Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch ein targed i sefydlu gwasanaethau cyswllt toresgyrn ledled Cymru erbyn y terfyn amser a nodwyd, sef mis Medi 2024.
Mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn yn sicrhau bod iechyd esgyrn a risg o gwympiadau pobl 50 oed a hŷn sy'n torri asgwrn ar ôl cwympo yn cael eu hasesu a'u rheoli er mwyn lleihau'r risg o doresgyrn pellach. Mae'r gwasanaeth, sy'n cynnwys tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau gofal iechyd, wedi dangos ei fod o fudd i unigolion ac yn ymyrraeth gynnar glinigol a chosteffeithiol sy'n helpu i osgoi derbyniadau pellach i'r ysbyty.
Yn sgil ymroddiad Dr Inder Singh, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cwympiadau ac Eiddilwch a'i dîm, mewn cydweithrediad â'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng a'r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, mae gwerth dros £1 miliwn wedi'i fuddsoddi er mwyn datblygu gwasanaethau cyswllt toresgyrn mewn ardaloedd lle nad oedd gwasanaethau o'r blaen, a chefnogi gwaith i ehangu a gwella gwasanaethau presennol.
Mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn wedi'u sefydlu yn y chwe bwrdd iechyd prifysgol ac mae cytundebau ar y cyd ar waith rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac ysbytai cyffredinol cyfagos er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw yng nghymunedau Powys yn gallu manteisio ar wasanaethau. Mae'r cyllid wedi sicrhau bod 13 o nyrsys clinigol arbenigol ac 11 o staff gweinyddol wedi'u penodi.
Er y gallwn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi sicrhau bod gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar waith ledled Cymru, nid yw'r daith yn gorffen yma. Mae'r holl fyrddau iechyd wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i barhau i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion eu poblogaethau lleol a lleihau effeithiau cwympiadau a thoresgyrn ar unigolion ac ar y GIG.
Yng nghyfnod nesaf y gwaith hwn, ein blaenoriaeth fydd cynnal y gwaith parhaus o ddatblygu gwasanaethau a pharhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gryfhau ei wasanaeth cyswllt toresgyrn gan ystyried yr hyn y gellir ei ddarparu yn y gymuned.
Mae cael gafael yn amserol ar wasanaethau Amsugniametreg Pelydr X Egni-Deuol (DXA) yn hanfodol i ymdrin yn effeithiol â phobl ag osteoporosis a'r rhai sydd â risg uchel o doresgyrn. Mae'r gwasanaethau hyn yn allweddol i lwyddiant parhaus y model gwasanaeth cyswllt toresgyrn yng Nghymru. Mae DXA yn dechneg delweddu meddygol a ddefnyddir i fesur dwysedd mwynol esgyrn ac fe'i hystyrir y safon aur ar gyfer gwneud diagnosis o osteoporosis ac asesu risg o doresgyrn. Mae canlyniadau sganiau DXA yn helpu clinigwyr i werthuso iechyd esgyrn, monitro newidiadau dros amser ac arwain penderfyniadau ynghylch triniaethau.
Mae gwasanaethau DXA yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau o ran capasiti, ansawdd a'r gweithlu. Dros y 12 mis nesaf, bydd Dr Singh a'r Grŵp Sicrhau Ansawdd a Datblygu Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn yn gweithio gyda byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o achosion yng ngwasanaethau DXA, gwella mynediad at sganiau a phrosesau, a buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu'r gweithlu.
Yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i wella a chodi ymwybyddiaeth o iechyd esgyrn, rydym hefyd yn gweithio gyda rhwydweithiau clinigol a chydweithwyr iechyd esgyrn, partneriaid yn y trydydd sector a phobl â phrofiad bywyd ledled Cymru i gydgynhyrchu'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn. Bydd y datganiad hwn yn amlinellu ein disgwyliadau ar gyfer gwell gwasanaethau iechyd esgyrn ledled Cymru.
Yn dilyn ei gyhoeddi, bydd y rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol, ar y cyd â'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng a rhwydweithiau clinigol ar gyfer orthopedeg, rhewmatoleg a phoen parhaus, yn helpu GIG Cymru i gyflawni gwelliannau ym maes iechyd esgyrn.