Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ers i mi dderbyn cyfrifoldeb am y portffolio tai ac adfywio ym mis Mawrth rwyf wedi dod i'r casgliad yn fuan iawn fod yn rhaid i adeiladu cartrefi fod yn flaenoriaeth fawr i mi. Rydym yn disgwyl gallu cyflawni ein targed o 7,500 o gartrefi fforddiadwy yn ystod oes y llywodraeth hon a sicrhau bod 5,000 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Hoffwn gyflawni mwy, fodd bynnag. Rwy'n awyddus i fynd uwchlaw ein targed ar gyfer cartrefi fforddiadwy a hefyd annog y sector preifat i adeiladu rhagor o gartrefi.

Bydd adeiladu rhagor o gartrefi yn bodloni'r angen cynyddol am dai a hefyd yn creu twf a swyddi, gan sicrhau nad yw pobl yn byw mewn tlodi a lliniaru effeithiau'r dreth ystafell wely. Mae'n rhaid cefnogi a grymuso'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i chwarae rhan gyflawn yn y gwaith o adeiladu rhagor o gartrefi. Rwyf wedi edrych yn ofalus ar yr holl ddulliau y gallaf eu defnyddio, sy'n cynnwys rheoliadau, polisi a chyllid, ac rwy'n cyhoeddi heddiw becyn o fesurau a ddylai, gyda'i gilydd, gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd ar draws Cymru. Mae'r camau a nodir yn y datganiad hwn yn cynrychioli'r camau cyntaf i'w cymryd yn y maes hwn ac maent yn tystio i'r flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i gynyddu'r cyflenwad o dai.

Rheoliadau Adeiladu

Mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth. Ymgynghorwyd yn 2012 ynghylch cynlluniau uchelgeisiol i ddefnyddio Rhan L o'r rheoliadau adeiladu er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr eiddo newydd. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn tynnu sylw at bosibilrwydd effeithiau anfwriadol ar y farchnad eiddo a'r farchnad swyddi. Mae'r rheidrwydd arnom i ystyried datblygu cynaliadwy yn golygu bod yn rhaid i mi gydbwyso effeithiau mwy hirdymor fy mhenderfyniad o safbwynt economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Rwyf wedi dod i'r casgliad y byddai'n cyflwyno, drwy ddiwygiadau i Ran L, gofyniad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 8% o lefelau 2010. Mae'r ganran hon yn is na'r 40% yr ymgynghorwyd yn ei chylch yn wreiddiol. Credaf fod y dull a gynigiwn yn ddull cytbwys ac y bydd yn gwella'r sefyllfa o ran allyriadau heb danseilio'r amcan i adeiladu rhagor o gartrefi.  Mae'n creu sail reoliadol ar gyfer gostyngiadau y mae'n rhaid dilyn canllawiau cynllunio yn eu cylch ar hyn o bryd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cyflenwi mwy cyson ar draws y farchnad dai ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau adeiladu.  Credaf fod hyn yn bwysig o ystyried natur y farchnad dai bresennol a'r angen i gynyddu'r cyflenwad o dai ac i gymell adeiladwyr. Nid yw'r dull hwn, ychwaith, yn atal y diwydiant rhag gweithredu'n wirfoddol fesurau pellach ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni.  

Dyma gam interim a fydd yn ein helpu i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a nodir yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sef y dylai pob adeilad newydd fod yn ddi-garbon (a bron yn ddiynni) erbyn 2021.

Diogelwch Tân Domestig

Fel cyn ddiffoddwr tân diwydiannol rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i weithredu Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror 2011. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r diwydiant adeiladu a'r sector diogelwch yn ymwneud â thân am eu diddordeb parhaus yn y mater hwn.

