Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw cyhoeddir ‘Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 – Mannau a Chartrefi Prydferth’. Mae hyn yn gosod safon newydd feiddgar ar gyfer tai newydd fforddiadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r safon yn hyrwyddo dyluniadau carbon isel yn ogystal â symud i ffwrdd o danwyddau ffosil ar gyfer systemau gwresogi a dŵr poeth domestig. Atodir y safon isod. Mae’n dod i rym ar 1 Hydref 2021.  

Gofynion ansawdd datblygu ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol: 2021

Mae WDQR2021, fel ei hadnabyddir, yn gosod safonau newydd ar gyfer tai cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar hyblygrwydd, gofod a cynaliadwyedd. Mae’n sicrhau bod tai cymdeithasol yn arwain y ffordd tuag at leihau allyriadau carbon, a disgwylir i ddatblygwyr preifat adeiladu i’r un gofynion erbyn 2025.

Yn ogystal â’r targedau carbon isel, mae’r gofynion yn penodi bod rhaid i eiddo newydd fod yn ‘gigabeit barod’, sy’n golygu bod band eang ffeibr optig neu dechnoleg di-wifr gigabeit ar gael, ynghyd â dewis o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd. Lle nad yw hyn yn bodoli, rhaid sicrhau bod y seilwaith i’w osod yn y dyfodol heb darfu wedi’i ddarparu. Mae’r newidiadau hyn, ynghyd â chydnabyddiaeth o’r angen i ystyried gofod ar gyfer gweithio gartref, yn ymateb uniongyrchol i’r pandemig, a welodd lawer o’r gwlad yn gorfod dysgu a gweithio yn y cartref.  

Mae’r safonau newydd hefyd yn ffafrio dylunio da a gofod hael er mwyn sicrhau bod pobl yn byw’n dda yn eu cartrefi.

Bwriedir hyn i hybu llesiant a chadw cymunedau ynghyd, yn ogystal ag ymateb i anghenion trigolion sy’n newid, er enghraifft, arwynebedd llawr digonol er mwyn hyrwyddo addasiadau tai ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl.

Mae’r canllawiau newydd hefyd yn cefnogi dulliau newydd o adeiladu, megis defnyddio pren a chartrefi a adeiladir mewn ffatri.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei wneud yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.