Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O ganlyniad i’r mesurau rheoli ansawdd ar gyfer profi mewn labordai a diwydrwydd staff labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, daethom yn ymwybodol ddydd Gwener 15 Ionawr 2021 am fater sy’n effeithio ar nifer fach o swabiau a ddefnyddir at samplu am Covid-19.

Defnyddir y swabiau hyn i samplu am Covid-19 mewn ysbytai, mewn unedau profi cymunedol a reolir gan fyrddau iechyd, ac unedau profi symudol a reolir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).  Ni ddefnyddir y swabiau hyn gan y labordai Lighthouse felly mae profion a wneir drwy ein safleoedd profi rhanbarthol a lleol heb eu heffeithio.

Cyn gynted ag y darganfuwyd y broblem, rhoddwyd gwybod i bob labordy microbioleg a chanolfan brofi yng Nghymru fel y gellid tynnu’r swabiau yr effeithiwyd arnynt o’r system.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, gwneuthurwr y swabiau, COPAN a’r cyflenwr/dosbarthwr i’r DU, Thermo Fischer Scientific, i nodi ac ynysu’r swabiau yr effeithir arnynt o bosibl i atal eu defnyddio mwyach.

Anfonwyd y swabiau yr effeithir arnynt i Gymru yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwr COPAN rhwng 18 Tachwedd a 14 Rhagfyr 2020.  Mae NWSSP wedi ynysu’r holl gyflenwad perthnasol yn rhagofal wrth gynnal ymchwiliadau pellach.

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yw, pan y defnyddiwyd y swabiau hyn, nad ydynt yn achosi dim neu fawr ddim risg i iechyd y cyhoedd.  Er diogelwch, gwneir mwy o wiriadau.  Gallai’r fater a ganfuwyd fod wedi effeithio ar gywirdeb cyfran fach o ganlyniadau prawf, gan arwain at ganlyniadau positif anghywir.  Fodd bynnag, ar sail yr hyn a wyddwn ar hyn o bryd, mae Iechyd Cyhoedd Cymru yn hyderus nad yw’n cael effaith ar y darlun epidemiolegol cyffredinol.

Mae’r system Profi, Olrhain, Diogelu yn parhau i weithredu fel arfer a defnyddir swabiau gwahanol.