Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet
Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ryddhad y dreth trafodiadau tir. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 8 Ebrill a daeth i ben ar 19 Mai 2024.
Roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd barn am gynigion Llywodraeth Cymru ynghylch rhyddhad anheddau lluosog o dan y dreth trafodiadau tir, ymestyn rhyddhad presennol i awdurdodau lleol Cymru a rhyddhadau eraill.
Mae'r holl ymatebion wedi cael eu hystyried erbyn hyn. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ac yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu effeithiau, buddion a chostau posibl opsiynau sy'n gysylltiedig â rhyddhad LTT. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf am gynlluniau maes o law.
Mae'r adroddiad ar gael yma:
Newidiadau arfaethedig i ryddhadau o'r dreth trafodiadau tir | LLYW.CYMRU