Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o hysbysu'r Aelodau fy mod wedi sefydlu is-adran newydd i hybu dyhead y Llywodraeth hon i gynyddu nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu ledled Cymru. 

Bydd yr Is-adran Tir newydd yn hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng cyrff y sector cyhoeddus i ryddhau y posibiliadau o ran datblygu ein tir cyhoeddus. Y dasg yw sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, a chynnig dull o rannu arbenigedd fel y gallwn weld ymateb ar y cyd gan y sector cyhoeddus i'r prinder mewn tai cymdeithasol, ac i ddatblygu tir cyhoeddus er budd polisïau  ehangach.

Mae sefydlu'r is-adran hon yn arwydd clir gan y Llywodraeth ein bod o ddifri ynglŷn â chyflymu datblygiad tir y sector cyhoeddus. Gyda'r dull newydd hwn o weithio rydym yn rhoi adnoddau a strwythurau yn eu lle i sicrhau ein bod yn gwireddu'r blaenoriaethau mawr hyn ar draws y llywodraeth.

Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym wedi bod yn weithgar iawn wrth reoli ein hadnoddau ariannol. Mae sicrhau y manteision mwyaf i'r cyhoedd o'n heiddo wedi bod yn rhan o'r broses honno. Rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ffordd o weithio mwy strategol o ran sut y caiff ein hasedau ein hunain eu rheoli. Rhan o'r gwaith hwnnw yw ail-ddiffinio sut yr ydym yn meddwl am werth am arian. Mae hyn yn cynnwys ystyried ein cyfrifoldebau o ran newid hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth, er enghraifft, ac ystyried pa fanteision ehangach allai fod ar gyfer cymunedau lleol ledled Cymru,

Bydd yr is-adran yn dod yn gyfrifol am nifer o safleoedd sy'n berchen i Lywodraeth Cymru, fydd yn cael eu hyrwyddo i sicrhau bod blaenoriaethau ehangach y llywodraeth yn cael eu cyflenwi - gan gynnwys canolbwyntio'n gryf ar ddefnyddio'r asedau hyn i helpu i ddarparu mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch gychwynnol hon hefyd yn ceisio defnyddio'r asedau hyn i gefnogi amcanion newydd y polisi tai, gan gynnwys darparu mwy o dai cymdeithasol ledled Cymru. Hefyd, bydd y datblygiadau'n cyd-fynd â'n safonau gofod tai cymdeithasol, gan gynyddu nifer y stoc tai cyhoeddus a hefyd yn manteisio ar gyfleoedd i ddarparu datblygiadau di-garbon newydd. Byddwn hefyd yn gallu pwyso am gynlluniau arloesol, annog mwy o fioamrywiaeth a gwneud mwy o ddefnydd o ddulliau modern o adeiladu, gan ychwanegu at y profiad a gafwyd drwy'r Rhaglen Tai Arloesol.

Bydd yr is-adran newydd hefyd yn arwain ar Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer asedau tir ac adeiladau i sicrhau eu bod yn rhoi mwy o werth cyhoeddus i bobl Cymru. Bydd yn hanfodol ein bod yn gallu gweithio ar draws llywodraeth i roi sicrwydd bod ein sylfaen asedau tir ac adeiladau yn rhoi'r gwerth mwyaf posibl o ran polisi. 

Er bod nodi a darparu tir ar gyfer tai yn bwysig, bydd yr is-adran hefyd yn gyfrifol am gyflymu ac ehangu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei roi ar waith drwy 'Ystadau Cymru' sydd â chylch gwaith i 'Gydweithio i wneud y defnydd gorau o'r ystad gyhoeddus'. Mae'n annog rhagoriaeth wrth reoli ystad y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy gydweithio strategol a mabwysiadu dull yn seiliedig ar leoedd i wneud y defnydd gorau o'n hasedau cyfunol.