Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n hysbysu Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Microfusnesau o dan gadeiryddiaeth Robert Lloyd-Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr. 

Diben y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw rhoi cyngor ac argymhellion i mi ar ddatblygu a rhoi ar waith Strategaeth Microfusnesau Cymru. At ddiben yr adolygiad hwn a datblygu’r strategaeth, caiff microfusnesau’u diffinio fel rhai sy’n cyflogi rhwng un a naw o bobl.

Rôl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw:

  • Nodi’r dystiolaeth ar gyfer cymorth microfusnesau yng Nghymru, gan ddefnyddio y dystiolaeth, yr arferion gorau a’r gwerthusiadau sydd ar gael;
  • Nodi a sefydlu meincnodau;
  • Nodi opsiynau effeithiol o ran cost ar gyfer darpariaeth a chymorth y Llywodraeth ar gyfer microfusnesau;
  • Rhoi cyfeiriad strategol i’r gwaith o ddatblygu Strategaeth; 
  • Rhoi arweiniad ar rôl Gwasanaeth y Ganolfan Ranbarthol yn y dyfodol;
  • Hyrwyddo’r Strategaeth i’r sector busnes.

Dyma’r nodau a’r amcanion:

  • Datblygu Strategaeth Microfusnesau Cymru;
  • Deall anghenion a gofynion microfusnesau;
  • Deall sut gallwn ni helpu i greu’r amgylchiadau gorau ar microfusnesau;
  • Diffinio lle mae angen ymyrraeth gyhoeddus weithredol ar gyfer rhoi’r cymorth angenrheidiol i ficrofusnesau i helpu twf a chynaliadwyedd; 
  • Adolygu’r cymorth ar gyfer microfusnesau, gan gynnwys Gwasanaeth y Ganolfan Ranbarthol ac ystyried opsiynau effeithiol o ran cost ar gyfer darpariaeth â chymorth y Llywodraeth yn y dyfodol;
  • Diffinio sut gall Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ddatblygu’r sector microfusnesau yng Nghymru;
  • Rhoi arweiniad ac arbenigedd wrth ddrafftio’r Strategaeth;
  • Datblygu set o feini prawf i fonitro a gwerthuso fframwaith y Strategaeth.

Rwyf wrth fy modd bod Robert Lloyd Griffiths wedi cytuno i gadeirio’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen allweddol hwn. Mae Robert yn cynnig cyfoeth o brofiad gyrfa hir mewn marchnata a chyfathrebu fel cyfarwyddwr y cwmni cyfreithiol Leo Abse & Cohen a’r asiantaeth farchnata Golley Slater, ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Cymru yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Gweler aelodaeth lawn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen isod.

Fel rhan o’i ystyriaethau, bydd y Grŵp yn casglu ac yn gwrando ar dystiolaeth gan unigolion a chyrff allweddol. Bydd llawer o’r gwaith hwn yn digwydd yn yr hydref. Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Microfusnesau’n dechrau ar ei waith y mis hwn. Rwy’n disgwyl derbyn adroddiad drafft y Grŵp cyn diwedd mis Rhagfyr 2011.

Aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Cadeirydd

Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr

Ganed Robert Lloyd Griffiths yng Nghaerdydd ym 1965 ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cymru yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr ers ychydig dros ddwy flynedd. Cyn hynny bu’n gweithio am chwe blynedd fel cyfarwyddwr marchnata a chyfathrebu yng nghwmni cyfreithiol Leo Abse & Cohen ac am fwy na 15 mlynedd gyda’r asiantaeth gyfathrebu a marchnata Golley Slater. Mae ganddo radd mewn bancio a chyllid o UWIST (Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru), sef Ysgol Fusnes Caerdydd bellach, mae’n Gymrodor y Sefydliad Marchnata Siartredig ac mae wedi darlithio mewn cyfathrebu marchnata ar gyfer y Diploma mewn Marchnata. Mae’n ymgynghorydd proffesiynol gyda nifer o sefydliadau, gan roi cyngor a chymorth strategol. Mae’n weithgar gyda nifer o elusennau. Mae hefyd yn Llysgennad Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn y gweithle.

