Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyhoeddwyd Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn Chwefror 2011. Roedd y ddogfen honno’n egluro y gellid cyflenwi rhai gwasanaethau yn fwy effeithlon yn genedlaethol, ac mai’n bwriad ni a rhanddeiliaid eraill, oedd arloesi yn y maes hwnnw trwy ymchwilio i gylch gorchwyl a swyddogaethau Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Hoffwn weld awdurdodau lleol yn gweithredu yn gyflymach i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y plant hynny na fyddai dychwelyd gartref yn llesol iddynt; yn gwella’r dull o hyrwyddo mabwysiadu ac yn cynyddu’r gronfa o fabwysiadwyr; a sicrhau bod cymorth ôl-fabwysiadu o ansawdd da ar gael i’r rhai y mae arnynt ei angen.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ei argymhellion, yn dilyn ymchwiliad trylwyr i fabwysiadu yng Nghymru – adroddiad a astudiais gyda chryn ddiddordeb. Roedd argymhellion y Pwyllgor hwnnw yn galw am weithredu radical, ac yr wyf yn llwyr gytuno â hynny.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn ategu fy marn bod angen newid sylweddol yn y modd y trefnir ac y cyflenwir gwasanaethau mabwysiadu, er mwyn eu hailfywiogi, adennill momentwm ac ailafael yn amcanion Deddf Mabwysiadu 2002 a’n strategaethau ar gyfer dewis lleoliadau a sicrhau sefydlogrwydd.

Er mwyn cyflawni hyn bydd angen newid yn ddisyfyd a sylweddol y modd y cyflenwir y gwasanaethau mabwysiadu, trwy sefydlu Gwasanaeth Cenedlaethol, a fydd â phŵer i gyflenwi gwasanaethau ledled Cymru. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod ac yn derbyn y gellir darparu rhai gwasanaethau yn well ar lefel ranbarthol. Rwyf yn cefnogi’r datganiad hwnnw, oherwydd, ar gyfer newid, nid lleoliad y gwasanaeth sy’n allweddol ond yn hytrach sefydlu fframwaith cenedlaethol i recriwtio, hyfforddi a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr. Canolbwynt gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fydd hyrwyddo rhagoriaeth ac ysgogi gwelliant parhaus

Y broblem allweddol yr wyf yn benderfynol o geisio’i datrys yw’r oedi o fewn y system fabwysiadu, ac effaith hynny ar les y plant. Rwyf yn cydnabod bod rhaid gwneud newidiadau radical hefyd yn y modd y cyflenwir y gwasanaethau. Mae canfyddiadau’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol yn dangos nad yw’r system bresennol yn gweithredu bob amser er budd gorau’r plentyn. Ar 31 Mawrth 2012, roedd tua 2,500 o blant wedi bod mewn gofal am 3 blynedd neu’n hwy; yn ystod y flwyddyn i 31 Mawrth 2012, 246 mabwysiad oedd wedi eu cwblhau, sef 4.3% o gyfanswm y boblogaeth o blant sy’n derbyn gofal – ystadegyn nad yw’n cyfleu darlun calonogol.

Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, plant rhwng 1 a 4 blwydd oed oedd y rhan helaethaf o’r plant a fabwysiadwyd. Mae nifer y plant a fu’n aros am 2-3 blynedd cyn cael eu mabwysiadu wedi cynyddu 62% (o 65 yn 2006 i 105 yn 2012).

Mae rhai agweddau wedi gwella; er enghraifft, yn 2012 yr amser cyfartalog rhwng derbyn i ofal a mabwysiadu yw 828 diwrnod ( sef ychydig dros 2 flynedd), o gymharu â 905 diwrnod (2 flynedd a 3 mis) yn 2011. Ond nid yw hyn yn foddhaol, o bell ffordd: Rydym yn cydnabod, ac yn pryderu ynghylch, yr oedi yn y system fabwysiadu, a’r niwed y gall hynny ei achosi i’r plant trwy eu hamddifadu o’u cyfle gorau i brofi cariad a sefydlogrwydd o fewn teulu newydd.

Yn achos llawer o’r plant sy’n derbyn gofal, darperir sefydlogrwydd trwy eu dychwelyd yn llwyddiannus at eu teuluoedd genedigol, ar ôl datrys y materion gwreiddiol a barodd bod y plentyn fod yn derbyn gofal.

Rhaid derbyn mai poblogaeth dros dro yw’r boblogaeth sy’n derbyn gofal, gyda thraean o’r plant yn dychwelyd adref o fewn y chwe mis cyntaf. Pan nad oes modd iddynt ddychwelyd gartref, mae gofal gan berthnasau a chyfeillion yn llwybr amgen a phwysig tuag at sefydlogrwydd i’r plentyn, yn enwedig os ategir hynny gan gorchymyn preswylio neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Allan o’r cyfanswm o 5,726 o blant sy’n derbyn gofal, lletyir tua 1,406 o blant a phobl ifanc gan eu teuluoedd eu hunain, eu perthnasau neu gyfeillion, er bod y gyfraith yn parhau i’w hystyried yn ‘blant sy’n derbyn gofal’. Bydd y plant a’r bobl ifanc hyn yn ddarostyngedig i’r un systemau â phlant y gofelir amdanynt gan ofalwyr maeth, neu trwy drefniant gofal preswyl, er gwaethaf eu lleoli gyda’u teuluoedd eu hunain, eu perthnasau neu gyfeillion.

