Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 23 Medi, fe wnes i lansio ymgynghoriad ar gynnig Llywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol yn ôl o ysgolion preifat, o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Yng Nghymru, caiff ysgolion preifat eu cofrestru fel 'ysgolion annibynnol'.

Bydd y cynnig hwn yn golygu bod ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yn cael eu trin yn yr un ffordd ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru at ddibenion ardrethi annomestig. Y nod yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru, drwy dynnu gostyngiad treth a ariennir gan y llywodraeth i ysgolion annibynnol yn ôl.

Derbyniodd yr ymgynghoriad 109 o ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai a gymerodd yr amser i roi eu barn ac rwy'n cydnabod nad oedd yr ymatebion a gafwyd gan ysgolion yr effeithir arnynt a rhieni'r disgyblion yn yr ysgolion hynny yn cefnogi'r cynnig. Cafwyd cefnogaeth eang i'r cynigion gan aelodau eraill o'r cyhoedd a ymatebodd. 

Cafodd y materion a godwyd gan y rhai a oedd yn gwrthwynebu newid polisi eu hystyried wrth ddatblygu'r cynnig. Cafodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar y materion hyn ei nodi yn yr ymgynghoriad a'r asesiadau effaith. 

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio nodi a yw unrhyw un neu ragor o'r ysgolion annibynnol y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol (y cyfeirir atynt yn anffurfiol fel 'ysgolion arbennig annibynnol'). Ar ôl ystyried yr ymatebion yn ofalus, mae Llywodraeth Cymru wedi mireinio ei dull arfaethedig i sicrhau bod unrhyw ysgol annibynnol sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu addysg amser llawn i ddisgyblion sydd â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi elusennol. Awgrymwyd y dull hwn gan rai o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad, er mwyn darparu eithriad sy'n cyfateb i'r hyn a fabwysiadwyd ar gyfer Lloegr. Bydd yr eithriad rhag tynnu'r rhyddhad yn ôl yn gymwys i 'ysgolion arbennig annibynnol' lle mae'r awdurdod lleol wedi lleoli'r rhan fwyaf neu'r cyfan o'r disgyblion yno fel rhan o'u CDU, er mwyn diwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Yn amodol ar gynnwys yr eithriad a nodir uchod, gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i dynnu rhyddhad ardrethi elusennol yn ôl o ysgolion annibynnol. 

Heddiw, rwyf wedi gosod y rheoliadau drafft, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu'n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025. 

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn: Rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ar gyfer ysgolion preifat