Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y camau rwy’n eu cymryd i ddatblygu’r polisi chwarae ar gyfer Cymru. Fy mwriad yw cyflawni ymhellach mewn perthynas â’r ymrwymiad ym maniffesto Llywodraeth Cymru i “barhau i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc chwarae yn ddiogel ac, yn arbennig, cefnogi mynediad gwell i chwarae ar gyfer plant ag anableddau”.
Mae adran 11 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef Cyfleoedd Chwarae, yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae i blant yn eu hardaloedd nhw, yn unol â’r rheoliadau. Mewn perthynas â’r asesiad hwn, rhaid i Awdurdod Lleol sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae i blant yn ei ardal, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol.
Rwy’n awyddus i ddatblygu’r ddyletswydd hon er lles plant a phobl ifanc Cymru, ac rwyf wedi penderfynu rhoi’r ddyletswydd ar waith mewn dwy ran.
Ar gyfer rhan 1, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda Gwasanaethau Cyfreithiol, yr ystod o feysydd polisi eraill sy’n effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae, a’r sector chwarae, i ddatblygu Rheoliadau a Chanllawiau Statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol. Nod y rhain yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 11(1) i asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae. Byddant yn nodi’r gofynion ar gyfer yr asesiadau ac erbyn pa ddyddiad y mae angen eu cwblhau.
Dylai’r asesiadau ymdrin â’r ystod o ffactorau sy’n effeithio ar gyfleoedd plant a phobl ifanc i chwarae. Dylent gynnwys proffiliau demograffig o’r ardal, archwiliad o nifer y mannau agored, y mannau chwarae presennol a’r potensial i ddatblygu rhai newydd, y ddarpariaeth chwarae, y ddarpariaeth hamdden, ac unrhyw ffactorau eraill sy’n hyrwyddo cyfleoedd chwarae, gan gynnwys materion cynllunio, traffig, trafnidiaeth, mentrau cymunedol, a datblygu’r gweithlu. Caiff y ddarpariaeth a’r cyfleoedd chwarae eu hasesu yn erbyn y meini prawf a nodir yn y Rheoliadau a’r Canllawiau Statudol, a fydd yn cynnwys ymgynghori â phlant a phobl ifanc.
Rhagwelir y byddwn yn cynnal proses ymgynghori 12 wythnos ym mis Chwefror 2012 ynglŷn â’r Rheoliadau a’r Canllawiau Statudol ar gyfer yr asesiadau o gyfleoedd chwarae. Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau gofynnol, rhagwelir y bydd y Rheoliadau yn cael eu gosod ac y byddant yn dod i rym yn ystod haf 2012. Bryd hynny byddwn yn cyhoeddi pecyn cymorth i helpu Awdurdodau Lleol i gynnal yr asesiadau.
Rwyf wedi cytuno i ddyrannu cyllid Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2012–13 i gefnogi Awdurdodau Lleol i gynnal eu hasesiadau cyntaf. Byddaf yn cysylltu ag Awdurdodau Lleol maes o law i roi manylion pellach iddynt am y dyraniad hwn.
Bydd rhan 2 yn ymdrin ag adran 11(3), sef y ddyletswydd ar Awdurdod Lleol i “sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i’w asesiad”. Caiff ei rhoi ar waith ar ôl ystyried yr asesiadau gorffenedig o gyfleoedd chwarae, cynlluniau’r Awdurdodau Lleol ar gyfer sicrhau digon o gyfleoedd chwarae, a’r goblygiadau posibl i Lywodraeth Cymru ar y pryd.
Rwy’n falch iawn o allu symud ymlaen yn y maes polisi pwysig hwn, sy’n ganolog i fwynhad plant o fywyd yn ogystal â’u datblygiad cymdeithasol, corfforol a deallusol.