Bydd systemau chwistrellu mewn eiddo preswyl newydd yn atal marwolaethau ac anafiadau ymysg deiliaid tai a diffoddwyr tân. Eto i gyd, gan fod adnoddau'n brin, rwyf wedi penderfynu canolbwyntio i ddechrau ar eiddo risg uchel er mwyn sicrhau y bydd y mesur hwn yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

O'r herwydd, bydd y rheoliadau'n berthnasol i eiddo risg uchel gan gynnwys cartrefi gofal, neuaddau preswyl newydd a rhai sydd wedi'u haddasu ar gyfer myfyrwyr, tai preswyl a rhai hosteli o fis Ebrill 2014 ac yn berthnasol i bob tŷ a fflat newydd a rhai sydd wedi'u haddasu o fis Ionawr 2016. Trwy gyflwyno'r rheoliadau'n raddol bydd modd i'r diwydiant adeiladu tai feithrin y profiad a'r sgiliau angenrheidiol a bydd cyfle i'r sector arloesi a lleihau costau gosod systemau chwistrellu. Bydd y dull hwn yn golygu bod Cymru'n parhau ar flaen y gad o safbwynt hybu diogelwch tân.

O safbwynt Rhan L a diogelwch tân domestig mae’r penderfyniadau hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn hytrach na’r sefyllfa dair blynedd neu fwy yn ôl. O’u cymharu â’n cynigion gwreiddiol yr ymgynghorwyr yn eu cylch byddant yn cyflawni arbedion i’r diwydiant adeiladu tai.

Gwarant morgais ac ecwiti a rennir

Rwyf wedi bod yn ystyried gwahanol opsiynau a fydd yn cefnogi prynwyr sy'n ei chael hi'n anodd i sicrhau morgais neu i brynu cartref fforddiadwy ar gyfer eu teulu. Nod y cymorth hwn yw ysgogi'r galw am gartrefi ac annog cyflenwad mwy o eiddo newydd. Bydd lansio Cynllun Ecwiti a Rennir: Cymorth Prynu Cymru yn agwedd allweddol ar y strategaeth hon. Byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid yn ystod yr haf er mwyn cytuno ar gwmpas a graddfa bosibl cynllun. Y nod yw ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rydym hefyd wedi datblygu cynllun gwarant morgais sef NewBuy Cymru.  Mae'r cynllun hwn, fodd bynnag, yn dibynnu ar berthynas driphlyg rhwng y Llywodraeth, adeiladwyr a benthycwyr ac rydym wrthi'n ceisio sicrhau bod pawb ynghlwm wrth gynllun hyfyw. Golyga'r ffaith bod angen i Lywodraeth y DU gytuno'n derfynol ar ddiwyg ei chynllun Gwarant Morgais: Cymorth i Brynu nad yw benthycwyr yn gallu ymrwymo i NewBuy Cymru ar hyn o bryd.

Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safle

Mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw newid rheoliadol, gan gynnwys Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safle, fodloni anghenion busnesau a hefyd gyflawni ein hagenda ehangach ynghylch gwastraff. Rwyf wedi cytuno â'r Gweinidog y byddwn yn ystyried effaith gronnol y gwahanol reoliadau wrth fynd i'r afael â'r Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safle er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o faich ar y diwydiant.

Cynllunio

Credaf fod angen adolygu'r polisïau uchelgeisiol ac eang eu cwmpas yr oedd disgwyl i'r system gynllunio eu cyflawni hyd yma - yr agenda "cynllunio a mwy".  Rwy'n awyddus i sicrhau bod y seiliau cywir yn eu lle, gan ddefnyddio'r dulliau cyflenwi mwyaf priodol ar gyfer cynllunio a all newid dros amser. Er enghraifft, o ystyried y diwygiadau i Ran L o'r rheoliadau adeiladu y cyfeiriais atynt ynghynt, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion adolygu'r angen am Nodyn Cyngor Technegol 22, gan gynnwys y trefniadau trosiannol, er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'n hagenda ynghylch y newid yn yr hinsawdd.

