Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd a'r Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Yn dilyn Diweddariad Economaidd yr Haf gan Ganghellor y Trysorlys, mae gennym syniad cliriach am y cyllid ychwanegol sydd ar gael i Gymru am weddill y flwyddyn ariannol. Hyd yma, rydym wedi cael tua £2.8bn mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ond mae’r mwyafrif ohono wedi’i ymrwymo fel rhan o’n hymateb cychwynnol i bandemig y coronafeirws:
- Darparu cyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol;
- Ailgynllunio ein hysbytai a chreu 19 o ysbytai maes o fewn ychydig wythnosau;
- Creu a chynnal system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG ar draws Cymru;
- Darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i fynd i’r afael â digartrefedd a chefnogi gofal cymdeithasol; pobl sy’n gwarchod eu hunain a theuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol;
- Cefnogi ein trafnidiaeth gyhoeddus;
- Rhoi cymorth ychwanegol i’r trydydd sector;
- Sefydlu’r pecyn cymorth busnes mwyaf hael sydd ar gael yn unrhyw ran o’r DU.
Mae’r buddsoddiad enfawr hwn i ddiogelu iechyd a llesiant Cymru yn golygu y bydd y broses o ailsbarduno’r economi a dadwneud y difrod a achoswyd gan y coronafeirws, yn enwedig i blant a phobl ifanc, yn her sylweddol.
Yn syml, nid oes gennym ddigon o arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud - neu hyd yn oed yr holl bethau yr oeddem wedi cynllunio i’w gwneud. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid oes gennym yr hyblygrwydd i fenthyca mwy o arian mewn cyfnod o angen economaidd brys.
Mae’n siom fawr nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw beth i gynyddu’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i Gymru. Nid yw’r cyhoeddiadau diweddar gan y Prif Weinidog a’r Canghellor wedi arwain at geiniog o fuddsoddiad newydd.
Wrth inni edrych tuag at ail hanner y flwyddyn a pharatoi ar gyfer 2021-22, mae’n rhaid inni flaenoriaethu ac arloesi. Bydd hyn yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau buddsoddiadau cyfalaf mewn seilwaith a thai i greu swyddi ac i gyflawni ein blaenoriaethau eraill, gan herio cyfyngiadau afresymol parhaus Llywodraeth y DU ar sut y cawn ddefnyddio ein cyllideb.
Rydym yn gweld bod dau gam i’n ffordd ymlaen – cam cychwynnol pan fyddwn ni’n sefydlogi ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac yna ymdrech ddwys i ail-greu ein cymdeithas o’r newydd. Nid yw’n ddigon i feddwl am adferiad yn unig – ni fydd ein heconomi a’n cymdeithas yn mynd yn ôl i’r hyn a fu. Mae’n rhaid inni feddwl am y normal newydd y mae’n rhaid inni ei ddychmygu i ddechrau, ac yna ei wireddu.
Mae’n anorfod mai ein tasg gyntaf fydd atal ail don o achosion coronafeirws – bydd hyn yn gofyn am ymdrech gan bawb yng Nghymru i atal yr achosion o’r feirws rhag cynyddu o’r lefelau presennol wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol.
Wrth i dymor y gaeaf agosáu, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein GIG a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb i ail don o achosion coronafeirws, os bydd hynny’n digwydd. Bydd hyn yn golygu dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i sicrhau y gall gofal hanfodol barhau, ac adeiladu ar y defnydd o dechnoleg newydd a gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig i leihau cysylltiadau wyneb yn wyneb.
Yn hanfodol i hyn fydd defnyddio system Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i adnabod a helpu i reoli unrhyw achosion newydd yn gyflym a gweithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i sicrhau bod gweithleoedd yn gweithredu mewn modd diogel o ran y coronafeirws i ddiogelu gweithwyr a lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint.
Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn cytuno ar y cyllid ychwanegol sydd ei angen i gefnogi ein GIG am weddill y flwyddyn ariannol hon.
Rydym yn benderfynol o gefnogi ein plant a’n pobl ifanc ar ôl cyfnod mor hir y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi rhaglen ddal i fyny ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21 a byddwn yn cynyddu’r buddsoddiad mewn sgiliau ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod y Rhaglen Kickstart yn cyflawni ar gyfer Cymru ac ar gyfer ein pobl ifanc.