Aelodau

Sue Balsom, Francis Balsom Associates

Sue Balsom yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr ei busnes cyfathrebu, dylunio a chyhoeddi dwyieithog llwyddiannus ei hun, a sefydlwyd ym 1989. Mae hi’n gyn athrawes, cynghorydd gyrfaoedd prifysgol a newyddiadurwraig, mae hi’n byw yn Aberystwyth ac mae wedi dysgu Cymraeg.

Roedd Sue yn aelod o fwrdd rhanbarthol TV-AM tan 1992 ac yn Is-gadeirydd Cyngor Darlledu Cymru y BBC rhwng 1996 a 2002. Rhwng 2003 a 2010 bu’n cynrychioli Cymru ar Fwrdd Cynnwys OFCOM, rheoleiddiwr cyfryngau a thelathrebu y DU.

Mae hi hefyd wedi gwasanaethu Fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru, Cyllid Cymru ac wedi cadeirio Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, gan godi miliynau i gefnogi rhaglen busnesau newydd yr Ymddiriedolaeth ar gyfer pobl ifanc dan anfantais yng Nghymru.

Sue yw un o ymddiriedolwyr Canolfan y Dechnoleg Amgen, aelod o fwrdd gwobr gelf ryngwladol Artes Mundi a chyfarwyddwr anweithredol cwmni buddiant cymunedol Mynyddoedd Cambria. 

Jacquie Williams, SCS Aftercare

Mae SCS Aftercare yn ddarparwr arbenigol ar gyfer gwasanaethu, cynnal a chadw, adfer ac ailosod systemau gwyntyllu mwg. Mae’i bortffolio cleientiaid yn cynnwys Archfarchnad Morrisons, IKEA, Mitie, GE, Debenhams, colegau, cwmnïau rheoli eiddo ac amryw gymdeithasau preswylwyr. Jacquie Williams yw perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes. 

Eleni (2011) mae’r busnes wedi cael ei gydnabod fel busnes Twf Cyflym 50 yn sgil cynnydd o 80% mewn trosiant dros y 3 blynedd diwethaf o £240,000 i £505,000, ac mae disgwyl i’r twf eleni fod 30% yn fwy eto na’r llynedd. Y tu allan i’r busnes hi yw sylfaenydd Welsh Women Walking, grŵp sy’n annog menywod i ddringo bryniau er mwyn eu lles.

Janet Jones, y Ffederasiwn Busnesau Bach

Janet Jones yw Cadeirydd y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru. Gydag oddeutu 10,000 o aelodau, y Ffederasiwn Busnesau Bach yw corff busnes mwyaf Cymru, gydag aelodau o bob sector yn economi Cymru. Diben y Ffederasiwn yw hyrwyddo a gwarchod buddiannau pawb sy’n berchen ar a/neu’n rhedeg eu busnes eu hunain.
Mae Janet yn briod ac yn helpu i redeg busnes fferm y teulu gyda’i gŵr a dau o’u tri mab. Mae wedi bod yn aelod gweithgar o’r Ffederasiwn ers 1998 a dyma’i phumed blwyddyn yn Gadeirydd Cymru. Mae hi wedi annerch cynadleddau pleidiau Cymru ac mae’n treulio tipyn o’i hamser yn hyrwyddo anghenion SMEs a sicrhau bod llais busnesau’n cael ei glywed.

Robert Chapman, Robert Chapman and Company

Mae gan Robert chwe blynedd ar hugain o brofiad ers cymhwyso’n syrfëwr siartredig, ac mae wedi gweithio fel asiant tir ar gyfer Smith-Woolley, Strutt & Parker, Awdurdod Dŵr Hafren Trent, Cyngor Sir Powys a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dros yr un mlynedd ar hugain diwethaf mae wedi gweithio ym maes eiddo masnachol i’r WDA (Awdurdod Datblygu Cymru), Grimley International (GVA Grimley bellach) a Stephenson & Alexander cyn sefydlu’i bractis arbenigol ei hun 10 mlynedd yn ôl.

