Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiweddau Aelodau o’r datblygiadau diweddaraf gyda’r gwaith o baratoi Rheoliadau i wneud Safonau’r Gymraeg yn gymwys i gyrff addysg.

Heddiw, rwy’n gosod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg diwygiedig ar gyfer cyrff addysg gerbron y Cynulliad. Rwyf wedi ailymweld â’r Rheoliadau a gafodd eu gwrthod gan y Cynulliad diwethaf ym Mawrth 2016. Wedi trafodaethau gydag Aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr o’r sector, rwy’n fodlon bod y Rheoliadau sydd wedi’u gosod yn delio gyda materion a gafodd eu codi yn y ddadl ym Mawrth 2016.

Bydd dadl am y Rheoliadau yn y Cynulliad yn Ionawr 2017. Os bydd y Rheoliadau yn cael eu cymeradwyo, bydd modd i Gomisiynydd y Gymraeg fwrw ymlaen i roi hysbysiadau cydymffurfio i’r cyrff sydd wedi’u henwi yn y Rheoliadau.