Jeremy Miles AM, Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n falch o gyhoeddi fy mwriad i sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant (CLG) i oruchwylio’r ddarpariaeth a’r comisiynu o adnoddau a deunyddiau addysgol dwyieithog i gefnogi Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau.
Mae cael adnoddau dysgu ac addysgu pwrpasol, o ansawdd uchel ac yn amserol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi’u cyhoeddi ar yr un pryd, yn elfen allweddol i sicrhau hygrededd y cwricwlwm, ac ymrwymiad angenrheidiol gan ymarferwyr i’w wireddu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn arloesol, uchelgeisiol ac yn heriol ac felly yn gofyn am ddull tra gwahanol a’r un mor uchelgeisiol o ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol wrth iddo ennill ei blwyf dros y blynyddoedd.
Mae swmp sylweddol o adnoddau yn cael eu comisiynu ar hyn o bryd ond mae angen i hyn gael ei gydlynu’n fwy strategol ac mae hefyd lle ddefnyddio’r cyllidebau a’r arbenigedd sydd ar gael yn genedlaethol yn fwy effeithiol. Heb broses strategol genedlaethol gall ymdrechion gael eu dyblygu, nid oes cydraddoldeb yn y ddarpariaeth yn Gymraeg a Saesneg ac ni ellir sicrhau ansawdd pob adnodd. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda grŵp o ran ddeiliaid o’r sector addysg, creadigol a chyhoeddus i edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu adnoddau addysgol a’r strwythur gorau i gyflawni hyn. Mae’r Grŵp wedi argymell sefydlu endid cyfreithiol newydd, fyddai hyd braich o Lywodraeth Cymru, gyda Bwrdd yn atebol i Weinidogion Cymru ac a fyddai’n gweithio o fewn fframwaith a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n cytuno mai dyma’r ffordd orau i gyflawni ein huchelgais.
Bydd y cwmni hwn yn darparu cyfleoedd i ni weithio gyda’n gilydd, i rannu arbenigedd a phrofiad ac i ddatblygu capasiti ysgolion ac ymarferwyr i greu adnoddau i gefnogi eu cwricwlwm lleol. Bydd yn wasanaeth amlwg i droi ato, fydd yn hwyluso cyd-awduro rhwng athrawon a rhan ddeiliaid eraill, gan sicrhau fod talent yn cael ei gydnabod, ei feithrin a’i ddatblygu. Bydd yn clymu gyda gwaith y Rhwydwaith Cenedlaethol o weithredu’r cwricwlwm ac yn sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn cael eu datblygu yn unol ag egwyddorion ac ethos y cwricwlwm newydd, a’u bod yn cefnogi rôl ysgolion ac ymarferwyr fel dylunwyr cwricwlwm. Bydd yn buddsoddi hefyd mewn sgiliau a chapasiti yn y sector cyhoeddi, gan sicrhau cydlynu a chydweithio.
Rwy’n hyderus mai dyma’r dull cywir i Gymru ac rwy wedi gofyn i’m swyddogion i ddechrau ar y gwaith manwl sydd ei angen i gyflawni’r newid hwn. Rwy wedi cytuno i ddechrau ar y broses penodiadau cyhoeddus i benodi Cadeirydd ac aelodau i’r Bwrdd ynghyd â Chyfarwyddwr Strategol. Rwy’n disgwyl i’r cwmni fod yn gwbl weithredol erbyn 1 Ebrill 2023.
Fodd bynnag, bydd y gwaith o sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol ar gael ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm ym mis Medi yn parhau i gael ei wneud gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru nes bo’r cwmni wedi’i sefydlu. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cyhoeddi canllaw cychwynnol yn nhymor yr haf ar ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol.
Byddaf yn diweddaru aelodau ar y datblygiad hwn maes o law.