Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, rwyf wedi gosod y rheoliadau drafft, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy'n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau yn diwygio rhai o'r rheolau sy'n llywodraethu'r rhyddhadau rhag y dreth trafodiadau tir (TTT).
Bydd y rheoliadau newydd yn diwygio'r rheolau sy'n llywodraethu'r defnydd ar y cyd o ryddhad anheddau lluosog (MDR) TTT a'r eithriad ar gyfer is-annedd (SDE). Hyd yn hyn, mae trethdalwyr wedi gallu dewis hawlio MDR mewn perthynas â'r holl drafodiadau anheddau lluosog. Bydd y rheoliadau newydd yn rhoi'r gorau i'r posibilrwydd o hawlio MDR mewn perthynas â thrafodiadau sy'n ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl oherwydd bod SDE wedi'i gymhwyso.
Mae'r diwygiadau hyn yn cyd-fynd â'n hegwyddorion treth allweddol sy'n sail i'n trethi datganoledig, sef codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni ein hamcanion polisi; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.
Wrth nodi'r newid arfaethedig i'r rheolau, mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ryddhadau TTT a gynhaliwyd rhwng 8 Ebrill a 19 Mai 2024. Cyhoeddwyd ymateb cychwynnol ar 17 Gorffennaf 2024.
Fel y nodais yn y Memorandwm Esboniadol yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw i gyd-fynd â'r offeryn statudol drafft, rwy'n disgwyl y bydd y newidiadau i'r rheolau a gynigir heddiw yn arwain at gynnydd yn refeniw TTT o rhwng £1 miliwn a £2 filiwn y flwyddyn. Bydd hyn yn gwrthbwyso'r gost o ddarparu MDR yn rhannol (sef tua £10 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ers 2018). Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ystyried rhyddhad MDR fel rhan o gyfundrefn TTT dros y flwyddyn nesaf, gan ystyried buddion MDR fel ysgogiad polisi ochr yn ochr â'i effaith ar refeniw TTT.