Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi gwybod i aelodau'r Cynulliad na fydd unrhyw ffermwr yng Nghymru sy'n hawlio taliadau dan Gynllun y Taliad Sengl yn cael taenu gwrteithiau anorganig o fewn 2 fetr, na thail o fewn 10 metr, i arwyneb cwrs dŵr o 1 Ionawr 2012 ymlaen. Ni cheir taenu tail o fewn 50 metr i dyllau turio, pistyllau na ffynhonnau chwaith. 

Fel rhan o’r cytundeb ar Archwiliad Iechyd y PAC yn 2008, mae'n ofynnol dan Reoliad 73/2009 y CE i bob Aelod-wladwriaeth gyflwyno erbyn 1 Ionawr 2012 y Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da newydd i gynnal lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr, er mwyn mynd i’r afael â llygredd dŵr yn sgil amaethyddiaeth. Y gofyniad sylfaenol yw rhoi'r Rhaglen Weithredu ar Nitradau ar waith mewn parthau lle na cheir taenu tail na gwrtaith ar unrhyw dir amaethyddol (nid yn y Parthau Perygl Nitradau yn unig). Mae'r gofyniad hwn yn orfodol ond mae Aelod-wladwriaethau yn cael dewis defnyddio mesurau ychwanegol i leihau’r perygl o lygredd dŵr ymhellach.

Roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a ddaeth i ben ar 1 Medi 2011 yn gofyn am sylwadau ar ba opsiwn oedd yr un mwyaf priodol i Gymru. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac, er fy mod yn cydnabod pa mor bwysig yw lleihau llygredd yn sgil amaethyddiaeth, rwyf wedi penderfynu gweithredu'r gofyniad sylfaenol yn unig. Rwyf o'r farn mai drwy’r rhaglenni amaeth-amgylcheddol gwirfoddol y dylid ystyried unrhyw ofynion rheoli pellach.

Cyflwynir y mesur drwy ddiwygio OS 2004/3280 – Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 – a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2012. Bydd taflen ffeithiau yn amlinellu'r gofynion ar gael i ffermwyr yn y Ffair Aeaf ac anfonir Canllawiau i Drawsgydymffurfio at ffermwyr ganol mis Rhagfyr. Yn ogystal, bydd erthygl yn rhifyn mis Tachwedd o Gwlad a bydd nodyn atgoffa mewn rhifynnau wedi hynny.