Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Mae'n hollbwysig bod Awdurdodau Lleol Cymru yn gallu bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2012 neu erbyn y dyddiad y cytunwyd arno gyda Gweinidogion Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod ein tenantiaid yn cael eiddo o safon dderbyniol. Mae canlyniadau'r adroddiad monitro a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos y bydd 78% o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn llwyr fodloni SATC erbyn 2012 ond bod yn disgwyl i dim ond 39% o Awdurdodau Lleol wneud hyn.
Un o'r prif anawsterau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth ariannu gwaith SATC yw system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr i reoli cyllid tai cynghorau. Mae'r symiau mawr sy'n cael eu trosglwyddo o lywodraeth leol Cymru i Drysorlys ei Mawrhydi drwy Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r system hon wedi achosi cryn bryder ers sawl blwyddyn. Ar hyn o bryd trosglwyddir rhyw £73 miliwn y flwyddyn.
Yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, ysgrifennodd Jane Hutt at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys cyn etholiad y Cynulliad i fynegi annhegwch y sefyllfa hon o safbwynt Cymru. Nododd y llythyr y byddai'r trosglwyddiadau hyn yn dod i ben pe defnyddid dull cyson yng Nghymru a Lloegr. Fe ofynnodd felly am setliad sy'n dod â Chymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai i ben.
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi ateb erbyn hyn. Mae ei lythyr yn dweud bod yna wahaniaethau rhwng cymhorthdal negyddol Cymru a Lloegr oherwydd y ffordd y sefydlwyd y Lwfans Atgyweiriadau Mawr yn Lloegr yn 2001. Bryd hynny, torrwyd cyllideb adran gyfrifol y DU, Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau a chododd y Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer Atgyweiriadau Mawr, gan olygu bod cymorthdaliadau negyddol yn Lloegr yn llawer is nag yng Nghymru.
Pwynt pwysicaf llythyr y Prif Ysgrifennydd yw bryd hynny ni ostyngwyd cyllideb Llywodraeth Cymru i gyd-fynd â'r gostyngiad i gyllideb Adran yr Economi, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau. Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth y DU ddatgan hyn yn gyhoeddus. Mae'n golygu bellach ei bod yn anodd parhau i ddadlau bod y broses honno'n anfanteisiol i Gymru.
Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda Jane Hutt a chynnal trafodaethau cadarn gyda Llywodraeth y DU i bennu'r ffordd orau bosibl ymlaen i Gymru. Rydym yn deall bod cyfyngiadau Llywodraeth y DU i sicrhau setliad 'ariannol niwtral' ond byddwn yn comisiynu ymchwil hefyd i ddangos bod angen arian i wneud y gwaith trwsio sy'n aros i gael ei wneud i stoc Tai Cymru ac o ran SATC. Os bydd Cymru yn gorfod gwneud taliad terfynol i ddod â Chymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai i ben, mae'n rhaid bod y swm yn fforddiadwy a bod gwneud hyn yn cynnig ffordd well ymlaen na pharhau â'r sefyllfa bresennol.