Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Cafodd Adolygiad o'r Sector Cynghorau Cymuned a Thref ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2017, i ystyried sut y gellir cryfhau cynghorau cymuned a thref gan sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i gefnogi eu cymunedau. Panel Adolygu trawsbleidiol ac annibynnol oedd hwn a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac a oedd yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Gwenda Thomas a Rhodri Glyn Thomas.
Treuliodd y Panel oddeutu blwyddyn yn casglu tystiolaeth ac yn gwrando ar farn y gwahanol randdeiliaid cyn cyflwyno ei adroddiad terfynol imi ar 3 Hydref. Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Panel am yr amser y maent wedi ei roi a'u hymroddiad wrth gynnal yr adolygiad hwn, ac am baratoi eu hadroddiad ar Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Mae'r adroddiad wedi darparu sail gadarn ar gyfer symud ymlaen, a llunio'r polisi gweithredu yr wyf yn ei ddisgrifio heddiw.
Rwyf wedi darllen ac ystyried adroddiad y Panel, ac rwy'n credu bod ei ddadansoddiad o'r sector, a'r cyfleoedd a'r heriau a ddaw iddo yn y dyfodol, yn un trylwyr. Mae'n gwneud achos dros gadw'r sector cynghorau cymuned a thref, a chynyddu'n sylweddol y cyfraniad y mae'r cynghorau hyn yn ei wneud.
Rwy'n cytuno â'r cyfeiriad a osodir yn yr adroddiad, sy'n galw am ehangu rôl y sector. Ar ôl i'r Cabinet ei drafod a'i ystyried yn ofalus, rwy'n credu mai dull gweithredu sy'n galluogi cynghorau yw'r ffordd orau i ehangu eu rôl, ac y bydd yn bosibl cryfhau cynghorau cymuned a'u hannog i newid drwy greu amgylchedd lle y gall cynghorau cymuned a thref ehangu eu gweithgareddau lle bo hynny'n bosibl, yn seiliedig ar anghenion lleol.
Dylid rhoi pwyslais ar annog a galluogi'r sector i ddatblygu; gan sicrhau elfen o ddewis i gynghorau cymuned a thref er mwyn iddynt gael penderfynu pa mor gyflym y maent yn cymryd camau a pha mor bell y maent am fynd, yn enwedig o ran eu rôl mewn comisiynu a darparu gwasanaethau. Mae hyn yn adlewyrchu datganiad cenedlaethol clir o uchelgais sy'n cydnabod amrywiaeth y sector a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae camau gweithredu allweddol y gallwn eu cymryd nawr i gryfhau cynghorau cymuned a'u cefnogi wrth iddynt gyflwyno'r newidiadau y maent yn awyddus i'w gwneud. Lle bo cytundeb cyffredinol a ninnau'n adeiladu ar yr hyn sy'n digwydd eisoes, nid oes angen oedi. Er enghraifft, bydd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a fydd yn cael ei gyflwyno gennyf y flwyddyn nesaf, yn darparu mwy o bwerau a hyblygrwydd ar gyfer cynghorau cymuned, drwy alluogi'r rhai sy'n bodloni amodau penodol i arfer y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol.
Fy mwriad yw sicrhau bod mwy o atebolrwydd a thryloywder yn y sector drwy ei annog i ddefnyddio adnoddau digidol yn fwy effeithiol wrth ymgysylltu â chymunedau. Drwy Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), byddaf yn sicrhau bod gan bobl yr hawl i gyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy'n cael ei drafod mewn cyfarfod cyngor. Hefyd, drwy ddeddfwriaeth, byddaf yn ei wneud yn ofynnol i gynghorau cymuned a thref baratoi adroddiad blynyddol. Rwy'n credu y bydd hyn yn sicrhau bod eu gweithgareddau'n fwy gweladwy, yn ogystal â gwella atebolrwydd lleol a sicrhau bod y cynghorau'n effeithiol yn y modd y maent yn ymgysylltu â chymunedau lleol, er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb yng ngwaith ei chyngor o du'r gymuned.
Bydd cryfhau gallu'r sector yn parhau'n flaenoriaeth, a byddaf yn cefnogi'r gwaith hwn drwy barhau i sicrhau bod bwrserïau ar gael i alluogi'r cynghorwyr a'u staff i ymgymryd â hyfforddiant. Hefyd, bydd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn rhoi rhwymedigaeth ar gynghorau cymuned i ystyried eu hanghenion hyfforddi a chynllunio, ac i adolygu eu cynlluniau'n rheolaidd.
Mae rhai o'r materion a nodwyd gan y Panel Adolygu yn haeddu cael eu hystyried ymhellach, a dylid cynnal ymgynghoriad arnynt er mwyn dod o hyd i'r ffordd orau o fwrw ymlaen â nhw. Er enghraifft, a fyddai'n helpu i egluro rolau o fewn y sector pe baem yn ystyried a oes angen gwahaniaethu'n fwy eglur rhwng yr hyn y mae cynghorau cymuned yn gyfrifol amdano a'r hyn y mae'r prif gynghorau'n gyfrifol amdano; ac a ddylid rhoi trefniadau ymyrryd a chefnogi cymesur ychwanegol ar waith?
Rwyf hefyd yn awyddus i hwyluso sgwrs rhwng cynghorau cymuned a thref ac awdurdodau lleol ynghylch sut y mae gwasanaethau'n cael eu hariannu a'u cynnal – gan gydnabod bod hynny'n un o'r pethau allweddol sy'n penderfynu gallu cynghorau cymuned i chwarae rôl ehangach.
Rwy'n edrych ymlaen at ymchwilio i'r syniadau mwy pellgyrhaeddol, rhai ohonynt hefyd yn fwy dadleuol, gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill.
Rwy'n gweld hyn fel dechrau sgwrs gyda chynghorau cymuned, prif gynghorau ac eraill sy'n gweithio gyda chymunedau i drafod sut y gallwn ehangu rôl cynghorau cymuned.
Wrth osod polisi Llywodraeth Cymru, dylid cofio hefyd bod casgliadau'r Panel Adolygu yn cael eu cyflwyno i'r Llywodraeth, er mwyn inni a'r holl bartneriaid mewn llywodraeth leol, gan gynnwys cynghorau cymuned, prif gynghorau a'r cyrff sy'n eu cynrychioli, eu hystyried ac ymateb iddynt; yn unol â chyfrifoldebau'r rôl y mae pob un ohonom yn ei chwarae yn yr ymgyrch i wella cymunedau lleol.
Rwyf o'r farn bod y dull gweithredu yr wyf wedi ei amlinellu yn un rhesymol, cymesur, ac ymarferol, a'i fod yn darparu man cychwyn ar gyfer cynnal sgwrs â'r sector ei hun a'r rheini sy'n cydweithio ynddo. O weithredu fel hyn, gallwn ymateb i'r galwadau yn yr adroddiad am fwy o eglurder o fewn y sector; creu cyfle i gryfhau cynghorau drwy ddatblygu eu capasiti a'u gallu; a rhoi ar waith brosesau i sicrhau mwy o ymatebolrwydd a chyfranogiad.