Peter Denton, Williams Denton Cyf

Ar ôl hyfforddi’n gyfrifydd siartredig gyda PricewaterhouseCoopers yng Nghaerlŷr, gweithiodd mewn practis am nifer o flynyddoedd a chafodd ei dderbyn i’r Sefydliad Trethu Siartredig ym 1980. Yna treuliodd ddwy flynedd yn darlithio yn Neuadd Caer Rhun yn y Gogledd. Ymunodd â H Cecil Williams ym Mangor ar 1 Hydref 1983. Ers hynny mae’r practis wedi agor ail swyddfa yn Llandudno, gan dyfu i fod â 5 cyfarwyddwr a 31 aelod o staff rhwng y ddwy swyddfa. Cafodd ei anrhydeddu’n llywydd cyntaf ar ACCA Gogledd Cymru ac mae wedi gwasanaethu ar bwyllgor llywio ACCA Cymru ers 6 blynedd. Y llynedd cafodd ei ethol yn gynrychiolydd Cymru yng Nghynulliad Rhyngwladol ACCA ac mae wedi ymuno â phanel ymarferwyr bach ACCA. Yn ddiweddar cafodd ei gyfethol ar Banel Gweithredu Safonau Archwilio Rhyngwladol ICAEW.

Allan Lloyd, Treasure, y Mwmbwls

Allan Lloyd yw perchennog Treasure, siop adrannol arbenigol fach deuluol sy’n gwerthu nwyddau anarferol. Ffrwyth dychymyg y perchnogion presennol Allan a Pat Lloyd ym 1969 yw’r siop. Roedd y ddau yn athrawon mewn ysgol gyfun ond yn chwilio am fwy o her.
 
Mae Treasure bellach wedi bod yn masnachu ers 41 o flynyddoedd drwy ddatblygu nwyddau arbenigol, gan gynnwys bwyty hunanwasanaeth sydd ag enw rhagorol am fwyd o safon uchel sy’n cael ei baratoi a’i goginio ar y safle i gwsmeriaid sy’n cael eu denu o ardal eang.

Mae Allan hefyd yn aelod o fwrdd/cyfranddaliwr Hufen Iâ Cadwaladers, yn Rheolwr Gyfarwyddwr Camedee Properties Limited ac yn gofalu am fuches sugno o 50 o wartheg du pedigri Cymreig ar Benrhyn Gŵyr. 

David Russ, Siambr Fasnach De Cymru

Mae David Russ wedi treulio’r 14 blynedd diwethaf yn Rheolwr Gyfarwyddwr deinamig ar Siambr Fasnach, Menter a Diwydiant Casnewydd a Gwent, rhiant gwmni Siambr Fasnach De Cymru a’r Ganolfan Fusnes, a thros 25 mlynedd yn rhoi cymorth busnes yng Nghymru. Mae David wedi bod yn hynod lwyddiannus yn dod o hyd i gyfleoedd adnoddau dynol a’r farchnad i fodloni anghenion cwsmeriaid, gan weithredu ar lefel bwrdd ac uwch mewn busnesau rhyngwladol a chynhenid.

Bu David yn cynrychioli Menter Cymru yn y Grŵp Llywio Gweithredu Entrepreneuriaeth ac ef oedd awdur y Strategaeth Cyfradd Geni Busnesau ac Entrepreneuriaeth mewn Busnesau Twf. Mae gan David brofiad sylweddol o ddatblygu entrepreneuriaid a datblygu rhaglenni i sicrhau eu bod yn goroesi yn yr hirdymor.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Awdurdod Datblygu Gorllewin Lloegr a 10 mlynedd yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol a Chyfarwyddwr Rhanbarthol gydag Awdurdod Datblygu Cymru.