Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2012 fe holais a ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol foderneiddio.  Rwy’n bwriadu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i drafod opsiynau er mwyn cyflwyno argymhellion i mi ar sut y mae cyflawni hyn.  Ni fydd cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys trafodaeth ar newid rheol Gymraeg yr Eisteddfod.  Rwy’n falch o gyhoeddi bod y canlynol wedi cytuno i fod yn aelodau o’r grŵp: 
  • Roy Noble, Cadeirydd
  • Peter Florence 
  • Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC
  • Eirlys Pritchard Jones
  • Sioned Wyn Roberts 
  • Nia Parry 
  • Bethan Elfyn
  • Aran Jones 
  • John Pritchard 
  • Daniel Evans 
  • Ali Yassine
  • Sian Eirian
Bydd y grŵp yn ystyried:
  • Beth yw’r manteision a’r anfanteision o adleoli’r Eisteddfod bob blwyddyn rhwng De a Gogledd Cymru ac i leoliadau newydd bob tro? Beth fyddai manteision ac anfanteision modelau eraill? A ddylid dilyn cylch pedair blynedd gan leoli’r Eisteddfod ar ddau safle parhaol, un yn y Gogledd-orllewin a’r llall yn y Gorllewin, a theithio rhwng y De a’r Gogledd am yn ail ar gyfer y ddwy flynedd arall?;
  • A allai lleoliadau parhaol i’r Eisteddfod ysgogi’r ardaloedd hynny yn economaidd, gan hybu twristiaeth ddiwylliannol, ac adlewyrchu y celfyddydau yng Nghymru ar eu gorau?
  • Beth yw manteision ac anfanteision y model presennol a ddefnyddir i drefnu wythnos yr Eisteddfod a chystadlaethau’r wythnos dan reolaeth y Pwyllgor Gwaith a’r Llys?  Beth fyddai manteision ac anfanteision modelau eraill? Er enghraifft, yn y dyfodol a ellid trefnu wythnos yr Eisteddfod ar wahân i’r cystadlaethau er mwyn gwella profiad ymwelwyr ac atyniad yr Eisteddfod fel un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru?  
  • Sut mae cynnal a chefnogi ymrwymiad, brwdfrydedd a gweithgarwch y gwirfoddolwyr ledled Cymru?  
  • Sut mae sicrhau ein bod yn elwa i’r eithaf ar yr oes ddigidol hon wrth roi sylw i’r Eisteddfod yn y cyfryngau?  
  • Sut mae sicrhau bod yr Eisteddfod yn cynnig profiad cyfoethog i ymwelwyr newydd, gan gynnwys pobl o gefndiroedd di-Gymraeg, gan gynnwys, er enghraifft, gwell arwyddion, amserlenni digwyddiadau a chymorth gyda offer cyfieithu?    
  • Sut gall yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol weithio yn agosach gyda’i gilydd i rannu gwasanaethau ac adnoddau?  
  • Sut mae manteisio ar ffynonellau eraill o gyllid refeniw i’r Eisteddfod?
  • Sut mae cynyddu niferoedd ymwelwyr i’r Maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan dargedu pobl ifanc a theuluoedd yn benodol?

Bydd y Grŵp yn derbyn tystiolaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys darlledwyr, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd.  Bydd yn adrodd i mi ym mis Medi 2013.