Yn unol â'm bwriad i ganolbwyntio ar nodweddion mwyaf sylfaenol cynllunio, mae Gorchymyn newydd Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn lleihau'r angen i ddeiliaid tai sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer rhai datblygiadau, gan annog gweithgarwch sy'n diogelu swyddi. Disgwylir i'r rheoliadau newydd ddod i rym ar ddiwedd mis Medi, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Nid yw'r angen am gynllun datblygu lleol sydd wedi'i fabwysiadu ac sy'n ddiweddar yn rhywbeth y mae modd ei drafod. Wrth barhau i bwyso ar awdurdodau i gyflymu'r broses o fabwysiadu cynlluniau, rwyf eisoes wedi  ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal a diweddaru eu Hasesiadau o'r Farchnad Dai Leol o fewn dwy flynedd o 1 Ebrill 2014.  Credaf y bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu'r dystiolaeth sy'n sail i swyddogaeth tai strategol awdurdodau lleol.

Mae swyddogion hefyd yn ystyried y rhwystrau i gyflenwi tai ar lefel fwy eang er mwyn gweld pa newidiadau ychwanegol y mae angen eu gwneud. Mae gwaith wedi'i gomisiynu i adolygu'r broses ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau tai. Bydd astudiaethau achos ar draws Cymru yn sail i'r gwaith hwn. Byddaf yn disgwyl adroddiad ar y gwaith hwn yn yr Hydref. Mae ymchwil ynghylch trefniadau gweithredu pwyllgorau cynllunio hefyd bron â'i gwblhau.

Cydweithio

Rwy'n cydweithio â Gweinidogion eraill ynghylch y cyflenwad o dai. Mae'r datblygiad ym Melin Elai yn tystio i ymrwymiad Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i flaenoriaethu'r defnydd o dir er mwyn hybu twf economaidd byrdymor. Mae'r dull hwn bellach yn cael ei drafod mewn perthynas â dau safle arall yng Nghasnewydd a Rhondda Cynon Taf. Mae'r Gronfa Datblygu Eiddo a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a fydd yn cefnogi mentrau eiddo ar raddfa fechan yng Nghymru, yn enghraifft arall.      

Camau eraill

Er bod y camau uchod yn bwysig rwy'n cydnabod nad ydynt ond yn cynrychioli dechrau fframwaith cynhwysfawr ar gyfer polisi a chyllid a fydd yn annog pob sector i gynyddu'r cyflenwad o dai. At y diben hwn rwyf wedi gofyn i Robin Staines, Cyfarwyddwr Tai Cyngor Sir Caerfyrddin, i arwain tasglu bach a fydd yn ystyried yr hyn sy'n rhwystro datblygiadau ac a fydd yn cynnig cyngor i mi ynghylch y fframwaith hwnnw. Bydd aelodau'r tasglu yn cynrychioli llywodraeth leol, y diwydiant adeiladu tai, cymdeithasau tai a chyllidwyr.

Bydd y tasglu yn canolbwyntio ar dri maes sy'n rhan o'm hagenda sef i ba raddau y gall awdurdodau lleol adeiladu cartrefi drwy wahanol ddulliau, datblygu tai ar ar gyfer y farchnad agored a datblygu tai fforddiadwy. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â'r mater hwn yn fuan iawn a bydd y grŵp yn adrodd ar ei syniadau wrth i'r trafodaethau barhau. Byddaf mewn sefyllfa i adrodd ymhellach ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2013.  

Rwyf hefyd wedi sicrhau bod gen i ragor o adnodd er mwyn gallu nodi safleoedd posibl o dir a'u paratoi ar gyfer datblygu cartrefi newydd. Mae sicrhau bod tir cyhoeddus ar gael i'w ddatblygu yn un o'r ymyriadau allweddol y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud o fewn yr hinsawdd sydd ohoni o ran gwariant cyhoeddus. Rydym ni, fel Llywodraeth, wrthi'n adolygu ein trefniadau ar gyfer gwaredu tir y Llywodraeth er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau.