Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Chwefror 2011, fe gofiwch i ni gyhoeddi’r ddogfen, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Ynddo, nodwyd yr angen am newid sylweddol ym maes gwasanaethau mabwysiadu ac amlinellwyd fy ngweledigaeth o wasanaeth mabwysiadu cenedlaethol. Casglwyd tystiolaeth o amrywiol ffynonellau ac er y gwelwyd rhagoriaeth mewn rhai ardaloedd, roedd cryn wahaniaeth yn y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru, ac roedd hyn yn ategu unwaith eto bod dirfawr angen diwygio’r drefn.  

Roedd y cynnig i sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yn un o’r elfennau allweddol a nodwyd yn yr ymgynghoriad ar egwyddorion y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gynhaliwyd o fis Mawrth i fis Mehefin 2012; ymwelodd swyddogion â’r gwasanaethau a’r consortia mabwysiadu ledled Cymru gan archwilio materion allweddol, heriau, arferion gorau a’r gwersi a ddysgwyd wrth weithio ar y cyd, a chadarnhaodd y wybodaeth a gasglwyd yn ystod y daith fod angen sefydlu Grŵp Cynghori Arbenigol ar Fabwysiadu.

Daeth y Grŵp â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd o blith y gyfundrefn fabwysiadu yng Nghymru gan ddarparu cymuned o ddealltwriaeth a diben cyffredin ar gyfer goruchwylio’r gwaith o gydlynu a darparu gwell gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yng Nghymru y byddai mabwysiadu’n fwyaf buddiol ar eu cyfer. Roedd cyflawni’r gwelliannau hyn yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol ac ystyried model gwasanaeth cenedlaethol a gynigwyd gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) a CLlLC.  Roedd y cylch gwaith a nodwyd yn syml, roeddwn i am weld mwy o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth, model a oedd yn gweithio o dan gyfundrefn ddwy haen, dim dyblygu ac oedi, a oedd yn mynd i’r afael â phryderon cyfredol ac yn darparu mecanwaith ar gyfer hyrwyddo gwell perfformiad ledled Cymru gan sicrhau gwasanaeth a oedd yn annog ac yn croesawu amrywiaeth eang o fabwysiadwyr i ddiwallu anghenion amrywiol ein plant sy’n derbyn gofal.

Ynghyd â’r dasg ddiwygio a wnaed gan y Grŵp Cynghori Arbenigol, gwelodd fy nghydweithwyr hefyd yn y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc fod angen adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru a gofynnwyd i’r Pwyllgor am dystiolaeth ym mis Rhagfyr 2011; ar ôl craffu’n drylwyr ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn llafar ac yn ysgrifenedig cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Tachwedd 2012 gan ategu ein canfyddiadau cynharach a’n cylch gwaith ar gyfer gwasanaeth cenedlaethol. Cefais fy annog a’m calonogi ein bod yn rhannu’r un gwerthoedd a dyheadau ynglŷn ag agenda sydd mor bwysig.

Mae’n bleser gen i allu dweud wrth Weinidogion fod cynnydd da wedi’i wneud; mae trafodaethau’r grŵp wedi gorffen, cafwyd cytundeb a bellwch rwyf wedi derbyn cynnig o fodel gweithredol ar gyfer gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd wedi’i gymeradwyo gan y Grŵp Cynghori Arbenigol - credaf y bydd y model yn llwyddo i gyflawni’r newid sylweddol a’r diwygiadau pellgyrhaeddol yr ydym i gyd wedi dyheu amdanynt.

Mae’r cynnig yn cydnabod cyfraniad sylweddol y sector Gwirfoddol i’r gwaith o gyflawni gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru a’r arbenigedd unigryw y gall ei gynnig. Elfen sylfaenol o’r cynnig yw’r neges mai dim ond gyda chydweithrediad cynhwysol y sectorau statudol a gwirfoddol gyda’i gilydd, gan fanteisio ar arferion gorau, y gellir gwireddu’r weledigaeth o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol; mae’n cofleidio model haenog, gyda’r gwahanol elfennau’n creu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon sy’n cyfateb yn briodol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, gyda swyddogaethau pob un yn pennu ble maent yn gweddu orau yn y model gwasanaeth diwygiedig.

Rhagwelir y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cael Cyfarwyddwr Gweithrediadau a fydd yn broffesiynol atebol i Fwrdd Cenedlaethol y Gwasanaethau Mabwysiadu. Bydd yn paratoi a chyflwyno adroddiadau gwybodaeth ddwywaith y flwyddyn i mi (y Dirprwy Weinidog) ac adroddiad blynyddol i’r Bwrdd Cenedlaethol.

Cynigir y dylid creu pum cydweithrediaeth fabwysiadu ranbarthol, a’u haelodau’n seiliedig ar rwydweithiau cyfredol a newydd, fel a ganlyn:

  • Y Gogledd - Wrecsam, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych ac Ynys Môn;
  • Y De-ddwyrain - Blaenau Gwent, Mynwy, Torfaen, Casnewydd a Chaerffili; 
  • Y Gorllewin a’r Canolbarth - Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys; 
  • Bae’r Gorllewin – Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, a Phen-y-bont ar Ogwr;
  • Y De a’r Canolbarth - Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Bydd gan bob cydweithrediaeth yr un cyfrifoldebau a swyddogaethau a byddant yn gweithredu o fewn fframwaith rheoli perfformiad a ddatblygwyd ar lefel genedlaethol. Bydd pob cydweithrediaeth yn atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau am ei berfformiad ac wedyn i’r Bwrdd Cenedlaethol. Bydd gan y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, ynghyd â’r Bwrdd Cenedlaethol y pwerau i ymyrryd os nad yw perfformiad Cydweithrediaeth Ranbarthol yn cyrraedd y safonau gofynnol. Bydd un awdurdod lleol ym mhob cydweithrediaeth yn gweithredu fel y prif awdurdod ar gyfer cyflawni rolau a swyddogaethau rhanbarthol. Bydd yr uwch Swyddog Cyfrifol o’r prif awdurdod yn aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol. Bydd hyn yn sicrhau atebolrwydd y cydweithrediaethau rhanbarthol i’r Bwrdd Cenedlaethol.

