Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ a Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r penderfyniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu ac yn cynnal ‘Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol’ i Gymru. Dyma gam arloesol yn y gwasanaeth cyhoeddus, sydd wedi’i gynllunio ar y cyd gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, ac a gaiff ei ddarparu ganddo hefyd.
Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi hyrwyddo caffael ar y cyd yng Nghymru fel rhan o’i waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus effeithlon ac effeithiol. Mae ei lif gwaith Caffael wedi datblygu achos busnes cadarn ar gyfer creu cyfrwng i brynu gwariant cyffredin ac ailadroddus ‘unwaith i Gymru’. Jon House, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd sydd bellach yn arwain y gwaith hwn gyda chefnogaeth swyddogion Gwerth Cymru. Mae dros saith deg o sefydliadau’r sector cyhoeddus wedi cytuno i ymuno gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Prifysgolion, Colegau, Awdurdodau Tân a’r Heddlu a Llywodraeth Cymru.
Ym mis Medi, croesawyd adolygiad McClelland, “Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru”. Ymhlith y nifer o argymhellion defnyddiol ynddo roedd cefnogaeth ar gyfer Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gefnogir ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Heddiw, rydym yn cyhoeddi y bydd £5.9 miliwn o’r gronfa Buddsoddi i Arbed yn cael ei glustnodi i sefydlu’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a’i ariannu yn ystod ei dair blynedd lawn gyntaf. Ar ôl hynny caiff ei symud i fod yn fodel hunan-ariannu. Disgwylir y bydd y Gwasanaeth yn sefydlu ac yn rheoli contractau i gynnwys tua 20-30% o gyfanswm gwariant sector cyhoeddus Cymru, gan wneud y defnydd gorau o sgiliau prin ac arbed tua £25 miliwn y flwyddyn. Bydd yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond yn atebol i fwrdd rhanddeiliaid Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Disgwylir iddo ddechrau ym mis Tachwedd 2013, a bydd yn ychwanegu at y gwaith caffael cydweithredol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan isadran Gwerth Cymru. Bydd y Gwasanaeth yn mabwysiadu’r arferion a amlinellir yn y ddatganiag gan y Gweinidog Cyllid ar Polisi Caffael Cymru ac, yn ogystal â sicrhau arbedion, bydd ganddo’r dasg o chwilio am gyfleoedd i ddatblygu cadwynau cyflenwi lleol.
Gwyddom na fydd unrhyw gyllid sylweddol newydd ar gael I Gymru yn y dyfodol agos. Bydd ei lwyddiant felly yn dibynnu ar allu sector cyhoeddus Cymru i wneud pethau’n wahanol. Mae newidiadau fel hyn yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y bunt Gymreig a chyfeirio adnoddau i’r rheng flaen.
Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol sy’n cyflawni yn erbyn ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi’r broses o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus drwy sicrhau’r arbedion mwyaf drwy systemau caffael ar y cyd. Mae’n dangos bod Cymru yn gydgysylltiedig a bod ganddi sector cyhoeddus sy’n barod i gydweithio ar draws ffiniau sefydliadau er lles pawb.