Mae mwy na thri chwarter y plant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau maeth. Trefniant dros dro yw hynny i rai ohonynt; ond i lawer o’r plant, yn enwedig plant hŷn sydd â chysylltiad â’u rhieni biolegol, gofal maeth hirdymor yw’r opsiwn sefydlog gorau. Cyflwynwyd Gwarcheidiaeth Arbennig yn 2005, fel ffordd o roi ‘cyfrifoldeb rhiant’ i ofalwr maeth, perthynas, neu gyfaill teuluol y plentyn, heb dorri’r cysylltiadau rhwng y plentyn a’i rieni biolegol. Plant yn eu harddegau yw cyfran helaeth o’r rhain ( 37% ), llawer ohonynt gydag anghenion uwch sy’n galw am ofal arbenigol. Dichon mai’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer y bobl ifanc hyn yw cartref preswyl, lle y gallant dderbyn gofal gan weithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau a’r profiad i’w hannog i gyflawni eu potensial llawn.

Ar gyfer y plant a’r bob ifanc hynny y canfyddir mai mabwysiadu yw’r ateb mwyaf buddiol iddynt, nid yw’r darlun presennol yn un calonogol. Mae nifer y mabwysiadwyr cymeradwy wedi gostwng dros y 2 flynedd ddiwethaf; ac Asiantaethau Mabwysiadu a’r Gofrestr Mabwysiadu wedi nodi’r angen i recriwtio, asesu a chymeradwyo rhagor o ddarpar fabwysiadwyr ar frys – proses a allai gymryd cyhyd â 6-8 mis i’w chwblhau. Mae’n amlwg bod y prinder mabwysiadwyr posibl yn cael effaith anferthol ar nifer y cydweddiadau addas sydd ar gael i ddiwallu anghenion amrywiol y plant sy’n aros am eu mabwysiadu. Yn ôl amcangyfrif Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF), ni fydd 1 o bob 4 o’r plant sydd ar gael i’w mabwysiadu yn cael eu lleoli oherwydd, yn bennaf, y prinder rhieni mabwysiadol.

Er bod llawer o’r darpar fabwysiadwyr yn fodlon ar y gwasanaeth a gânt, mae eraill yn anfodlon. Tra bo rhai darpar fabwysiadwyr yn croesawu’r gefnogaeth a’r cysuron a gynigir iddynt yn ystod eu hymholiadau cynnar ynghylch mabwysiadu, mae eraill yn canfod yr asiantaethau mabwysiadu yn araf i ymateb i’w hymholiadau dechreuol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod darpar fabwysiadwyr mewn gwahanol rannau o’r wlad yn cael eu gwrthod, neu’n symud trwy’r broses asesu yn rhy araf, oherwydd nad ydynt, ar yr union adeg dan sylw, yn bodloni anghenion penodol yr asiantaeth fabwysiadu y gwnaed y cais iddi; mae hyn yn dangos diffyg o ran cydgysylltu’r galw a’r cyflenwad cyffredinol.

Rhaid rhoi sylw i’r mater hwn ar frys, yn ogystal â’r dystiolaeth y gall y broses paru a ddilynir gan rai asiantaethau fod yn aneffeithiol. Wrth edrych ar y rhwystrau sy’n atal paru, mae’r prif broblemau a nodwyd gan nifer o’r ffynonellau wedi deillio o agwedd gweithiwr cymdeithasol y plentyn, a oedd yn mynnu parhau i chwilio am y ‘teulu delfrydol’; ac y mae diffyg cyfathrebu rhwng gweithiwr cymdeithasol y plentyn a gweithiwr cymdeithasol y darpar fabwysiadwyr hefyd wedi arwain at rwystro rhai cydweddiadau posibl.

Rwyf wedi egluro y bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno gan sector a fydd yn cynnwys llywodraeth leol a gwirfoddolwyr, ac yn gwerthfawrogi ac yn ychwanegu at y buddion trwy gyflenwi gwasanaethau o safon uchel a gweithio yn effeithiol mewn partneriaeth er mwyn cynnwys pawb.