Bydd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i arfer eu hatebolrwydd statudol drwy Fwrdd Cydweithrediaeth Rhanbarthol gan gynnal cysylltiad â swyddogaethau gweithredol a chraffu eu hawdurdodau lleol eu hunain.

Bydd pob awdurdod lleol yn cadw rôl a chyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r plentyn yn unol â’r ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol ehangach. 
 
Y Camau Nesaf

Sefydlir grŵp gorchwyl a gorffen, a chynllun prosiect ag iddo amserlen. Bydd aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, ADSS Cymru, AGGCC, Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain, Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol a phob un o’r Cydweithrediaethau Rhanbarthol. Diben y grŵp hwn fydd llunio rhaglen newid gadarn ar gyfer rhoi’r model swyddogaethol ar waith. I hwyluso’r rhaglen newid, mae’n bleser gen i gadarnhau fy mod wedi sicrhau £50,000 er mwyn cynorthwyo ADSS Cymru i gomisiynu adnoddau i gyflawni nifer o dasgau allweddol gan gynnwys edrych ar y model busnes a’r prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol arfaethedig. Dyma’r cerrig milltir i’w cyflawni erbyn tymor yr hydref eleni:

  • Sefydlu aelodau a briff ar gyfer y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y Gwasanaeth Cenedlaethol.
  • Nodi’r pum Awdurdod Arweiniol.
  • Datblygu fformat cyffredin ar gyfer y Cynlluniau Gweithredu i’w cytuno gan bob Rhanbarth.
  • Dechrau gwaith o gefnogi’r Awdurdodau Arweiniol yn eu rôl.
  • Amlinellu’r elfennau busnes sy’n ofynnol ar gyfer isadeiledd y Gwasanaeth Cenedlaethol.
  • Pob rhanbarth i gael lle yn y cynllun gweithredu 
Cydnabyddir y bydd creu’r Gwasanaeth Cenedlaethol yn galw am newid sylfaenol ar sawl lefel wahanol. Rhagwelir y datblygir y fenter hon drwy ddefnyddio fframwaith arweinyddiaeth ehangach a sefydlwyd ar gyfer y strategaeth ddeng mlynedd a nodwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Bydd y Fforwm Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol, y Grŵp Arweinyddiaeth Strategol, a’r Bwrdd Gweithredu Llywodraeth Leol yn goruchwylio’r rhaglen newid. Bydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cydweithrediaethau Gwella Gwasanaethu Cymdeithasol Rhanbarthol yn allweddol yn y gwaith o lywio’r newidiadau hyn yn unol â’r amserlenni a bennwyd ar lefel leol a rhanbarthol.

Cydnabyddir bod pob un o’r cydweithrediaethau rhanbarthol wedi cyrraedd cam gwahanol yn eu datblygiad. Bydd yn ofynnol i bob rhanbarth ddatblygu ei chynllun prosiect manwl ei hun, gan ddefnyddio fformat a dull cyffredin. Bydd angen i gynlluniau prosiect pob rhanbarth adlewyrchu’r fframwaith rheoli perfformiad a gytunwyd gan y Bwrdd Gwasanaeth Cenedlaethol. Y nod yw sefydlu’r pum cydweithrediaeth fabwysiadu ranbarthol erbyn mis Ebrill 2014.  

Rhaid cofio y dylid gweld mabwysiadu yn y cyd-destun ehangach o gynllunio ar gyfer sefyllfa barhaol ac fel rhan o gyfundrefn integredig o wasanaethau ar gyfer plant mewn gofal.  

Dylai plant mewn gofal gael cynlluniau parhaol sy’n ystyried yr ystod lawn o ddewisiadau parhaol, ac mae’n hollbwysig bod y cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu’n ddi-oed. Dyna pam yr ydym yn ystyried y potensial o gyflwyno darpariaeth bellach o dan Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n sicrhau pan benderfynir bod mabwysiadu er lles gorau’r plentyn, a bod pob ymdrech wedi’i gwneud i adsefydlu’r plentyn gyda’r rhieni biolegol neu’r teulu a ffrindiau, y caiff plentyn ei roi gyda’r darpar fabwysiadwr ar y cyfle cyntaf posibl, yn y gobaith o darfu cyn lleied â phosibl ar y plentyn a chan ddarparu sefyllfa barhaol yn gynt ar ei gyfer; mae mireinio’r manylion er mwyn bodloni’r ddarpariaeth hon yn parhau o dan chwyddwydr y gwasanaethau cyfreithiol.

Rydym ar fin cychwyn ar ffordd unigryw arall o weithio yng Nghymru, ar flaen y gad yn cyflwyno newidiadau a fydd yn gweddnewid sut y darperir gwasanaethau. Rwy’n falch o fod yn rhan o hyn a chael tystio i gydweithredu’r sectorau. Rhaid i ni barhau i gynnal y momentwm er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud y newidiadau angenrheidiol mewn deddfwriaeth er mwyn hwyluso’r ffordd flaengar hon o symud ymlaen. Hoffwn gloi trwy ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o gofleidio gwaith partneriaeth a darparu model sy’n rhoi i ni’r conglfaen cyntaf ar gyfer datblygu gwasanaeth mabwysiadu o’r radd flaenaf i Gymru.