Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Heddiw, rwy’n cyhoeddi cymorth ychwanegol i’r sector diwylliannol yng Nghymru sy’n dal i deimlo effeithiau’r pandemig a’r mesurau lefel rhybudd dau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gweithredu i ddiogelu Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo £15.438m arall i gynnal trydedd rownd y Gronfa Adferiad Diwylliannol (CRF).
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru’n lansio ei broses ymgeisio heddiw i helpu sefydliadau yn y sector celf. Rydym yn uno cyllideb Cronfa Sefydlogrwydd y Gaeaf â thrydedd rownd y CRF i’w halinio â’r gefnogaeth ariannol ehangach sy’n cael ei chynnig.
Bydd lleoliadau cerdd, safleoedd treftadaeth, lleoliadau a threfnwyr digwyddiadau, amgueddfeydd lleol annibynnol, llyfrgelloedd cymunedol ac annibynnol, orielau a sinemâu annibynnol gafodd help CRF Llywodraeth Cymru o’r blaen yn cael llythyr o’r wythnos sy’n dechrau 17 Ionawr, yn esbonio sut i gael arian y Gronfa. Bydd cymorth ar gael hefyd i
fusnesau a sefydliadau cymwys nad ydynt wedi cael help trwy’r CRF hyd yma cyn belled â’u bod yn bodloni’r amodau.
I fod yn gymwys, bydd gofyn i fusnes ddatgan ei fod wedi dioddef gan weld gostyngiad yn ei drosiant rhwng Rhagfyr 2021 a Chwefror 2022.
Rydym yn sylweddoli bod mesurau rhybudd lefel dau yn effeithio ar weithwyr creadigol llawrydd ac rydyn ni’n gobeithio cynyddu ein cymorth iddynt. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 17 Ionawr.
Mae’r drydedd rownd hon yn adeiladu ar gefnogaeth dwy rownd flaenorol y CRF pan neilltuwyd £93m i gefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion mewn sectorau diwylliannol allweddol.