Mae fy nghynigion ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys penodi uwch swyddog yn bennaeth ar y gwasanaeth, a fyddai ag awdurdod i wneud penderfyniadau ei hunan. Byddai hynny’n cynnwys penderfynu ynglŷn â chyflawni swyddogaethau’r Gwasanaeth Cenedlaethol a sicrhau y manteisir i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio, tra’n diogelu’r wybodaeth a’r cysylltiadau lleol angenrheidiol, sy’n hanfodol i’r gwasanaethau mabwysiadu. Bydd y gwasanaeth newydd yn mynd i’r afael â’r pryderon cyfredol, heb aberthu’r un o gryfderau cydnabyddedig y system bresennol – hynny yw, yn cyflawni newid heb achosi dirywiad. Disgwyliaf i’r drefn newydd weithio tuag at:

  • dileu’r arfer o adael i bethau lithro ym maes gofal plant;
  • cael gwared â’r rhestrau aros am hyfforddiant ac asesu; 
  • gwella’r broses paru;
  • lliniaru problem mabwysiadu aflwyddiannus trwy ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu cynhwysfawr;
  • symleiddio a chyflymu’r broses, a sicrhau gwell cyswllt a dealltwriaeth rhwng gweithwyr cymdeithasol; 
  • darparu’r dewis ehangaf posibl o leoliadau trwy gynyddu’r defnydd o asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol; ac 
  • yn bwysicaf oll, sicrhau cysondeb cyflenwi ledled Cymru.

Credaf y bydd llawer o fanteision yn deillio o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol; bydd yn casglu at ei gilydd y personau sydd â sgiliau arbenigol er mwyn gwella effeithlonrwydd ac ansawdd y broses asesu; yn darparu tegwch yn y trefniadau mabwysiadu; yn hwyluso creu cronfa o ddarpar fabwysiadwyr; ac yn cyflenwi yn fwy effeithiol ac effeithlon trwy gydweithio a chydweithredu ar draws ffiniau, gan gydnabod natur arbenigol y gwasanaeth mabwysiadu.

Mae’n bleser gennyf hysbysu’r Aelodau fod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn rhwydd, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd yn cydweithio i ddatblygu model gweithredol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Bydd trefniadau llywodraethu newydd yn allweddol os am gyflwyno’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn llwyddiannus; a bydd rhaid i lywodraeth leol benderfynu ar y trefniadau hynny, gyda rhywfaint o fewnbwn gan Lywodraeth Cymru. Byddwn felly yn trafod y cynigion ymhellach mewn grŵp strategol, gan ddisgwyl dod i gytundeb yn fuan.

Edrychaf ymlaen at gael diweddariad ar gynigion Llywodraeth Leol yn y flwyddyn newydd, a disgwyliaf gael sicrwydd y byddant yn cyflawni’r newid disyfyd a sylweddol angenrheidiol y cyfeiriwyd ato. Fel y gwyddoch, fy mwriad yw cyfarwyddo’r awdurdodau lleol i gyflawni’r newid hwn, gan ddefnyddio’r pwerau newydd a geisiaf yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), ac a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol (asiantaethau mabwysiadu) i ddod ynghyd i ffurfio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Pleser yw cyhoeddi fy mod hefyd yn bwriadu atgyfnerthu’r gyfraith gyda Fframwaith Perfformiad Safonedig Cenedlaethol, a fydd yn caniatáu i dîm rheoli’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol bennu, adolygu ac amlygu mesurau perfformiad allweddol, megis pa mor gyflym y bydd awdurdod lleol yn lleoli’r plant y mae angen eu mabwysiadu, a pha mor gyflym y byddant yn delio â darpar fabwysiadwyr. Bydd y fframwaith yn pennu trothwyon perfformiad, ac yn gwneud yn eglur leiafswm disgwyliadau Llywodraeth Cymru, o ran prydlondeb y system fabwysiadu, ar gyfer y plentyn a’r darpar fabwysiadwr. Bydd yn caniatáu i asiantaethau mabwysiadu’r awdurdodau lleol ac eraill fonitro eu perfformiad eu hunain a’i gymharu â pherfformiad asiantaethau eraill.

Ategir y Fframwaith Perfformiad Safonedig Cenedlaethol gan Fframwaith Canlyniadau Plant sy’n Derbyn Gofal, a fydd yn rhan o’m Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar y cyd, bydd y rhain yn ffurfio offeryn allweddol, i alluogi’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol roi arweiniad a chynnal trosolwg ar y gwasanaethau mabwysiadu, er mwyn gwella’n barhaus er budd plant a theuluoedd.

Ni fyddaf yn caniatáu i bethau lithro yn achos plant sy’n derbyn gofal, a disgwyliaf weld tuedd er gwell dros blynyddoedd nesaf, wrth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol godi’r safonau a’r perfformiad. Ni fydd yn waith hawdd, a bydd yn gofyn am ymroddiad gan bob un sydd â dylanwad neu swyddogaeth benodol o fewn ein gwasanaethau mabwysiadu. Mewn rhai meysydd, mae’r gwasanaethau eisoes yn rhagori; dylem adeiladu ar y rhagoriaethau hynny, tra’n newid yr amgylchedd yn sylfaenol, er mwyn rhagori trwy Gymru gyfan.