manylion a lleoliad y cyfleusterau, hynny erbyn haf 2017.