Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynglŷn â sefydlu Rhwydwaith Trawma De Cymru a fydd yn gwasanaethu De Cymru, Gorllewin Cymru a De Powys, a rhoi gwybod ichi y bydd y trefniadau newydd ar waith o 14 Medi 2020.

Bydd aelodau yn gwybod bod gan gleifion yng Ngogledd Cymru ac yng Ngogledd Powys fynediad eisoes i'r trefniadau Trawma Mawr fel rhan o Rwydwaith Trawma Mawr Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru. Mae trigolion Powys hefyd yn bwydo i mewn i Rwydwaith Trawma Birmingham, Black Country, Henffordd a Chaerwrangon.

Ers imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2019 yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd wrth sefydlu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer De Cymru, Gorllewin Cymru a De Powys, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i gwblhau’r broses yn barod ar gyfer ei weithredu.

Ystyriwyd Achos Busnes y Rhaglen yng nghyfarfodydd perthnasol y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ym mis Tachwedd 2019 ac fe’i cymeradwywyd yn ffurfiol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ym mis Ionawr 2020.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £3.717 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2019/20 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ward amldrawma, ehangu’r gallu i ddadebru yn yr adran argyfwng a darparu offer ychwanegol yn yr adran argyfwng/gofal critigol/theatrau yn y ganolfan trawma mawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Yn awr, rwyf wedi cytuno i £13.186 miliwn yn 2020/21, gan godi i £13.280m o gyllid refeniw rheolaidd o 2021/22 i dalu costau’r ganolfan trawma mawr, gwasanaethau arbenigol, gwasanaethau cyn ysbyty ac elfennau rhwydwaith achos busnes y rhaglen.

Y gobaith yn wreiddiol oedd y byddai Rhwydwaith Trawma De Cymru yn weithredol o’r Gwanwyn 2020, ond penderfynwyd gohirio oherwydd effaith coronafeirws. Yn y cyfamser mae’r Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol wedi datblygu cynllun a chanllawiau ar gyfer cynnydd yn y galw, gan ddefnyddio profiad rhwydweithiau trawma yn Lloegr yn ystod ton gyntaf y coronafeirws, i helpu i sicrhau bod y rhwydwaith yn barod ac y bydd yn gallu gweithredu yn ystod unrhyw donnau yn y dyfodol. Mae’r Rhwydwaith hefyd wedi gweithio’n agos gyda byrddau iechyd, y gwasanaeth ambiwlans a Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) i sicrhau y byddant yn barod ar gyfer y dyddiad dechrau newydd, ac ystyried unrhyw effaith ar lwybrau/gwasanaethau o ganlyniad i’r coronafeirws.

Yng Nghyd-bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar 14 Gorffennaf, cytunodd y byrddau iechyd/ymddiriedolaethau er bod angen gwneud mân newidiadau i’r ddarpariaeth yn rhai ardaloedd i liniaru effeithiau coronafeirws, bod y seilwaith angenrheidiol a’r trefniadau llywodraethu yn awr wedi’u sefydlu i ddechrau Rhwydwaith Trawma De Cymru ar 14 Medi 2020.

Mae Rhwydwaith Trawma De Cymru yn cynnwys:

  • Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol, i'w gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan ddarparu swyddogaeth reoli'r rhwydwaith, a chydgysylltu cyflawni gweithredol
  • Offeryn brysbennu cyn ysbyty i sicrhau bod cleifion trawma mawr yn cael eu cludo'n uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) neu Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (EMRTS), neu ddarparwyr argyfwng eraill i'r Uned Trawma Mawr (MTC) neu Uned Drawma (TUs)
  • MTC oedolion a phlant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Bydd gan yr MTC fynediad at yr holl wasanaethau arbenigol sy'n berthnasol i drawma mawr. Bydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ofal acíwt cleifion trawma mawr yn y rhanbarth trwy bolisi derbyn awtomatig ac yn rheoli trosglwyddo cleifion i ofal adsefydlu. Bydd yn cydweithio ag ysbytai eraill yn y rhwydwaith ac yn eu cefnogi.
  • Uned Drawma oedolion a phlant, gyda gwasanaethau arbenigol, yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Bydd yn darparu cymorth arbenigol i'r MTC ac yn darparu llawdriniaeth arbenigol i gleifion nad oes ganddynt anafiadau lluosog, ar gyfer llosgiadau, a llawdriniaeth blastig, llawdriniaeth i asgwrn y cefn a llawdriniaeth gardiothorasig.
  • Pum Uned Drawma i oedolion a phlant yn y lleoliadau canlynol:
    • Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd (ar gyfer ei boblogaeth leol)
    • Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd (nes i Ysbyty Athrofaol y Grange ddechrau gweithredu'n llawn. Ar yr adeg hon bydd Ysbyty Athrofaol y Grange yn Uned Drawma ddynodedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
    • Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
    • Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
  • Bydd yr Unedau Trawma'n gofalu am gleifion sydd wedi'u hanafu a bydd ganddynt systemau ar waith i symud y cleifion sydd wedi'u hanafu waethaf i ysbytai a all reoli eu hanafiadau, sef yr MTC yn y mwyafrif o achosion. Bydd ganddynt rôl wrth dderbyn cleifion yn ôl y mae arnynt angen gofal parhaus yn yr ysbyty a bydd ganddynt system dderbyn addas trwy bolisi derbyn awtomatig.
  • Cyfleusterau trawma gwledig yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd. Er nad oes unrhyw ddangosyddion ansawdd penodol ar gyfer cyfleuster trawma gwledig, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ysbytai hyn yn cadw'r gallu i asesu a thrin cleifion trawma mawr, o gofio eu lleoliadau daearyddol cymharol unigryw
  • Ysbyty Argyfwng Lleol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni. Ond mae prosesau ar waith i sicrhau os bydd hyn yn digwydd, y bydd cleifion yn cael eu rheoli’n briodol a’u trosglwyddo i'r Ganolfan Trawma Mawr neu'r Uned Drawma agosaf. Bydd yr ysbytai hyn yn dal i dderbyn cleifion trawma cymedrol a thrawma orthopedig. Cadarnhawyd y bydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cadw Adran Argyfwng 24/7 gyda gwasanaethau acíwt cysylltiedig. Bydd yr Ysbyty Argyfwng Lleol yn Ysbyty Nevill Hall ar gael dim ond nes y bydd Ysbyty Athrofaol y Grange ar agor.

I'r mwyafrif helaeth o gleifion sy'n dioddef trawma mawr, bydd eu cyswllt cyntaf â GIG Cymru gyda’r gwasanaeth ambiwlans neu EMRTS pan gânt ofal cychwynnol yn y lleoliad. Mae’r gwasanaeth ambiwlans hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd â chleifion adref yn dilyn gofal yn y lleoliad gofal eilaidd neu ymlaen ar gyfer eu hadsefydlu arbenigol. Bydd yr offeryn brysbennu trawma a'r ddesg trawma mawr yn helpu i sicrhau bod cleifion yn mynd yn uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol.
 
Bydd gan yr uned drawma yn Ysbyty Treforys rôl hefyd wrth ddarparu cymorth gwasanaethau arbenigol i'r rhwydwaith (ee. orthoplasteg, llawdriniaeth ar asgwrn y cefn, adsefydlu lefel 1). Yn ychwanegol bydd yr uned drawma yn ABUHB yn darparu gwasanaeth asgwrn cefn ar gyfer rhai cleifion trawma.
 
Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud gan y byrddau iechyd, y gwasanaeth ambiwlans, EMRTS, comisiynwyr a'r rhwydwaith i sicrhau bod y gwasanaeth yn barod i ddechrau ar 14 Medi 2020. Mae’r ffaith ein bod wedi gallu symud ymlaen i ddatblygu’r gwasanaeth hwn yn y cyfnod sydd ohoni yn gyflawniad aruthrol i GIG Cymru ac yn destament i waith caled pawb a fu’n rhan ohono. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddod â’r gwasanaeth pwysig hwn i bobl de Cymru. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.