Nid fyddwn yn caniatáu i’n plant a’n pobl ifanc fod o dan anfantais am byth oherwydd y coronafeirws.
Byddwn yn symud ein Cronfa Cadernid Economaidd i’r cam nesaf gan ganolbwyntio ar helpu busnesau, yn enwedig y rhai yn yr economi carbon isel, i ddiogelu a chreu swyddi o safon, yn ein cymunedau lleol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur a chyflogwyr i roi pwyslais cryfach ar ein contract economaidd – dull ‘rhywbeth am rywbeth’ gyda chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddo.
Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd a’n cynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ein hamgylchedd naturiol a lleihau effaith amgylcheddol ein stoc tai.
Yn ystod y pandemig rydym wedi creu partneriaeth agos iawn â’r awdurdodau lleol – rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a gwaith aruthrol ein partneriaid llywodraeth leol wrth ymateb i’r coronafeirws. Rydym eisiau i hyn barhau a byddwn yn gweithio i sefydlogi gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu ar agweddau llwyddiannus y ddarpariaeth ddigidol.
Felly rydym yn gweithio’n galed i sefydlogi ein cymdeithas a’n heconomi. Rydym hefyd wedi dechrau gweithio tuag at eu hail-greu, gan ddatblygu strategaeth a fydd yn cael ei rhoi ar waith ochr yn ochr â phroses y gyllideb.
Rydym wedi creu grŵp ymgynghorol o arbenigwyr allanol i herio ein barn, ac mae’r grŵp hwn wedi cwrdd am y tro cyntaf. Yn ystod yr haf bydd y grŵp yn cynnal cyfres o drafodaethau ar wahanol themâu er mwyn cyfrannu at ein syniadau.
Rydym yn dal i gael cynigion gan y cyhoedd drwy CymruEinDyfodol@llyw.cymru ac rydym yn annog pobl i anfon eu syniadau a’u cynigion atom cyn diwedd mis Gorffennaf. Rydym wedi comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i’n helpu ni i ddadansoddi’r rhain, ac rydym yn dal i gasglu syniadau drwy ein partneriaethau allweddol a’n fforymau rhanddeiliaid.
Yna byddwn yn ceisio cyhoeddi ein hymateb i’r hyn yr ydym wedi’i glywed yn yr wythnosau nesaf, fel y cam nesaf yn y drafodaeth genedlaethol hon.
Ar sail ein gwaith ymgysylltu helaeth â’n partneriaid darparu, byddwn yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth i ddatblygu consensws o ran y ffordd ymlaen yn seiliedig ar ein gwerthoedd, sef tegwch, undod, cydraddoldeb ac ymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a dilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Wrth wraidd hyn bydd ffocws diwyro ar swyddi o safon fel ffordd o fynd i’r afael â thlodi a bod heb waith, yn enwedig swyddi yn yr economi twf gwyrdd: gan gynnal a chreu cyfleoedd cyflogaeth a helpu pobl – yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed – i fanteisio arnynt.
Gwyddom fod pandemig y coronafeirws wedi cael effaith arbennig o negyddol ar ragolygon pobl ifanc, pobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a menywod. Mae’n rhaid i’w buddiannau nhw fod yn ganolog i’n hymdrechion.
Wrth inni symud ymlaen, mae’n rhaid inni edrych y tu hwnt i ‘fusnes fel arfer’ a chanolbwyntio ar newid. Mae’r coronafeirws wedi newid ein byd - ble a sut yr ydym yn gweithio, y ffordd yr ydym yn siopa ac yn cymdeithasu, swyddogaeth canol dinasoedd a chymunedau lleol, patrymau teithio a sut yr ydym yn ymateb i natur a chynulliadau torfol. Bydd diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd yn ychwanegu at y gwaith hwn - wrth inni ddod o’r cyfnod hwn mae’n rhaid inni ail-greu ein heconomi mewn ffordd sy’n ein rhoi yn gadarn ar y llwybr tuag at y gymdeithas garbon sero yr ydym wedi ymrwymo i’w chyflawni.
Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar hynt y gwaith i’r Aelodau yn yr hydref.