Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi rhyddhau'r set gyntaf o fandiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion uwchradd. 

Mae bandio yn rhannu ysgolion, ar sail eu perfformiad, i un o bum band: o Fand 1, sef ysgolion sy'n perfformio'n dda, i Fand 5, sef ysgolion y mae angen i’w perfformiad wella. 

Mae gwybodaeth am ba mor dda y mae disgyblion 15 i 16 mlwydd oed wedi perfformio mewn arholiadau, a'u lefelau presenoldeb, yn cael eu defnyddio i fandio ysgolion. Wrth gyfrifo, rhoddir ystyriaeth hefyd i lefelau tlodi ymhlith disgyblion yr ysgol, gan fod hynny'n gallu cael effaith ar yr hyn y gall yr ysgol ei gyflawni.   

Mae pedwar grŵp o ddata yn cael eu defnyddio i gyfrifo perfformiad cymharol ysgolion.

Y cyntaf o'r rhain yw nifer y disgyblion sy'n cael gradd C neu’n uwch mewn 5 TGAU neu gymhwyster cyfwerth. Yr ail yw'r pwyntiau cyfartalog fesul disgybl 15 mlwydd oed ar gyfer yr wyth canlyniad TGAU gorau, neu’r canlyniadau cyfwerth. Mae'r wyth sgôr uchaf yn cael eu defnyddio er mwyn annog ysgolion i ganolbwyntio ar gyflawni graddau uwch, yn hytrach na chyflawni mwy o TGAU ar raddau is.

Y trydydd grŵp yw perfformiad mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg, a'r pedwerydd yw presenoldeb.

Ar draws y grwpiau, mae perfformiad cymharol yn cael ei fesur yn unol â pherfformiad gwirioneddol; y cynnydd dros amser; a’r perfformiad mewn perthynas â chyfran y disgyblion yn yr ysgol sy'n dod o gefndiroedd cymharol ddifreintiedig, sy’n seiliedig ar hawl disgyblion i gael prydau ysgol am ddim.

Mae'r dulliau hyn o fesur yn adlewyrchu fy mlaenoriaethau i ar gyfer gwella llythrennedd, rhifedd a phresenoldeb, a lleihau effaith amddifadedd.

Mae'r broses wedi'i chynllunio i helpu awdurdodau lleol i gefnogi eu hysgolion yn fwy effeithiol, a chodi safonau a pherfformiad yng Nghymru. Bydd disgwyl i ysgolion sy'n perfformio'n dda rannu eu harfer da yn eang, er mwyn helpu ysgolion sydd â lefel isel o berfformiad. 

Er mwyn i ni godi safonau yn gyffredinol yng Nghymru, rhaid i ni wybod sut y mae ein hysgolion yn perfformio. Mae bandio yn ganolog i hyn.

Cafodd ein cynlluniau ar gyfer bandio ysgolion eu hamlinellu yn ein maniffesto, ac erbyn hyn mae'n rhan allweddol o'n Rhaglen Lywodraethu.  Diben y broses yw ein galluogi i ganolbwyntio’n fwy penodol ar ein perfformiad a’n cynnydd. 

Nid proses ar gyfer gosod labeli ar ysgolion nac ar gyfer codi cywilydd arnynt mohoni, ac nid llunio tablau cynghrair bras yw'r nod ychwaith. Yn hytrach, mae'n rhannu ysgolion yn grwpiau er mwyn nodi pa rai y mae angen ein cefnogaeth arnynt a pha rai y gallem ddysgu wrthynt.

Yn awr, byddwn yn pwyso a mesur y ffordd orau o gynnig cefnogaeth i'r ysgolion hynny sydd yn y bandiau is, fel y gallant ddechrau cymryd camau i  wella. Mae'r gwaith hwn wedi dechrau eisoes fel rhan o'r archwiliadau a gynhelir bob tymor, ac mae Uned Safonau Ysgolion Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â chonsortia'r awdurdodau lleol.  Mae gan bob consortiwm gynlluniau yn eu lle eisoes i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i ysgolion yn y bandiau isaf, ac mae'r gwaith hwn yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Gan fod eu perfformiad wedi gwella’n fawr rhwng 2010 a 2011, mae llawer o ysgolion wedi cael eu symud i fandiau dipyn yn uwch yn y setiau terfynol nag yr oeddynt wedi’u dosbarthu iddynt yn y setiau dros dro. Mae'n amlwg, felly, fod ysgolion yn gallu gwella'n sylweddol gyda'r ymyrraeth briodol, a rhaid i ni ganolbwyntio ar hyn. 

Mae gan rieni a disgyblion hawl i wybod pa ysgolion sydd orau yng Nghymru, a chael gwybod sut y mae eu hysgolion hwy yn perfformio. O'r cychwyn cyntaf, rwyf i wedi datgan y byddwn ni'n sicrhau bod y system ar gyfer bandio ysgolion mor dryloyw â phosibl, a hynny o ran y fethodoleg a ddefnyddir yn ogystal â deilliannau’r ysgolion. Wrth gyhoeddi'r data hyn heddiw, rydym yn bodloni'r ymrwymiad hwn. 

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolbanding/?skip=1&lang=cy